Arestio dyn ar amheuaeth o glwyfo yn Sir y Fflint

HeddluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr heddlu fod y digwyddiad yn un "ynysig"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 49 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau clwyfo yn dilyn digwyddiad yn Sir y Fflint ddydd Mercher.

Cafodd y dioddefwr, dyn 37 oed, ei gludo i'r ysbyty mewn Ambiwlans Awyr wedi'r digwyddiad ym mhentref Bagillt.

Yn ôl swyddogion, mae'r dyn mewn cyflwr "sefydlog".

Dywedodd y Prif Arolygydd Jon Aspinall fod y digwyddiad yn un "ynysig" ac "nad oes bygythiad ehangach i'r cyhoedd".

Pynciau cysylltiedig