Cyflwyno cynllun arloesol ar gyfer cyn-safle Ferodo

Yn ôl y cynlluniau, byddai campws o chwe adeilad yn cynnwys canolfannau data yn cael eu hadeiladu
- Cyhoeddwyd
Fe allai safle cyn-ffatri ar lannau'r Fenai gael ei drawsnewid i gartrefu canolfannau data arloesol mewn cynllun gwerth miliynau o bunnoedd.
Roedd Friction Dynamics ger Caernarfon, oedd yn arfer cael ei adnabod fel Ferodo, yn cyflogi dros 1,500 o weithwyr ar un adeg ond mae'r safle wedi bod yn wag ers 2008.
Roedd y ffatri rhannau ceir yn adnabyddus am un o'r anghydfodau diwydiannol hiraf yng Nghymru, gyda gweithwyr yn picedu y tu allan i'r ffatri rhwng Ebrill 2001 a Rhagfyr 2003.
Yn 2021 fe wnaeth cynghorwyr Gwynedd wrthod cynllun i drawsnewid y safle yn barc gwyliau gwerth £70m, wedi i swyddogion cynllunio'r cyngor godi 13 o bryderon am y cais.
Ond mae cynlluniau newydd bellach wedi'u cyflwyno i'r awdurdod.

Roedd Friction Dynamics, ger Caernarfon, yn cyflogi dros 1,500 o weithwyr ar un adeg ond mae'r safle wedi bod yn wag ers 2008
Yn ôl datblygwyr byddai'r adeiladau presennol, sy'n prysur ddirywio, yn cael eu dymchwel a'r safle yn cael ei lanhau a byddai campws o chwe adeilad yn cynnwys canolfannau data yn cael ei adeiladu yno.
Er byddai'r datblygiad yn creu cyflogaeth yn lleol, does dim ffigyrau am nifer y swyddi hyd yma.
Mae canolfannau data o'r fath yn cynnwys banciau enfawr o gyfrifiaduron i bweru gwasanaethau fel deallusrwydd artiffisial (AI), prosesu data a ffrydio.

Ym mis Rhagfyr 2024 fe wnaeth Cyngor Môn gymeradwyo cais cynllunio amlinellol i adeiladu canolfannau data ar hen safle Alwminiwm Ynys Môn yng Nghaergybi.
Mae'r cais cynllunio amlinellol i Gyngor Gwynedd, sydd wedi ei gyflwyno gan Gwelyfenai Limited, yn nodi: "Y weledigaeth ar gyfer y datblygiad ydy creu cyfleuster seilwaith digidol hynod gynaliadwy sy'n cryfhau galluoedd data a thechnoleg Cymru wrth ymateb yn sensitif i amgylchedd, tirwedd a lleoliad y safle.
"Mantais ychwanegol o'r ailddatblygiad arfaethedig yw adfer safle halogedig, gan gynnwys cael gwared ag asbestos yn ddiogel.
"Bydd y gwaith yn mynd i'r afael â phryderon amgylcheddol a iechyd y cyhoedd, a fyddai fel arall yn parhau i fod heb eu datrys oni bai fod y safle yn cael ei ailddatblygu.
"Bydd y cynllun yn dod â safle gwag yn ôl i ddefnydd buddiol, gan greu cyflogaeth a buddsoddiad yn ardal Caernarfon."
Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd ystyried y cynlluniau yn ystod y misoedd nesaf.
Perai caniatâd amlinellol yn cael ei roi, byddai angen cyflwyno cais llawn cyn y gallai unrhyw ailddatblygu gychwyn ar y safle.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl