Marina Aberystwyth yn nwylo'r gweinyddwyr

marina Aberystwyth
  • Cyhoeddwyd

Mae marina Aberystwyth wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr oherwydd trafferthion ariannol ei riant-gwmni, oedd wedi methu talu staff na biliau treth chwaith.

Deufis yn ôl cafodd gweinyddwyr eu galw i gymryd cyfrifoldeb dros y Marine and Property Group, sy’n berchen ar farinas yn Aberystwyth, Caerdydd, Porth Tywyn a'r Felinheli, yn ogystal â Watchet yng Ngwlad yr Haf.

Mae gan y grŵp ôl-ddyledion o tua £1.8m i Gyllid a Thollau ei Fawrhydi, a chyfanswm o bron i £14m yn ddyledus i’w holl gredydwr.

Aeth Marina Aberystwyth i ddwylo'r gweinyddwyr yn dilyn deiseb gan HMRC dros y trethi sydd heb eu talu.

'Problemau llif arian'

Sefydlwyd y grŵp yn 2006, ac mae ei swyddfa gofrestredig ym Mhentref Morol Caerdydd.

Penodwyd RSM UK i weinyddu’r grŵp ym mis Ebrill.

Yn eu hadroddiad mae’r gweinyddwyr yn dweud bod y grŵp wedi gweithredu’n dda yn hanesyddol.

Ond roedd effaith y pandemig ar y galw am lefydd mewn marinas, a chwyddiant yn 2022, yn golygu bod ei berfformiad "wedi dirywio’n sylweddol".

Ffynhonnell y llun, Nigel Brown/Geograph

Mae’r adroddiad yn ychwanegu bod sefyllfa’r grŵp wedi gwaethygu pan adawodd y tîm cyllid, ac nad oedd staff newydd wedi’u penodi yn eu lle, sy’n golygu na chafodd cyfrifon y cwmni eu diweddaru ar ôl Mai 2022.

Yn ôl yr adroddiad, roedd problemau llif arian ac ymgais aflwyddiannus i ddenu buddsoddiad wedi arwain at fethdaliad dau farina – Porth Tywyn a'r Felinheli - ym mis Mawrth 2023.

Gan fod y cwmni'n gwneud colled, dywedodd y gweinyddwyr ei fod wedi gohirio taliadau i'r holl gredydwyr, gan gynnwys staff a chyflenwyr.

Yn ddiweddar, roedd gohirio’r taliadau hyn wedi arwain at "weithredu ymosodol gan gredydwyr trwy Swyddogion Gorfodi’r Uchel Lys yn ymweld â safleoedd bob dydd".

Ceisio canfod prynwyr

Ers cael eu penodi mae'r gweinyddwyr yn dweud eu bod wedi rhoi blaenoriaeth i dalu cyflogau, gan fod risg uchel y gallai’r holl staff o bosib adael y grŵp, gan nad oeddent wedi cael eu talu.

Mae dros £146,000 wedi’i dalu i staff mewn ôl-ddyledion cyflog ers i’r grŵp fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Dywedodd y gweinyddwyr y bydd proses werthu ffurfiol o bob marina yn dechrau'n fuan.

Ychwanegodd fod "nifer o bartïon wedi cysylltu â nhw i fynegi diddordeb".

Mae unig gyfarwyddwr y grŵp - Christopher Odling-Smee, sydd wedi'i leoli yn y Swistir - wedi cael cais am sylw.

Pynciau cysylltiedig