Beiciwr modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Barri

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad am tua 13:45 brynhawn Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Y Barri ddydd Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar Atlantic Way yn y dref am tua 13:45 yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur.
Fe gadarnhaodd swyddogion fod gyrrwr y beic modur KTM 390 oren wedi marw o'i anafiadau.
Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.