Ateb y Galw: Y Parchedig Dylan Parry
- Cyhoeddwyd
Mae'r Parchedig Dylan Parry yn wyneb cyfarwydd i'r rhai sy'n dilyn y gyfres deledu FFIT Cymru.
Roedd yn arweinydd ar y gyfres ddiwethaf yn ei ymgais i geisio colli pwysau.
Yn wreiddiol o Gaernarfon, mae bellach yn weinidog sy'n gyfrifol am eglwysi annibynnol Gofalaeth Glannau Ogwr sy'n cynnwys capel y Tabernacl ym Mhen-y-bont a chapel y Tabernacl, Porthcawl.
Dyma ddod i adnabod Dylan ychydig yn well.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd ar goll yn Butlins, ar ôl pwdu am nad oni’n cael be o'n i eisiau yn y siop. Dwi’n cofio stiwardiaid yn fy nghario i’r swyddfa. O'n i’n dair oed gyda llaw.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Nant Gwrtheyrn, wedi gwirioni dod lawr i’r Nant, wedi bod pan yn blentyn. Mae’n le heddychlon, lle i’r enaid gael llonydd.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Yn ddiweddar, noson olaf ffilmio Ffit Cymru.
Roedd hwn yn sbesial lle’r oedde ni’n dathlu gyda’n gilydd y llwyddiant a’r holl waith caled.
Mae rhyuwn yn edrych 'nôl ac yn ei drysori yn fawr.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Swil, penderfynol, anturus
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl yn ôl?
Fy mhlentyndod, yn enwedig yr holl drugareddau oeddwn i a fy chwaer yn ei wneud. Dianc o sawl ystafell meithrin dros y blynyddoedd. ‘The Great Escape’.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Lle dwi’n dechrau?!
Un flwyddyn oeddwn wedi cymryd gormod ymlaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 2007.
Roeddwn mewn sawl cystadleuaeth. Richard Burton, corau, ac adrodd darn o’r ysgrythur, ac er mod i wedi dysgu’r Richard Burton yn dda a’r corau, nes i’m edrych ryw lawer ar y darn o’r ysgrythur, ac felly ar ôl yr adnod gyntaf, anghofiais y darn yn gyfan gwbl. (Fe roddwyd bai ar y sŵn yn y cefn).
Ond cywilydd mawr ar y pryd. (Beth sy’n waeth yw fy mod i’n weinidog 17 mlynedd lawr y lein.)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Ychydig wythnosau nôl yn Gwylio ‘Lost Boys and Fairies’ Crïo trist a hapus.
Drama afaelgar ac emosiynol.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes gormod. Prynu gormod o lyfrau, llawer mwy na allai fyth ddarllen.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Mae gen i ormod o hoff lyfrau.
“The Help” yw fy hoff ffilm. Ffilm am awdur hawliau sifil yn y chwedegau yn yr UDA sydd yn ysgrifennu llyfr o safbwynt gweision Americanaidd Affricanaidd.
Mae hanes hawliau sifil â gwersi pwysig i ni heddiw.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Nelson Mandela. Byth ers i mi dreulio cyfnod yn cenhadu yn Ne Affrica, nes i weld dylanwad mawr ‘Madiba’ ar y genedl, ac ar y byd. O weld sefyllfa ein byd heddiw hoffwn glywed pa ddoethinebau byddai ganddo ar ein cyfer.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dwi’n dysgu siarad Twrceg ar hyn o bryd.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Bod yn hapus a bodlon a diolch am yr hyn sydd wedi bod yn bwysig yn fy mywyd a threulio’r diwrnod yng nghwmni fy nheulu annwyl.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun ohona ni gyd fel teulu. Pob un ohona ni’n gwenu. A’r llun cyntaf gyda phawb yno.
Mae teulu yn golygu popeth.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Alex Honnold, dringwr free solo a ddringodd El Capitan heb raffau.
Mi hoffwn brofi’r un hyder a’r ffitrwydd o leiaf unwaith.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2024