Beth Winter, cyn-AS Cwm Cynon, yn gadael y Blaid Lafur
- Cyhoeddwyd
Mae’r cyn-Aelod Seneddol Llafur, Beth Winter, wedi gadael y blaid gan ei chyhuddo o ddilyn “agenda wleidyddol sy'n mynnu ufudd-dod i awdurdod”.
Dywedodd Ms Winter, a gynrychiolodd Cwm Cynon rhwng 2019 a 2024, mai amcan presennol Llafur oedd “cadw’r 'status quo neoryddfrydol', gwasanaethu buddiannau corfforaethol ac amddiffyn y dosbarth sy'n rheoli".
Yn 2023, galwodd Ms Winter - sy'n gefnogol i gyn-arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn - am adolygiad annibynnol o broses ddethol ei phlaid ar ôl iddi golli mewn ras i fod yn ymgeisydd yn etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf.
Mae'r Blaid Lafur wedi cael cais i wneud sylw.
“Mae erledigaeth ddigynsail y Blaid Lafur a'i thriniaeth ddidrugaredd o’i haelodau sosialaidd, ei chynrychiolwyr a’i phleidleiswyr yn warthus,” meddai Ms Winter mewn datganiad.
Dywedodd iddi gael ei hethol ar faniffesto Llafur 2019.
“Rwyf wedi parhau i fod yn ymrwymedig i weledigaeth y maniffesto hwnnw er mwyn sicrhau cymdeithas decach, fwy cyfartal, a gwyrddach ‘i’r nifer fawr, nid yr ychydig’.
“Yn anffodus, nid yw’r Blaid Lafur bellach yn cynrychioli’r weledigaeth sosialaidd honno ac rwyf, felly, wedi penderfynu heddiw i roi’r gorau i’m haelodaeth.”
"Does dim modd adnabod y Blaid Lafur" bellach, ychwanegodd.
Dywedodd y cyn-AS fod cyllideb yr wythnos ddiwethaf yn “gyfle a gollwyd”, a'i bod yn arwain at “lymder parhaus, anghydraddoldeb, tlodi a chaledi i filiynau o bobl”.
Mae Ms Winter hefyd wedi beirniadu llywodraeth y DU am beidio cael gwared â therfyn budd-daliadau lles dau blentyn ac am ddileu taliadau tanwydd y gaeaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd30 Hydref