'Rhyddhad' y bydd lle i ragor o blant mewn Ysgol Gymraeg

Joanna North, Iolo a GeraintFfynhonnell y llun, Joanna North
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joanna North yn falch y bydd ei mab yn mynd i ysgol Gymraeg "ar ôl deufis anodd"

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd 12 o blant ychwanegol yn cael dechrau yn Ysgol Mynydd Bychan yng Nghaerdydd ym mis Medi, flwyddyn cyn i'r ysgol symud i adeilad mwy o faint.

Fel arfer dim ond lle i tua 30 o blant sydd ym mhob dosbarth felly roedd 12 plentyn wedi cael gwybod nad oedd lle iddyn nhw yn y dosbarth derbyn eleni.

Ar y pryd fe gyhuddodd mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg y cyngor  o rwystro twf addysg Gymraeg  gan ddadlau bod modd gwneud achos arbennig gan fod yr ysgol ar fin cael adeilad newydd.

Mae Cyngor Caerdydd nawr wedi cytuno i dderbyn y plant ychwanegol.

Bydd mab Joanna North, Iolo, nawr yn gallu dechrau yn y dosbarth derbyn ym mis Medi.

"Mae'n rhyddhad mawr i ni," meddai.

"Ar ôl bod yn y meithrin ry'n ni wrth ein boddau bod modd iddo fe barhau yn yr un ysgol â'i ffrindiau, mewn awyrgylch mae e'n gyfarwydd â hi a gyda staff mae e'n eu hadnabod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwneud tro pedol ar ôl gwrthod 12 cais am le yn Ysgol Mynydd Bychan eleni

Dywedodd Ms North ei bod "mor falch y bydd e nawr yn parhau gydag addysg Gymraeg a'r cyfleoedd ddaw yn sgil hynny".

"Ry ni'n ddiolchgar i'r cyngor am gefnogi'r hyn roedd yr ysgol eisiau i ddigwydd.

"Mae hi wedi bod yn ddeufis anodd."

'Dim effaith' ar safon yr addysg

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Caerdydd: "Ar ôl ystyried yn ofalus, ry'n ni wedi darganfod ffordd o gynyddu maint yr ysgol fis Medi mewn modd fforddiadwy a chynaliadwy.

"Mae hyn yn golygu y bydd pob plentyn wnaeth gais am le yn gallu dechrau yn y dosbarth derbyn eleni.

"Mae'r Cyngor wedi cael sicrwydd gan lywodraethwyr yr ysgol na fydd caniatáu plant ychwanegol yn cael effaith ar safon addysg a gofal holl blant yr ysgol."

Wrth ymateb, fe ddywedodd mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg fod hyn yn "newyddion ardderchog" ond bod lle i Lywodraeth Cymru graffu ymhellach ar y cod mynediad i ysgolion gan ystyried a yw'n cyd-fynd gyda thargedau i gynyddu canran disgyblion sydd mewn addysg Gymraeg.

Roedd y mudiad yn dadlau fod cod y Llywodraeth yn caniatáu i'r Cyngor dderbyn mwy o blant os oes prinder darpariaeth dros dro, tra bod darpariaeth ychwanegol yn cael ei sefydlu.