Cwyn Siân Doyle am erthygl Nation.Cymru wedi'i diystyru
- Cyhoeddwyd
Mae cwyn a gafodd ei gwneud gan gyn-brif weithredwr S4C am erthygl ar wefan Nation.Cymru wedi cael ei diystyru.
Roedd Siân Doyle yn anhapus gyda chynnwys erthygl oedd yn dweud ei bod i ffwrdd o'i gwaith gan ei bod yn teimlo dan straen.
Roedd Ms Doyle yn dadlau fod hyn yn torri cymal o God Ymarfer Golygyddion IPSO - Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg.
Yn ôl Ms Doyle, a gafodd ei diswyddo fel prif weithredwr y sianel ym mis Tachwedd y llynedd, roedd yr erthygl yn cynnwys gwybodaeth feddygol breifat.
Ond daeth IPSO i'r casgliad fod diddordeb cyhoeddus digonol i gyfiawnhau cyhoeddi'r wybodaeth.
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023
Cafodd Ms Doyle ei diswyddo y llynedd, gydag Awdurdod S4C yn dweud fod penderfyniad yr aelodau yn un "anodd ond unfrydol".
Daeth yn sgil tystiolaeth a gafodd ei roi i gwmni cyfreithiol Capital Law, oedd yn ymchwilio i'r amgylchedd o fewn y sianel.
Roedd y dystiolaeth dderbyniodd yr adroddiad yn cynnwys honiadau bod Ms Doyle wedi ymddwyn mewn modd "unbenaethol" ac yn creu diwylliant o ofn.
Fe wnaeth Ms Doyle gyhoeddi datganiad chwyrn yn dweud iddi gael ei diswyddo'n annheg.
Dywedodd Ms Doyle bod adroddiad Capital Law wedi ei "thristáu" a'i bod "ddim yn adnabod na derbyn yr honiadau a wnaed".
Beth oedd manylion y gŵyn?
Roedd pennawd yr erthygl gan Nation.Cymru, a gafodd ei chyhoeddi ar 14 Hydref 2023 pan oedd Ms Doyle yn dal yn brif weithredwr S4C, yn dweud ei bod "i ffwrdd o'i gwaith gyda stress" yn dilyn diswyddiad Llinos Griffin-Williams fel prif swyddog cynnwys.
Fe wnaeth Ms Doyle gŵyn i IPSO am yr erthygl ychydig dros ddeufis yn ddiweddarach, ar 19 Rhagfyr - wedi iddi hithau gael ei diswyddo.
Roedd hi'n dadlau fod manylion yn y stori mynd yn groes i reolau darlledu ynglŷn â phreifatrwydd, am ei fod yn datgelu'r rheswm penodol ei bod hi i ffwrdd o'r gwaith, ac yn cynnwys "gwybodaeth feddygol breifat".
Dywedodd nad oedd hi'n credu bod yr honiadau o fwlio yn ei herbyn yn ddigon o reswm i gyhoeddi'r fath wybodaeth.
Ond roedd Nation.Cymru wedi dadlau fod y wybodaeth o ddiddordeb i'r cyhoedd gan fod S4C "mewn argyfwng" ar y pryd, a bod staff y sianel a'r cyhoedd yn ehangach yn haeddu gwybod pam fod y prif weithredwr i ffwrdd o'i gwaith.
Roedden nhw hefyd yn dadlau y byddai cyhoeddi'r rheswm pam ei bod yn absennol yn lleihau sibrydion - fel bod Ms Doyle wedi cael ei diswyddo.
Dywedodd IPSO eu bod yn cydnabod nad oedd y manylion am pam yr oedd Ms Doyle yn absennol o'i gwaith wedi cael ei wneud yn gyhoeddus cyn i Nation.Cymru gyhoeddi'r erthygl.
Ychwanegon nhw fod gan Ms Doyle ddisgwyliad teg na fyddai'r wybodaeth am "stress" yn cael ei wneud yn gyhoeddus.
Dywedodd IPSO fod Nation.Cymru i weld yn cydnabod fod yr erthygl yn cynnwys gwybodaeth feddygol breifat, ond eu dadl nhw oedd bod cyfiawnhad cyhoeddi hynny am ei fod o ddiddordeb i'r cyhoedd.
Ym marn IPSO, roedd y ffaith bod prif weithredwr S4C i ffwrdd o'i gwaith ar gyfnod pan y bu honiadau o fwlio yn ei herbyn, o ddiddordeb i'r cyhoedd.
Ychwanegon nhw fod cynnwys fod Ms Doyle yn absennol oherwydd pwysau yn rhesymol, a bod "stress" yn derm eang ac nad oedd yn mynd i fwy o fanylder meddygol.
'Diddordeb cyhoeddus sylweddol'
"Fe wnaeth y pwyllgor gydnabod y gofid i'r achwynydd o gyhoeddi'r wybodaeth yma," meddai adroddiad IPSO.
"Ond, mae'n ystyried bod diddordeb cyhoeddus sylweddol yn ei gyhoeddiad.
"Roedd pryderon sylweddol am ddiwylliant y sefydliad a'r effaith a gafodd hyn ar staff wedi'u mynegi'n gyhoeddus.
"Roedd y ffaith bod yr achwynydd ei hun yn dioddef o straen i'r graddau nad oedd yn gallu parhau i weithio yn cyfrannu at y stori honno."
Penderfynodd IPSO felly o blaid Nation.Cymru, gan ddweud nad oedd cyhoeddi'r erthygl wedi mynd yn groes i reolau darlledu.