Chwaraewr TNS yn ei ddagrau ar ôl cael ei gam-drin yn hiliol, meddai'r clwb

Aramide OtehFfynhonnell y llun, Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Aramide Oteh, 26, ymlaen fel eilydd am 11 munud olaf y gêm nos Fawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd (TNS) yn honni fod un o'u chwaraewyr wedi cael ei gam-drin yn hiliol gan gefnogwr cartref yng Ngogledd Macedonia nos Fawrth.

Dywedodd Craig Harrison, prif hyfforddwr y Seintiau, fod y digwyddiad wedi gadael yr ymosodwr, Aramide Oteh, yn ei ddagrau.

Fe ddigwyddodd, yn ôl Harrison, yn dilyn y golled o 2-1 yn erbyn Shkendija yn yr Arena Tose Proeski yn Skopje yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Dywedodd y Seintiau Newydd eu bod yn "condemnio'r cam-driniaeth hiliol a gyfeiriwyd at Aramide Oteh, yn gryf ac yn ddiamwys".

Yn eu datganiad, dywedodd y Seintiau nad oes "unrhyw le i hiliaeth, mewn pêl-droed nac mewn cymdeithas".

"Mae'r Seintiau Newydd yn falch o gefnogi ymgyrch #NaIHiliaeth UEFA ac yn parhau i fod wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, parch a chynhwysiant ar y cae ac oddi arno."

Ymunodd Oteh, sy'n Sais, gyda'r Seintiau yn 2024 yn dilyn cyfnodau gyda QPR, Bradford City, Stevenage, Salford City, Crawley Town a Walsall.

Craig HarrisonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi'n warth llwyr i gefnogwr siarad ag unrhyw un fel hyn," medd Craig Harrison

"Mae o mewn dagrau - tydi hynny ddim yn digwydd heb reswm," meddai Harrison.

"Beth sydd wedi cael ei ddweud a'i wneud yn amlwg [ydy'r broblem].

"Yn amlwg mae hynny'n annerbyniol. Byddwn yn riportio hynny."

Ychwanegodd Harrison fod hi'n "warth llwyr i gefnogwr siarad ag unrhyw un fel hyn a gobeithio bydd y troseddwr yn cael cosb deg".

Does dim sylw wedi dod gan Shkendija hyd yn hyn, er bod y clwb wedi awgrymu y byddan nhw'n ymgynghori â staff diogelwch a phobl a allai fod wedi gweld y digwyddiad honedig.

Mae'r BBC wedi holi UEFA am sylw.

Enillodd Shkendija 2-1 dros y ddwy gêm, yn dilyn sgôr gyfartal heb gôl wythnos ddiwethaf yng nghartref y Seintiau.

O ganlyniad i'r golled bydd tîm Harrison yn disgyn i Gyngres UEFA ac yn wynebu Differdange o Lwcsembwrg yn y gystadleuaeth honno.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.