O Gymru i Lydaw ac yn ôl: Hanes cysylltiad y 'cefndryd Celtaidd'

Baner Llydaw yn AberFfynhonnell y llun, Nicholas Shilton
Disgrifiad o’r llun,

Baner Llydaw - gwenn ha du - yn cyhwfan ar brom Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd

Efallai eich bod chi wedi clywed pobl yng Nghymru yn cyfeirio at Lydawyr fel ‘ein cefndryd Celtaidd’, fel petaent yn rhyw fath o berthnasau coll draw dros y don.

Wel, mae’r Llydawyr yn dweud yr un peth amdanom ni’r Cymry.

Gallwch ddyddio’r diddordeb mawr hwn yn niwylliannau’n gilydd i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr Athro Heather Williams o'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd sy'n bwrw golwg ar rai o uchafbwyntiau’r cysylltiadau rhwng y ddwy wlad; y diwydiannol, y derwyddol, y llenyddol a’r gwleidyddol.

Y cenhadon Cymreig

Heblaw am Edward Lhwyd, a daflwyd i’r carchar pan gyrhaeddodd Brest yn 1701 am fod yr awdurdodau yn amau mai ysbïwr Prydeinig ydoedd, y cysylltiad cynharaf yw’r cenhadon Protestanaidd a ymfudodd i Lydaw o’r 1830au ymlaen.

Roedd William Jenkyn Jones, o’r Cei Newydd yng Ngheredigion, yn genhadwr dros y Methodistiaid Calfinaidd a weithiodd am ddeugain mlynedd yn Kemper, Llydaw.

Ffynhonnell y llun, Casgliad preifat
Disgrifiad o’r llun,

Aeth William Jenkyn Jones draw i Lydaw fel cenhadwr

Er mwyn helpu gyda’r gwaith o 'achub eneidiau' y Llydawyr Pabyddol, lluniodd gasgliad o emynau Llydaweg, Telen ar C’hristen, sy’n cynnwys cyfieithiadau o’r Gymraeg a’r Ffrangeg, yn aml i’w canu ar alawon Cymraeg.

Mae emyn o’r enw Doue ha va bro (Duw a fy ngwlad) i’w ganu ar dôn Mae hen wlad fy nhadau. Yr hyn sy’n drawiadol am yr emyn yw’r cyfeiriad at hoffter y Llydawyr o ‘win ardant’, neu frandi! Sonnir am y ddiod gadarn fel ‘unben sy’n gwasgu ar y bobl’, ac fel bwystfil y mae’n rhaid ei waredu o Lydaw.

Mae’n amlwg iddynt gael tipyn o lwyddiant, oherwydd pan benderfynwyd codi capel ym mhentref Lesconil, sonia Evan Jones, brawd William Jenkyn Jones, mewn llythyr, bod angen y capel ‘gan fod yr ystafell lle y cynnaliwn ein cyfarfodydd wedi dyfod yn llawer rhy fechan’.

Wedi ei gwblhau yn 1912 mae capel ‘Bethel’ yn dal i sefyll ar rue Jean Jaurès, a bu’n addoldy Protestanaidd tan 2007. Heddiw mae’n Ganolfan Celfyddydau cymunedol.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Adeilad capel Bethel yn Lesconil

Draw i Steddfod y Fenni

Yn 1838 roedd y Cymreigyddion yn nodi pum mlwyddiant eu heisteddfod drwy wahodd y Llydawyr i ymuno â nhw yn Y Fenni. Arweinydd y ddirprwyaeth oedd Kervarker, neu Hersart de La Villemarqué, bardd ifanc ac uchelgeisiol.

Roedd dod i Gymru i gwrdd â’i gefndryd Celtaidd fel gwireddu breuddwyd iddo, ac mae gennym gofnod manwl o bob cam o’r ffordd bron, diolch i’r llythyron a anfonodd at ei deulu yn Llydaw.

Noddwyd ei daith gan weinidog addysg Ffrainc, a chafodd sêl bendith swyddogol i fynd ‘i astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg, yn eu perthynas gyda iaith a llenyddiaeth Lydaweg, ac i ddarllen llawysgrifau Cymraeg Coleg Iesu, Rhydychen’.

