Cyngor Caerdydd yn 'rhwystro twf' addysg Gymraeg

Disgrifiad,

Byddai'n "drist" os yw plant lleol yn methu allan ar le, yn ôl Rhian Hughes

  • Cyhoeddwyd

Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg wedi cyhuddo Cyngor Caerdydd o rwystro twf addysg Gymraeg, ar ôl iddyn nhw wrthod caniatáu i fwy o blant na'r arfer ddechrau yn Ysgol Mynydd Bychan ym mis Medi.

Lle i tua 30 o blant sydd ym mhob blwyddyn ysgol ar hyn o bryd, ond ym Medi 2025 fe fydd hi'n symud safle a bydd lle i 60 o blant ym mhob blwyddyn.

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwrthod 12 cais am le eleni er bod yr ysgol wedi dweud eu bod nhw'n hapus i gymryd y plant ychwanegol.

Dywedodd y cyngor eu bod yn "gweithio gyda'r ysgol a phartneriaid eraill i weld a oes modd cyflymu'r broses o ehangu'r ysgol".

Ffynhonnell y llun, Joanna North
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joanna North eisiau gweld ei mab yn mynd i ysgol Gymraeg

Mae Iolo, mab Joanna North ymhlith y rhai na chafodd le yn yr ysgol eleni.

Dydy hi a'i phartner Geraint ddim yn siarad Cymraeg.

"Mae e 'di bod yn mynd i'r ysgol ers bron i ddwy flynedd achos ei fod e wedi bod yn y meithrin yno felly mae hyn wedi ein llorio ni," meddai Ms North.

"Ry'n ni wedi cael cynnig lle mewn Ysgol Gymraeg arall ond mae'n rhy bell i ffwrdd.

"Ry'n 'ni mewn perygl o orfod dewis ysgol Saesneg lleol ac nid dyna y'n ni eisiau. Ni eisiau i Iolo fod yn ddwyieithog a chael y cyfleodd sy'n dod gyda hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd wedi gwrthod 12 cais am le yn Ysgol Mynydd Bychan eleni

Mae Ysgol Mynydd Bychan wedi dweud wrth y cyngor eu bod nhw'n gallu cymryd y plant ychwanegol gan mai dim ond tri thymor fydd yna cyn iddyn nhw symud i'r safle newydd.

Ond dydy Elsie, merch Rhian Hughes, ddim wedi cael lle yno chwaith.

"Mae'r ysgol eisiau cael y plant yno... achos mae'r plant yn dod o'r ardal, mae'n ardal fach braf, 'dan ni'n 'nabod pawb wrth ddod i'r parc yma.

"Byddai'n reit drist tasa teuluoedd lleol ddim yn gallu mynd i'r ysgol leol.

"Os na gawn ni le bydd rhaid newid oriau gweithio. Sgynno' ni ddim teulu yn lleol felly bydden i'n hoffi tase hi'n gallu mynd i'r ysgol Gymraeg agosaf sydd ond 0.3 milltir i ffwrdd."

Sefyllfa 'hynod rwystredig'

Yn ôl Elin Maher o fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg, mae hyn yn rhwystro twf addysg Gymraeg yn y brifddinas.

"Mae'n bryder i ni fod y sefyllfa eleni yn llesteirio twf eto am flwyddyn. Beth mae'r ysgol yn 'neud yw paratoi at dwf ac mae hynny'n gyfrifol iawn.

"Ry'n ni'n rhwystredig dros yr ysgol ac yn hynod rwystredig dros y teuluoedd oherwydd does dim angen eu rhoi nhw drwy broses apêl."

Mae'r mudiad yn dadlau fod Cod Derbyn i ysgolion Llywodraeth Cymru yn caniatáu Cyngor Caerdydd i dderbyn mwy o blant os oes prinder darpariaeth dros dro, tra bod darpariaeth ychwanegol yn cael ei sefydlu.

"Yn anffodus ry'n ni'n rhoi teuluoedd drwy gyfnod o bryder eto. Does dim angen gwneud hynny.

"Mae pob proses wedi ei chwblhau. Dydyn ni ddim yn deall pam bod rhaid mynd drwy'r apeliadau yma eto eleni."

Wrth ymateb mae Cyngor Caerdydd yn dweud fod chwarter y llefydd yn nosbarthiadau derbyn ysgolion cynradd Cymraeg y brifddinas yn wag ar gyfer mis Medi a bod yna lefydd yn y ddwy ysgol agosaf at Ysgol Mynydd Bychan - sef Ysgol Glan Ceubal ac Ysgol Melin Gruffydd.

Maen nhw'n ychwanegu eu bod nhw'n gweithio gyda'r ysgol a phartneriaid eraill i weld a oes modd cyflymu'r broses o ehangu'r ysgol er mwyn cael lle i'r 12 sydd wedi eu gwrthod.

"Dyw'r broses hon ddim wedi ei chwblhau," meddai llefarydd, "ac mae angen ystyried ymhellach cyn y bydd modd gwneud penderfyniad".