'Rhaid dyblu'r ymdrech i godi rhagor o ysgolion Cymraeg'
- Cyhoeddwyd
"Mae'n rhaid dyblu a threblu'r ymdrech i godi rhagor o ysgolion Cymraeg."
Dyna, meddai mudiad Dyfodol i'r Iaith, yw'r unig ffordd i'r llywodraeth gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Bil Addysg Gymraeg fydd yn "rhoi cyfle teg" i bob plentyn ysgol ddod yn siaradwyr Cymraeg "hyderus".
Wrth gyhoeddi'r bil dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg mai'r bwriad ydi "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol yn ddefnyddiwr Cymraeg annibynnol, o leiaf" er mwyn "cyfrannu at y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050".
Bwriad y bil ydi sicrhau bod y cyfle i blant ar draws Cymru i "drochi" mewn addysg Gymraeg a bod mwy o sgiliau ac addysg Gymraeg mewn ysgolion sy'n dysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.
Byddai ysgolion yn cael eu rhoi mewn "categorïau iaith" a hynny ar sail os ydyn nhw'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ysgolion dwyieithog neu'n dysgu'n bennaf yn Saesneg ac yn rhannol yn Gymraeg.
Byddai gan yr ysgolion hynny dargedau iaith penodol yn ddibynnol ar eu categori.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dweud y byddan nhw'n cynyddu nifer y staff fydd yn gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a chynnig mwy o adnoddau Cymraeg i ysgolion.
Tra'n croesawu "bwriad" y bil mae mudiad Dyfodol i'r Iaith yn dweud bod angen trochi plant yn llwyr yn yr iaith.
Maen nhw hefyd yn poeni nad oes digon o athrawon gyda'r sgiliau Cymraeg angenrheidiol a bod darpar athrawon yn cael eu colli am fod Llywodraeth Cymru yn ariannu myfyrwyr prifysgol i gael eu haddysg dros y ffin.
Dair blynedd yn ôl fe ddechreuodd Angharad Jones gwrs 'Cymraeg mewn blwyddyn'.
Roedd yr athrawes gynradd o Fedwas ger Caerffili yn teimlo cywilydd nad oedd hi'n gallu helpu'r plant. Doedd hi ei hun ddim wedi cael unrhyw Gymraeg yn yr ysgol.
Erbyn hyn mae hi'n rhugl ac yn arwain y gwaith o ddatblygu dwyieithrwydd yn Ysgol Uwchradd Cas-gwent.
Mae'r llywodraeth yn awyddus i weld mwy o Gymraeg mewn ysgolion Saesneg.
"Dwi'n meddwl gall athrawon wneud gwahaniaeth mawr wrth drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf," meddai.
"Mae'n bwysig bod fi'n model rôl hefyd. Dwi wedi dysgu, felly maen nhw'n gallu dysgu."
'Bwysicach nag erioed'
Mae athrawon sy'n medru'r Gymraeg yn hanfodol os yw'r llywodraeth am gyrraedd ei thargedau ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae Angharad yn dweud bod y myfyrwyr yn elwa nawr fod ganddi hyder i ddysgu'r iaith.
"Mae agwedd y plant tuag at y Gymraeg yn newid bob dydd. Dwi 'di bod yma ers dwy flynedd a dwi'n gallu gweld y gwahaniaeth.
"Mae plant mo'yn dysgu'r iaith, maen nhw mo'yn dysgu hanes yr iaith ac am ddiwylliant Cymraeg hefyd.
"Dan ni'n dysgu reit ar y ffin felly mae'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n rhannu'r iaith."
Mae myfyrwyr Blwyddyn 9 y buon ni'n eu holi yn cytuno.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i ddysgu Cymraeg," meddai Connor.
"Bydd e'n help i gael swydd yn y dyfodol."
"Dwi'n credu bod angen trio dysgu mwy na jyst y pethe sylfaenol a dylen ni fod yn gwneud ymdrech i allu siarad Cymraeg," meddai Grace.
"Licen i mod i'n gallu ei ddefnyddio fe bob dydd, fel dwi'n neud gyda Saesneg," meddai Oscar.