Yn wir yr hyn sydd ar ei basport yw ‘envoyé littéraire du gouvernement français’ sef 'cennad llenyddol llywodraeth Ffrainc'.

Ffynhonnell y llun, Archives départementales du Finistère
Disgrifiad o’r llun,

Dogfen basbort La Villemarqué, gyda'i swyddogaeth yng Nghymru wedi ei nodi fel 'envoyé littéraire du gouvernement français' (tua canol y ddogfen)

Rhyfedda La Villemarqué, a chenfigenna braidd, at y parch sydd at feirdd a thelynorion yng Nghymru: ‘mae Llydaw ymhell ar ei hôl hi’, cwyna yn ei lythyron adre.

Ar ddiwrnod olaf yr Eisteddfod, yn seremoni’r orsedd, daw uchafbwynt ei daith pan gaiff ei wneud yn fardd. Bardd Nizon oedd ei enw, ac mae ei lythyr adre yn llawn cyffro: ‘Rwy’n fardd nawr, go-iawn yn fardd! Bardd a chanddo deitl!’.

Ffynhonnell y llun, Archives départementales du Finistère
Disgrifiad o’r llun,

Tystysgrifau aelodaeth La Villemarqué â'r Cymreigyddion a'r Orsedd

Y Charles de Gaulle arall...

Mae pawb wedi clywed sôn am Charles de Gaulle, Arlywydd Ffrainc, mae’n debyg. Ond sawl un sy’n gwybod bod ei ewythr llai enwog o’r un enw yn gallu siarad Cymraeg?

Bu’n cyfnewid gwersi Ffrangeg am wersi Cymraeg gydag Elizabeth (Elspeth) Hughes-Davies (wedyn Rhŷs), pan oedd hi’n fyfyrwraig yn y Sorbonne ym Mharis, cyn iddi hi briodi John Rhŷs a ddaeth yn Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen.

Ffynhonnell y llun, Adran Archifau a Llawysgrifau, Prifysgol Cymru, Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Charles de Gaulle, neu 'Siarl o Fro All'

Bu 'Siarl o Fro All' yn ysgrifennydd y mudiad barddol Breuriez Breiz, sef un o ragflaenwyr pan-Geltigiaeth, a bu’n llythyru gyda Michael D. Jones, sylfaenydd Patagonia a’r Parchedig Ioan Pedr am bethau Celtaidd.

Er iddo ddysgu Cymraeg yn rhugl, ni deithiodd erioed i Gymru oherwydd problemau iechyd

Allforio

Ffynhonnell y llun, Caerffili and District Twinning Association
Disgrifiad o’r llun,

Llong yn cario tatws yn gadael Llydaw am Gymru

Ar droad yr ugeinfed ganrif, roedd hi'n oes aur Caerdydd fel tref fasnachol, a allforiai i bedwar ban byd.

Roedd yna gysylltiadau masnachol a morwrol rhwng Cymru a Llydaw, e.e. pan oedd Caerdydd yn anfon glo a theils i ogledd Llydaw, roedd Lannuon/ Lannion yn anfon gwenith, tatws a phren yn ôl i’r cyfeiriad arall.

Ffynhonnell y llun, Caerffili and District Twinning Association
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith papur yn cofnodi llong a oedd yn cludo glo o Abertawe i Quai Aiguillon, Lannuon

Mae’n debyg bod llawer o’r llechi ar doeau tai Trégor yn dod o Gymru, ac allforiwyd glo o Gaerdydd i Naoned/ Nantes a Saint-Nazaire-Trignac.

'Pobl syml, moesgar, a diseremoni'

Cofir am Eisteddfod Caerdydd 1899 fel yr Eisteddfod Pan-Geltaidd gyntaf. Ymysg yr ymwelwyr Celtaidd roedd rhyw bump ar hugain o Lydawyr, ac o’r rheiny derbyniwyd pedwar yn aelodau o’r Orsedd dan arweinyddiaeth yr Archdderwydd Hwfa Môn.

