Creu clwb drama yn ardal Caernarfon i 'roi profiadau i'r plant'

Mae Rhodri Trefor yn teimlo fod yna "lot o bwyslais ar chwaraeon mewn lot o ysgolion... a dim digon ar y celfyddydau"
- Cyhoeddwyd
Mae clwb drama newydd wedi cael ei sefydlu yn ardal Caernarfon er mwyn "cynnig gwahanol brofiadau" i blant a phobl ifanc.
Yr actor Rhodri Trefor a'i wraig Awel sydd wedi sefydlu 'Theatr A Fo Ben Bid Bont' - sydd yn agored i ddisgyblion ym mlynyddoedd ysgol tri i naw.
Mae Rhodri, sy'n actor proffesiynol ers 2004, wedi ymddangos mewn cynyrchiadau theatr a theledu, yn awyddus i gynnig yr un cyfleoedd i blant heddiw a gafodd o pan yn ifanc.
"O'n i wedi cael fy magu efo Theatr Fach Llangefni, efo cymaint o brofiadau -gwneud pethau'n yr ysgol, theatr a'r capel. Oni'n gweld bod 'na ddiffyg ac isio rhoi'r un profiadau i'm mhlant."
Ychwanegodd Mr Trefor ei fod yn "teimlo fod 'na lot o bwyslais ar chwaraeon mewn lot o ysgolion mewn lot o ardaloedd, a dim digon ar y celfyddydau".

"Mae 'na gymaint o glybia' chwaraeon sy'n mynd i gadw'n cyrff ni'n iach, ond 'da ni angen y clybiau celfyddydau i gadw'n meddwl ni'n iach," meddai Siwan Llynor
Mae Siwan Llynor, sy'n gyfarwyddwr ac yn ymarferydd creadigol, wedi bod yn cynnal gweithdai drama ers sawl blwyddyn.
"Dwi 'di gweithio dros y blynyddoedd, y 30 mlynedd ddiwetha' efo gymaint o fudiadau theatr ieuenctid," meddai.
"I fod yn onest, dydi o ddim am greu actorion, neu am bobl oedd yn mynd i weithio yn y diwydiant. Bonws ydi o os ydyn nhw'n mynd i weithio'n y diwydiant."
Ychwanegodd Siwan fod y "sgiliau wyt ti'n ei gael o fod yn rhan o rywbeth fel 'ma, yn mynd i fod efo chdi am byth".
"Dwi'n meddwl os ydan ni'n gymdeithas sy'n meddwl fod y celfyddydau ddim yn bwysig, dwi'n meddwl bod ni'n mynd i fod yn gymdeithas eitha' trist a thlawd.
"Mae 'na gymaint o glybia' chwaraeon sy'n mynd i gadw'n cyrff ni'n iach, ond 'da ni angen y clybiau celfyddydau i gadw'n meddwl ni'n iach." ychwanegodd Siwan Llynor.

Mae "cyd-weithio a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol" yn bwysig yn y theatr, medd Ffion Wyn Bowen
Mae cwmni Theatr Arad Goch yn Aberystwyth wedi gweld bod clybiau drama yn cynnig mwy na dim ond cyfle i gamu ar lwyfan.
Dywedodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch: "Ers bron i 25 mlynedd bellach, naetho' ni sefydlu ein clybiau drama mewn ymateb i'r galw gan rieni'n yr ardal - yn enwedig ardal Aberystwyth.
"O'r cychwyn cyntaf, i rywun sy'n gweithio yn y celfyddydau - ry' chi'n gwybod ma' gymaint mwy iddo fe.
"Ond wrth gwrs mae'r elfen perfformio a'r elfen yna yn bwysig ac yn rhan allweddol o'r gwaith."
Esboniodd Ms Bowen ei fod "am biti cyd-weithio a datblygu sgiliau personol a chymdeithasol. Y gallu yna i fynegi eich hunan, i ddefnyddio'r dychymyg ac i sbarduno pob math o bethau".
Yn ôl Rhodri Trefor, mae "cymaint o bethau ynghlwm â drama - dim just drama a'r celfyddydau yn gyffredinol".
"Ma' 'na werth iddo fo, ma' rhaid i ni gwffio i neud yn siŵr fod o ddim yn crebachu, a bod 'na gyfleodd i blant ar gyfer y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2024