Lluniau: Cymeriadau Aberystwyth

- Cyhoeddwyd
Ymhob tref mae 'na gymeriadau sy'n creu naws arbennig i'r lle ac mae arddangosfa newydd yn dathlu'r rhai sy'n gwneud Aberystwyth yn lle unigryw.
Y ffotograffydd Bruce Cardwell sydd wedi bod yn cofnodi rhai o drigolion y dref prifysgol a glan môr wnaeth o ymgartrefi ynddi ar ôl gadael gogledd Iwerddon nôl yn 1981.
Dywedodd ei fod wedi mynd o gwmpas y dref yn sgwrsio gyda rhai o'r trigolion er mwyn iddyn nhw fod yn gyfforddus o flaen y lens.
Meddai: "Dwi'n cadw pethau yn anffurfiol heb lot o dechnoleg, ac efo camera eithaf syml a lens bychan i gadw nhw'n relaxed. Dwi'n cadw pethau'n syml hefyd er mwyn canolbwyntio ar y cymeriad o'm mlaen i.
"Dwi'n people person, yn hoffi cyfarfod pobl a siarad efo nhw ers dwi'n ifanc a dwi'n meddwl bod y teimlad yn dod drosodd yn y lluniau."
Fe fydd ffotograffau arddangosfa Byd Bach Aber i'w gweld o 4 Ebrill ymlaen mewn sawl lleoliad yn y dref gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Ceredigion, a hefyd Ysbyty Bronglais, a nifer o siopau a busnesau ar hyd a lled y dref dros yr haf.











Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd12 Ionawr