Dyfarnwr ieuengaf Cymru eisiau i fwy o fenywod reslo

Ela MaiFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ela Mai yn gobeithio bod yn reslwr ei hun yn y dyfodol

  • Cyhoeddwyd

Mae dyfarnwr reslo ifancaf Cymru'n dweud bod camu i'r sgwâr yn rhoi "pŵer" iddi.

16 mlwydd oed yw Ela Mai o Cross Hands ger Llanelli.

Mae hi'n gobeithio bod yn reslwr ei hun ac yn galw ar fenywod eraill i roi tro ar y gamp.

Yn ôl Ela Mai, mae reslo yn "hwyl ofnadwy" wrth ymarfer y symudiadau gyda'i thad yn y gampfa yn Cross Hands

"Unwaith fi'n cerdded mas 'na, mae'r nerves i gyd yn gadael a fi'n gyffrous. Mae'n hwyl ofnadwy mewn 'na, yn y ring," meddai.

"Yr awyrgylch, y gynulleidfa, ma' nhw'n neud beth yw e."

Ffynhonnell y llun, Welsh Wrestling
Disgrifiad o’r llun,

Ela Mai ar ddiwedd yr ornest gyntaf iddi ei dyfarnu

Mae'r gamp yn rhedeg yn y teulu. Tad Ela yw Gethin Williams, neu o'i alw dan ei enw proffesiynol, The Dragon Kid Cymru.

"Dim ots ble y'n ni'n mynd mae'n dod gyda ni," gan gyfeirio at ei ferch.

"S'dim byd yn ffwdan iddi. Ma' hi'n helpu mas, nid yn unig i fi fyw fy mreuddwyd ond ma' hi'n gallu byw un hi hefyd.

"I fod gyda'm gilydd fel 'na, mae'n meddwl lot."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ela Mai gyda'i thad Gethin Williams

Ac yn y sgwâr, does dim chwarae. Mae'r ddyfarnwraig hon yn cymryd y gwaith o ddifrif.

"Wel, fi yw rheolwr y ring mwy neu lai, fi sy'n gyfrifol am os ma' rhywun yn cheato, os oes unrhyw cafflo 'na, a fi sy'n cadw popeth yn deg.

"Ma' fe bach yn od bod yn blentyn yn dweud wrth oedolion beth i wneud, ond mae'n rhoi rhyw fath o bŵer i chi."

'Ysbrydoliaeth'

Gyda'i phryd felly ar ddilyn ei thad, mae Ela Mai am i fwy o ferched ymuno yn y gamp. Er hynny, mae'n barod i herio'r dynion.

"Fi'n gobeithio allai cael menyw arall i reslo yn erbyn fi. Bydd yn grêt i weld dwy fenyw yn y ring 'na, yn lle jyst un yn dyfarnu.

"Bydd yn ysbrydoliaeth i fenywod ifanc hefyd ond os mae'n dod i hynny, fe fyddai'n gallu reslo yn erbyn dynion."

Ffynhonnell y llun, Welsh Wrestling
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gethin Williams yn cystadlu dan yr enw The Dragon Kid Cymru

Gyda channoedd o ornestau'r flwyddyn, mae Welsh Wrestling wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf.

Yr unig gwmni reslo sy'n cynnal mwy o ddigwyddiadau mae'n debyg yw'r WWE, sef cwmni mwyaf y byd.

"Ni 'di mynd o redeg un show yr wythnos - nawr ni'n rhedeg dros 400 y flwyddyn," meddai Gethin Williams.

"Ma'r WWE sy' mas yn America - maen nhw gyda'r byd a ni gyda cornel fach o Gymru."