Yma y cynhaliwyd seremoni uno dau hanner y cleddyf wedi hollti ar ei hyd ar lwyfan y pafiliwn am y tro cyntaf fel symbol o undod y Brythoniaid o’r ddwy ochr i’r môr, gyda Taldir yn gofalu am ochr Llydaw, a Cochfarf, sef Edward Thomas, dyn busnes lleol a ddaeth yn nes ymlaen yn Faer Caerdydd yn gofalu am ochr Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Taldir yn ei drowsus llac traddodiadol, testun jôc ym Mlaenau Ffestiniog!

Aelod allweddol o’r ddirprwyaeth i Gaerdydd oedd François Jaffrennou, sy’n fwy adnabyddus yng Nghymru wrth ei enw barddol Taldir, ac yn awdur toreithiog yn Llydaweg, Ffrangeg a Chymraeg.

Yn dilyn yr ŵyl yng Nghaerdydd aeth Taldir i aros gyda rhieni ei gyfaill, yr artist John Kelt Edwards ym Mlaenau Ffestiniog.

Pan mae pobl Blaenau yn chwerthin am ei drowsus mawr Llydewig, mae’n debyg i Taldir eu hateb yn Gymraeg; a dywedodd mewn erthygl bod Gogleddwyr yn: ‘[b]obl syml, moesgar, a diseremoni; y maent yn gyfeillion i bob un a fedr siarad Cymraeg, ac yn hoff iawn o’u brodyr o Lydaw’.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yn 1904 cynhaliwyd y Gyngres Geltaidd yng Nghaernarfon. Mynychodd 48 Llydawr, gan gynnwys Taldir, y ffotograffydd Émile Hamonic a’r canwr poblogaidd Théodore Botrel.

Ffynhonnell y llun, Wikimedia Commons
Disgrifiad o’r llun,

Cyngres Geltaidd 1904 yng Nghaernarfon - rhai o'r mynychwyr Llydewig, gyda'r Archdderwydd Hwfa Môn yn eu plith

Barn y tri llenor

'Codi’r hen wlad yn ei hôl’ oedd nod O.M. Edwards, a aeth am dro yn Llydaw yn ddyn ifanc yn 1889.

Erbyn hyn roedd y syniad bod y Llydawyr a’r Cymry yn gefndryd, ac yn gallu deall ei gilydd yn ddidrafferth oherwydd eu bod yn rhannu’r un iaith, eisoes wedi tyfu’n fyth.

I O.M. Edwards roedd Llydaw yn rhyw fath o ail Gymru, ond mae ei deithlyfr Tro yn Llydaw yn llawn rhagfarn wrth-Babyddol: ‘Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw [...] ni chawsant Ysgol Sul i roddi iddynt ddemocratiaeth Cymru [...] Cymru wedi sefyll tua dechre’r ddeunawfed ganrif ydyw Llydaw’ meddai.

Bu Ambrose Bebb yn dysgu astudiaethau Celtaidd yn y Sorbonne cyn gorffen ei yrfa ym Mangor. Roedd yn ieithydd brwd a feddai ar adnabyddiaeth arbennig o Lydaw a Ffrainc, a doedd ganddo fawr o amynedd gyda’r myth am gyd-ddealltwriaeth ieithyddol; meddai: ‘Clywais daeru weithiau y gallai Cymro a Llydawr ddeall ei gilydd ar y waith gyntaf. Chwedl ydyw honno nad oes dim gwir ynddi. Dim yw dim. Nis medrir heddiw. Nis medrid ddoe’.

Ffynhonnell y llun, Bibliothèque nationale
Disgrifiad o’r llun,

Cymry draw yn Llydaw ar gyfer gŵyl Geltaidd yn Riec-sur-Belon yn 1927. Mae'n debyg fod Cynan, Ambrose Bebb a T. Gwynn Jones yn bresennol, ymhlith enwau mawr eraill

Mae cyfrol John Dyfnallt Owen, O Ben Tir Llydaw, yn siarsio’r darllenydd i beidio â cholli cyfleoedd i weld y wir Lydaw. ‘Ni ddylai’r teithiwr ar un cyfrif golli rhyfeddodau’r [ffordd i Hennebont]’ meddai’r teithiwr awdurdodol sy’n ceisio crwydro oddi ar y llwybrau cyfarwydd er mwyn gweld agweddau o ddiwylliant Llydaw sydd ar ddiflannu.

