Sut mae gwella presenoldeb ysgol plant?

Lara a Sol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Lara a Sol ymhlith y disgyblion fu'n rhan o'r digwyddiad yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd

Mae tua 4% yn llai o blant yn mynychu ysgolion yn gyson dros Gymru o'i gymharu â chyn cyfnod Covid.

94.25% oedd y gyfradd cyn y pandemig, ond roedd wedi gostwng i 91% erbyn Nadolig 2024, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru.

Bellach mae gan Gyngor Gwynedd ymgyrch i geisio gwella presenoldeb mewn ysgolion, gyda chymorth neb llai na Gareth yr Orangutan.

Daeth disgyblion y sir i gyfarfod yng Nghaernarfon i drafod y sefyllfa'r wythnos hon, ac i geisio canfod atebion.

Beth yw'r ffigyrau presenoldeb?

Dros Gymru mae cyfraddau presenoldeb wedi gostwng ers y cyfnod cyn y pandemig:

  • Hyd at Nadolig 2024/25 – 91%

  • Blwyddyn academaidd 2023/24 – 89%

  • Blwyddyn academaidd 2018/19 (cyn y pandemig) – 94.25%

Yn benodol yng Ngwynedd, mae'r ffigyrau'n dilyn patrwm tebyg:

  • Hyd at Nadolig 2024/25 - 90.8%.

  • Blwyddyn academaidd 2023/24 - 89.1%

  • Blwyddyn academaidd 2018/19 (cyn y pandemig) – 94.75%

Cynghorydd Dewi Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae presenoldeb a phatrymau bywyd wedi newid ers y pandemig, meddai Dewi Jones

Dywed y Cynghorydd Dewi Jones, sydd â chyfrifoldeb am addysg ar Gyngor Gwynedd, bod gwella presenoldeb yn hollbwysig.

"Ymgyrch ydy hon i godi presenoldeb o fewn ysgolion Gwynedd, ar draws y sir," meddai.

"Mae'n hollbwysig bod ein plant ni yn mynychu ysgol.

"'Da ni'n derbyn wrth gwrs bod plant yn sâl o bryd i'w gilydd, ond 'da ni'n gweithio yn galed i drio cyrraedd y targed, i gyrraedd y nod o 95% fel sir.

"'Da ni'n gweld cwymp ers Covid a mae hyn yn wir ar gyfer Cymru i gyd - mae 'na gwymp wedi bod ymhob sir."

Gareth yr Orangutan
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Gareth yr Orangutan i'r sesiwn yng Nghaernarfon er mwyn ceisio annog plant i drafod y pwnc

Ond beth ydy'r rhesymau pam fod plant yn peidio mynd i'r ysgol?

Dyma farn rhai o'r disgyblion yn y digwyddiad yng Nghaernarfon, oedd wrth eu boddau bod Gareth yr Orangutan yn rhan o'r digwyddiad.

Dywedodd Lara o Ysgol Waunfawr bod "lot yn bryderus ac yn cael eu bwlio".

"Hefyd fel chware Fortnite a pethe a isio aros [adref], fel pen-blwyddi weithiau, a dwi'm yn meddwl bod hynny'n iawn achos ti'n methu lot o wersi ac yn y diwedd tydi o ddim yn deg ar yr athrawon.

"Dio'm yn deg ar ti dy hun yn diwedd achos ti'm yn deall gymaint â'r disgyblion eraill."

Ychwanegodd Sol o Ysgol Waunfawr: "Dwi'n meddwl fod bwlio, ac [mae'n] anodd i ddweud wrth pobl beth sy'n digwydd."

Bella a Jac
Disgrifiad o’r llun,

Byddai gwobr neu gyfle i ymlacio yn help, meddai Bella a Jac

Ond beth all ysgolion wneud i gael mwy o blant i ddod i'r ysgol?

"Rhoi gwobr, fatha amser chware extra neu rhywbeth fel'na," oedd syniad Bella o Ysgol Glancegin, Bangor.

I Jac, o'r un ysgol: "Ella cael room efo stress board a just cael amser eich hunain os mae rhywun yn stressed ac yn poeni a petha'."

'Patrymau bywyd wedi newid'

Gyda llai o blant yn mynychu'r ysgol yn gyson, dywed Dewi Jones bod effaith y pandemig yn dal i'w weld yn glir o ran patrymau bywyd pobl.

"Dwi'n meddwl ei fod o wedi newid lot o bethau o fewn cymdeithas, 'da ni'n dal i weld hynny heddiw," meddai.

"Felly dwi'n meddwl falle bod plant wedi dod i arfer i beidio â bod yn yr ysgol gan amled.

"A dwi'n meddwl hefyd bod patrymau gwaith rhieni hefyd - gallu gweithio adref - tydi o ddim cymaint o drafferth hwyrach i gadw'r plant adref os ydyn nhw ddim yn teimlo cweit 100%.

"Hefyd roedden ni yn rhoi negeseuon oedd yn addas ar y pryd - os oeddach chi ddim yn teimlo 100% arhoswch adref.

"Erbyn hyn mae'r sefyllfa wedi newid, a'r neges sydd gennym ni yn glir ydy mae isio i'r plant fod yn yr ysgol.

"Dyna lle maen nhw'n dod i gael y profiadau gorau er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael y dinasyddion gorau wrth iddyn nhw dyfu'n hŷn."