Perchennog caban pren yn brwydro yn erbyn premiwm ail dai
- Cyhoeddwyd
Mae un o berchnogion caban pren ger traeth Poppit yn Llandudoch yn dweud ei bod hi'n barod i fynd i'r llys i frwydro yn erbyn premiwm ail gartrefi.
Mae teulu Eira Harris wedi bod yn berchen ar yr adeilad ers y 1950au ac roedden nhw'n arfer talu lefel sylfaenol treth y cyngor.
Mae'r adeilad wedi cael ei ddiffinio fel ail gartref gan y cyngor sir er nad oes ganddo doiled nac ystafell ymolchi, ac felly mae eu treth y cyngor wedi treblu.
Dywedodd Cyngor Sir Penfro bod yr adeilad yn cwrdd â'r diffiniad "sydd yn y ddeddf" a'i fod wedi'i "ddodrefnu yn sylweddol".
Fe benderfynodd Cyngor Sir Penfro i gyflwyno premiwm o 200% ar ail gartrefi ar 1 Ebrill 2024, sydd yn golygu bod Eira a'i theulu yn talu £3,800 y flwyddyn mewn treth cyngor am yr eiddo.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag ail gartrefi.
Mae'n golygu y gall cynghorau sir gynyddu premiwm treth cyngor i 300%.
Er bod gan y cwt ddwy ystafell wely, cegin a 'stafell fyw, mae Mrs Harris yn dweud nad oes unrhyw un wedi byw yn barhaol yn yr adeilad, ac fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eu cynghori nhw ym mis Ionawr eleni "nad oedd yn addas ar gyfer defnydd preswyl o unrhyw fath" am nad oes "ystafell folchi neu dŷ bach".
Yn ôl Mrs Harris, does neb wedi byw yn yr adeilad yn barhaol.
"Ni wedi bod yma ers y 1950au, ers 'wen i yn groten fach. S'dim bathroom na thŷ bach wedi mynd mewn erioed. Mae e'n segur rhan fwyaf o'r amser.
"Mae un nith gyda ni yn dod i aros yn yr haf am bythefnos o Colchester - mae plant bach 'da hi.
"Mae hi'n gorfod golchi a chael cawod gartre gyda ni a defnyddio'r cyfleusterau cyhoeddus. Roedd y plant yn mynd i'r traeth a dod 'nôl fan hyn i newid."
Mae Mrs Harris a'i brodyr, Chris a Richard Evans, wedi cael bil treth cyngor sy'n cynnwys premiwm o 200% ar ben y lefel sylfaenol.
Mae'r teulu wedi bod yn gohebu am fisoedd gyda'r cyngor, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro mewn ymgais i ddatrys y ffrae.
Dywedodd Mrs Harris ei bod hi wedi cynnig y cwt ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin ond nad oedd yn cyrraedd y safonau angenrheidiol.
Dyw hi ddim yn bosib cynnig y lle ar rent chwaith oherwydd y diffyg cyfleusterau ymolchi.
"We'n ni yn talu treth y cyngor basic a nawr mae fe wedi mynd lan i bron £4,000."
Yn ôl Mrs Harris, mae hi a'i theulu wedi bod yn ceisio ymladd y premiwm ers mis Ebrill.
"Ni'n mynd rownd a rownd. Dywedodd swyddog o'r Parc Cenedlaethol nad oedd yn addas ar gyfer defnydd preswyl o unrhyw fath," meddai.
"Mae fy mrawd wedi dechrau talu ym mis Ebrill, oherwydd fe sydd yn gofalu am y cyllid, ond erbyn Nadolig yma, bydd y funds yn isel.
"Chi ffaelu cwrdd â rhywun o'r cyngor i gael sgwrs. Ni'n cwympo drwy'r rhwyd ond ni'n gorfod talu.
"Ni'n hapus iawn i fynd i'r cwrt - y tri ohonom ni. Dwi'n barod i fynd, ydw. Digon yw digon.
"Sa'i eisiau gadael yr annibendod 'ma i'r genhedlaeth nesaf. Mae hwn yn synnwyr cyffredin.
"Dim second home fel sydd gyda chi yn Trefdraeth yw hwn. So nhw'n gwrando. S'dim un yn gwrando."
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Sir Penfro: "Penderfyniad Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw cynnwys eiddo ar y rhestr treth y cyngor.
Am nad oes yna amodau cynllunio ar yr eiddo, dyw hi ddim yn bosib caniatáu eithriad.
"Mae felly yn cwrdd gyda'r diffiniad sydd yn y ddeddf, ac mae ar restr treth y cyngor; does neb yn byw yna ac mae wedi ei ddodrefnu yn sylweddol."
Yn ôl y cynghorydd sir lleol, Mike James, mae angen cynnal trafodaeth bellach gyda swyddogion y cyngor sir.
"Mae'n rhaid i fi ddweud bod e ddim yn cwympo o dan rhai o'r polisïau achos bod dim tŷ bach yna.
"Os mae'r teulu yn dod yma, dim ond campio maen nhw'n gwneud. Os mae eisiau tŷ bach maen nhw'n mynd draw i'r tŷ bach yn Poppit.
"Wrth gwrs fy mod i'n cydymdeimlo gyda'r teulu. 'Wna i fy ngorau yn y sefyllfa yma."
Mae Cyngor Sir Penfro yn mynnu bod eu swyddogion "yn parhau i ymgysylltu er mwyn sicrhau deialog agored".
Dywedodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio "nad oedd hi'n bosib gwneud sylw am achosion unigol".
"Mae eiddo yn gymwys i dalu treth y cyngor os yw ar gyfer defnydd domestig, ac mae'n bosib byw yna," meddai llefarydd.
"Os ydy cwsmer yn meddwl na ddylen nhw fod yn talu treth y cyngor, mae'n bosib cysylltu gyda ni ac fe fyddwn ni yn ymchwilio i'w hachos."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi
- Cyhoeddwyd25 Ionawr