Fel O.M. Edwards ac Ambrose Bebb gwêl fod pobl yn falch o gwrdd â chyd-Geltiaid o Gymru, ac yn wir manteisia ar hyn wrth geisio tynnu lluniau. Honna fod yna grŵp o wragedd wrth y cei yn Concarneau a oedd yn ‘codi a throi cefn ar y camera, ond yn barod i gymryd eu llun wedi deall mai Cymry oeddym’.

Sioni Winwns

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tri Sioni yn clymu winwns ar linyn ym Mhorthmadog yn 1958

Mae pawb wedi clywed am y Sioni Winwns, ond efallai bod y diolch am hyn i Gwyn Griffiths y newyddiadurwr o Swyddfynnon yng Ngheredigion, un a wnaeth gymaint, trwy gyfrwng rhaglenni radio a theledu, a thrwy gyfrwng llyfrau ac arddangosfeydd yng Nghymru a Llydaw, i gadw’r cof yn fyw. Cyhoeddodd o leiaf bump llyfr ar y Sioni Winwns yn Gymraeg, Saesneg a Ffrangeg yn ogystal â llyfrau cyffredinol am Lydaw.

Recordiodd Gwyn Michel Olivier, Sioni a oedd yn rhugl ei Gymraeg, ar gyfer rhaglenni radio BBC Cymru. Roedd mor uchel ei barch yn ardal y winwns pinc yng ngogledd orllewin Llydaw nes iddo gael ei wneud yn aelod o ‘Urdd y winwns’ (‘confrérie de l’oignon’) sy’n gorymdeithio trwy strydoedd Rosko/ Roscoff bob mis Awst.

Wrth gwrs, aeth y Sioni Winwns i bob cwr o Brydain, ond meddai Gwyn Griffiths: ‘rwyf am fynnu mai ymysg y Cymry y caent y croeso mwyaf twymgalon’.

Addysgu a gefeillio

Dros y degawdau bu nifer fawr o Lydawyr yn dod i Aberystwyth yn benodol, yn fyfyrwyr ERASMUS, i berffeithio’u Cymraeg, neu i ymchwilio i gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Un a weithiodd yn ddiflino i hybu cyfeillgarwch rhwng Cymru a Llydaw oedd Rita Williams, a oedd yn ddarlithydd Llydaweg yng Ngholeg y Brifysgol yn Aberystwyth. Yno fe ddysgodd Lydaweg i fyfyrwyr Cymru, fel y gwnaeth Jean Piette (Arzel Even), o’i blaen, a Rhisiart Hincks wedyn.

Heddiw, mae’n agos at hanner cant o drefi a phentrefi yng Nghymru a Llydaw wedi eu gefeillio, ac mae hyn wedi arwain at bob math o gyfnewid a chyd-weithio rhwng ysgolion a chynghorau a chlybiau chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Caerffili and District Twinning Association
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cysylltiad rhwng trefi Caerffili a Lannuon yn gryf, a hynny ers 1991. Mae'r pentrefi cyfagos, Llanbradach a Ploubezre, hefyd bellach wedi eu gefeillio

Mae’n debyg bod gefeillio gyda Chymru wedi deffro rhai Llydawyr i’w hunaniaeth Geltaidd, e.e. yn achos y frwydr dros arwyddion ffordd dwyieithog. Ysbrydolwyd y mudiad Stourm ar Brezhoneg gan Gymdeithas yr Iaith, a bu’r ffaith i bobl a gymerodd ran mewn cyfnewid weld arwyddion dwyieithog yng Nghymru yn hwb i’r achos hefyd.

Hawdd credu bod gefeillio rhwng Cymru a Llydaw yn rhywbeth llawer cryfach nag ydyw rhwng trefi ardaloedd eraill yn Ffrainc neu yn Ewrop.

  • Gwrandewch ar raglen Dei Tomos i glywed sgwrs am artist gyda chysylltiadau gyda Llydaw.