'Angen cynyddu addysg Gymraeg'
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y Bil Addysg Gymraeg yn rhoi cyfle teg i bob plentyn yng Nghymru ddod yn siaradwyr Cymraeg, beth bynnag fo’u cefndir a pha bynnag ysgol y maen nhw'n ei mynychu.
Mae mudiad Dyfodol i'r Iaith yn dadlau bod angen cynyddu addysg Gymraeg os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau.
"Erbyn 2040 bydd rhwng 26% a 30% o blant cynradd yn cael addysg Gymraeg," dywedodd cadeirydd y mudiad, Heini Gruffudd.
"Fyddan nhw byth yn gallu cyrraedd 50% erbyn 2050. Mae'n rhaid dyblu a threblu'r ymdrech i godi rhagor o ysgolion Cymraeg.
"Mae e wedi ei brofi'n rhyngwladol mai addysg drwy'r iaith leiafrifol yw'r unig ddull effeithiol o gael siaradwyr newydd.
"Addysg Gymraeg yn y pen draw yw'r unig addysg sy'n mynd i roi siaradwyr newydd i chi."
Mae Angharad yn cytuno efallai na fydd ysgolion Saesneg yn cynhyrchu siaradwyr rhugl, ond mae'n bwysig, meddai, i gyflwyno'r iaith i'r plant.
"Mae gyda nhw ddigon o Gymraeg i ddefnyddio yn yr ardal ond gallai'r llywodraeth wneud mwy gyda hyfforddiant i athrawon eraill.
"Es i ar y cwrs Cymraeg mewn blwyddyn ac mae e wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fi a'r plant. Os yw'r athrawon yn cael hyfforddiant maen nhw'n gallu rhannu'r iaith hefyd."
Mae Dyfodol i'r iaith yn poeni fod darpar athrawon yn cael eu colli am fod Llywodraeth Cymru yn ariannu myfyrwyr prifysgol i gael eu haddysg dros y ffin.
"Dwi'n ofni bod ariannu myfyrwyr i fynd i Loegr a mannau eraill i astudio yn bwrw yn erbyn unrhyw obaith sydd gyda ni o gael digon o athrawon," meddai Heini Gruffudd.
"Bydd y bil yn gwneud dim oni bai bod polisïau felly yn cael eu newid."
Wrth ymateb i gyhoeddi Bil y Gymraeg ac Addysg heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod y llywodraeth yn “colli cyfle mewn cenhedlaeth” i osod nod hirdymor bod pob plentyn yn cael addysg Gymraeg.
Maen nhw'n dweud mai eu "blaenoriaeth" nhw yn y misoedd nesaf "fydd cryfhau’r ddeddfwriaeth yn ystod ei thaith trwy’r Senedd".
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf
Dywedodd Mentrau Iaith Cymru eu bod nhw yn croesawu'r bil a’i ddyhead i "bob disgybl ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg statudol".
"Mae’r rhwydwaith o Fentrau Iaith ar draws Cymru yn siarad yn ddyddiol gydag oedolion ifanc sy’n difaru na chawson nhw’r cyfle i ddod yn siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg.
"Er fod y Mentrau’n darparu cyfleoedd i oedolion i ddefnyddio’r Gymraeg, i ddod yn siaradwyr mwy hyderus, mae pawb yn gwybod ei fod yn llawer haws i ddysgu iaith o oed cynnar.
"Ond, law yn llaw â’r ymdrechion yn yr ysgol, mae angen profiad cyfan o’r Gymraeg ar blant a phobl ifanc.
"Heb ofodau Cymraeg, lle gallant ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol a rhwydd, bydd pobl ifanc ddim yn dod yn siaradwyr hyderus pa bynnag mor effeithiol mae’r newidiadau y mae’r bil addysg yn eu cyflwyno."
'Cyrraedd ein targed'
Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod yn cydnabod yr her o gynyddu nifer yr athrawon yn y sector Gymraeg, a bod Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg, dolen allanol yn mynd i helpu iddatblygu gweithlu Cymraeg dros y ddegawd nesaf.
"Ry'n ni’n ymrwymedig i gyrraedd ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050," dywedodd.
"Mae'r bil yn garreg filltir bwysig a fydd yn creu sylfeini cadarn i gynyddu addysg Gymraeg."