Rhybudd melyn am stormydd o daranau i'r gogledd

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau o'r gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd o daranau ar gyfer rhannau o'r gogledd dros y penwythnos.
Mae'r rhybudd mewn grym rhwng 17:00 dydd Sadwrn a 03:00 dydd Sul.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai'r tywydd garw achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr mewn mannau.
Gallai 30-40mm o law ddisgyn mewn cyfnodau cymharol fyr mewn rhai mannau, ac mae mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion hefyd yn bosib, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Mae'n dilyn cyfnod o dywydd poeth ar draws y DU a welodd Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd yn cofnodi eu dyddiau cynhesaf o'r flwyddyn hyd yn hyn.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol:
Sir Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.