Amgueddfa Ceredigion i gau am flwyddyn i wneud 'gwaith atgyweirio'

Bydd yr amgueddfa restredig Gradd II yn Aberystwyth ar gau o 19 Mai
- Cyhoeddwyd
Bydd Amgueddfa Ceredigion yn cau am tua blwyddyn er mwyn cynnal "gwaith atgyweirio a chynnal a chadw hanfodol".
Fe fydd yr amgueddfa restredig Gradd II yn Aberystwyth ar gau o 19 Mai, gyda disgwyl iddi ailagor "yng ngwanwyn 2026".
Mae'r gwaith atgyweirio yn cynnwys to newydd, atgyweirio nenfwd crog ac ail-blastro waliau sydd wedi'u difrodi.
Ond bydd y caffi, y ganolfan groeso a'r siop yn parhau ar agor yn ystod y gwaith atgyweirio.
'Agor cyn gynted â phosib'
Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, aelod cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am ddiwylliant, fod y "gwaith atgyweirio yn hanfodol i sicrhau dyfodol yr adeilad arbennig a phoblogaidd hwn".
"Bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud yn ofalus er mwyn i genedlaethau'r dyfodol fwynhau ymweld â'r creiriau, i fynychu digwyddiadau a chyngherddau gwych ac arddangosfeydd arobryn.
"Rwy'n hyderus bydd drysau'r Amgueddfa yn agor cyn gynted â phosib a bydd yna groeso cynnes unwaith eto i bawb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ebrill