De Caerdydd: Galw am addysg Gymraeg ar 'stepen y drws'

Ymgyrch
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd digwyddiad ei gynnal y tu allan i Neuadd y Sir brynhawn Iau i ddechrau'r ymgyrch swyddogol

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr sy'n galw am sefydlu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ne Caerdydd yn dweud bod gan blant yr ardal hawl i gael addysg Gymraeg ar garreg y drws.

Cafodd digwyddiad ei gynnal y tu allan i Neuadd y Sir brynhawn Iau i ddechrau'r ymgyrch swyddogol am bedwaredd ysgol uwchradd Gymraeg yn y brifddinas.

Yn gynharach eleni fe ddaeth hi i'r amlwg nad oedd plant o ysgolion cynradd Hamadryad a Phwll Coch wedi cael lle yn Ysgol Glantaf er eu bod nhw o fewn y dalgylch.

Fe ddechreuodd 14 o blant proses apêl ac fe gadarnhaodd Cyngor Caerdydd fis diwethaf fod 10 ohonyn nhw wedi cael lle yng Nglantaf.

Mae rhieni'n poeni y bydd plant yr ardal yn wynebu problem debyg y flwyddyn nesaf, ond mae'r cyngor yn dadlau bod eleni'n flwyddyn anarferol o ran y pwysau ar ysgolion uwchradd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Tair ysgol uwchradd Cymraeg sydd yng Nghaerdydd ar hyn o bryd - Glantaf, Plasmawr a Bro Edern

Mae Alex Clatworthy yn rhan o'r ymgyrch dros bedwaredd ysgol i wasanaethu cymunedau Glanyrafon, Treganna, Grangetown, Trebiwt a'r Bae.

“Mae angen ysgol uwchradd Gymraeg yn ne Caerdydd sydd wedi ei gwreiddio yn ein cymuned ac sy’n cynrychioli amrywiaeth ddiwylliannol gyfoethog ein hardal," meddai.

"Mae hawl gan blant de Caerdydd i gael addysg uwchradd Gymraeg ar stepen drws felly - ac mae cyfle gwirioneddol gynhyrfus gan y cyngor i wireddu hyn.”

Mae ymgyrchwyr yn dadlau fod Ysgol Glantaf yn bell o rai o'r cymunedau yma ac y bydd hi'n anodd i blant fanteisio ar weithgareddau allgyrsiol.

Mae Catrin Dafydd hefyd yn rhan o'r ymgyrch.

Dywedodd hi: "Fel un o ‘ddinasoedd cyfeillgar i blant’ UNICEF, rydym yn obeithiol fod cyngor y ddinas am sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a ieithyddol i blant mwyaf difreintiedig y brifddinas fel y gallant gerdded a theithio’n iach i ysgol uwchradd Gymraeg fydd wedi ei gosod yng nghalon y gymuned aml-ddiwylliannol hon.”

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r ysgolion cynradd fyddai'n bwydo'r bedwaredd ysgol uwchradd yw Ysgol Hamadryad

Wrth ymateb i alwadau am bedwaredd Ysgol Uwchradd Gymraeg dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd fod yna ddigon o lefydd ar gael yn y tair ysgol uwchradd bresennol.

"Mae poblogaeth Caerdydd wedi gostwng 20% mewn blynyddoedd diweddar sy'n golygu bod llai o blant yn ein hysgolion cynradd. Fe fydd hyn yn effeithio ar ysgolion uwchradd maes o law.

"Ry'n ni wedi ymrwymo i gefnogi twf yr iaith ac addysg Gymraeg ym mhob rhan o'r ddinas ond does dim digon o blant i gynnal pedwaredd ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd".

Mae'r cyngor yn dweud eu bod nhw wedi ymestyn 10 ysgol uwchradd er mwyn cymryd mwy o blant eleni, ond y bydd nifer y plant yn gostwng y flwyddyn nesaf.

Mae llefydd gwag, meddai'r cyngor, yn rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion ac felly mae'n rhaid iddyn nhw gynllunio yn ofalus.