Teyrngedau i ddynes o Bontarddulais fu farw mewn gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i Emily Thornton-Sandy, fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn Sir Gaerfyrddin ddydd Mawrth 5 Tachwedd.
Cafodd y ddynes, 30, o Bontarddulais ei chludo i'r ysbyty, ond bu farw yno ar 11 Tachwedd wedi i'w chyflwr waethygu.
Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd ar ffordd yr A48 rhwng pentref Cross Hands a Phont Abraham - bu farw dyn yn y fan a'r lle.
Dywedodd teulu Emily ei bod hi'n fam, a merch, oedd ag "enaid deallus, caredig a gofalgar".
Mewn datganiad dywedodd ei gŵr: "Mae hyn dal yn anghredadwy, a does dim un ohonom yn medru dirnad yr hyn sydd wedi digwydd. Roedd Emily yn garedig, yn meddwl am eraill, ac roedd ganddi gymaint mwy i'w roi.
"Defnyddiodd ei gwybodaeth fel cyfreithiwr i helpu pobl sydd â salwch diwydiannol.
"Roedd Emily yn caru llenyddiaeth ac yn angerddol am ei phlanhigion.
"Mae ei marwolaeth wedi gadael bwlch yn ein bywydau na ellir fyth ei lenwi. Dwi'n deffro bob bore yn methu credu na fyddaf yn gweld ei gwên fyth eto."
Roedd Emily newydd fynd â'i chi at y milfeddyg pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad - bu farw ei chi Scout yn fuan wedi hynny.
Mae teulu Emily yn diolch i holl staff y gwasanaethau brys a’r bobl oedd gerllaw adeg y digwyddiad am yr holl gymorth ac maen nhw'n ddiolchgar hefyd i staff Ysbyty Athrofaol Cymru am wneud popeth o fewn eu gallu i helpu Emily.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd