Addasu dedfrydau troseddwyr rhyw wedi camgymeriad llys

Stuart Compton a Tracy TurnerFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stuart Compton a Tracy Turner eu carcharu ddydd Llun am gynllunio ymosodiadau rhyw ar blant

  • Cyhoeddwyd

Mae barnwr wedi addasu'r dedfrydau a roddodd i ddyn a dynes oedd wedi cynllunio troseddau rhyw yn erbyn plant yn sgil "camgyfrifiad" mathemategol.

Dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd Clarke wrth y llys ym Merthyr Tudful y byddai'n addasu'r dedfrydau i Stuart Compton, 46, a Tracy Turner, 52.

Cafodd y ddau eu carcharu ddydd Llun, pan glywodd y llys fod y ddau wedi cyfnewid dros 100,000 o negeseuon ar Whatsapp lle'r oedden nhw'n trafod cyflawni gweithredoedd rhyw ar blant.

Clywodd y gwrandawiad ddydd Mercher bod camgymeriadau wedi eu gwneud yn y gwrandawiad dedfrydu.

Cafodd Compton ddedfryd oes, ond mae'r isafswm y bydd dan glo cyn cael gwneud cais am barôl wedi codi o saith mlynedd i wyth mlynedd ac 11 mis.

Roedd Turner wedi ei charcharu am 12 mlynedd yn wreiddiol gyda dwy flynedd ychwanegol ar drwydded.

Ddydd Mercher, fe wnaeth y barnwr leihau'r ddedfryd i 10 mlynedd o garchar, gyda dwy flynedd ar drwydded.

Fe wnaeth y barnwr ymddiheuro i bawb oedd wedi eu heffeithio.