AS Llafur Beth Winter yn mynnu adolygiad o broses ddethol
- Cyhoeddwyd
Mae'r AS Llafur Beth Winter wedi mynnu adolygiad annibynnol o broses ddethol ei phlaid ar ôl iddi golli i AS Merthyr Tudful a Rhymni, Gerald Jones i fod yn ymgeisydd yn etholaeth newydd Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf.
Dywedodd AS Cwm Cynon, Ms Winter, fod gwybodaeth wedi cael ei chadw oddi wrthi "bob cam o'r broses".
Gwrthododd Llafur Cymru wneud sylw ond mae wedi amddiffyn y broses yn flaenorol.
Dywedodd Ms Winter na ddywedwyd wrthi fod yr ornest wedi dechrau tan ar ôl iddi ddechrau, a chyhuddodd hi Lafur o ganiatáu i'w chystadleuydd ddefnyddio adnoddau'r blaid i ymgyrchu yn ei herbyn.
Mewn dogfen 17 tudalen, cododd gwestiynau am "ymddiriedaeth yn y blaid", gan alw'r broses ddethol yn "annheg, annemocrataidd a gwahaniaethol".
Mae'r ddwy etholaeth y mae'r ASau yn eu cynrychioli ar hyn o bryd yn cael eu dileu o dan newidiadau i ffiniau'r DU.
'Chwith yn erbyn de'
Mae Mr Jones ar y fainc flaen ym mhlaid Lafur Keir Starmer, fel chwip yr wrthblaid a llefarydd ar yr Alban.
Mae Ms Winter yn aelod o'r Grŵp Ymgyrchu Sosialaidd o ASau Llafur adain chwith ac wedi bod yn gefnogwr i'r cyn arweinydd Jeremy Corbyn.
Dywedodd ffynonellau o fewn y blaid yn flaenorol fod y mater hwn yn amlygu rhaniadau "chwith yn erbyn de" o fewn Llafur Cymru.
Daw galwad Ms Winter am adolygiad annibynnol gyda 27 o gwestiynau ganddi i bwyllgor gwaith Cymreig y Blaid Lafur, gan gynnwys gofyn pam nad oedd ei negeseuon e-bost am y broses ddethol wedi cael eu hateb, y rhesymeg "dros broses ddethol mor anarferol o fyr," a "pam gafodd undebau llafur eu heithrio?"
Dywedodd hefyd fod Mr Jones wedi cael defnyddio adnoddau'r Blaid Lafur mewn ymgyrch ddethol fewnol, "er gwaethaf fy nghwynion dro ar ôl tro".
Mae Mr Jones wedi cael cais i ymateb.
'Amserlen afresymol'
Yn y ddogfen, dywedodd Ms Winter nad oedd hi "wedi cael data aelodaeth i'm galluogi i ymgyrchu tan noson ail ddiwrnod yr ymgyrch. Cefais amserlen afresymol i ysgrifennu fy natganiad i'w ddosbarthu i'r aelodau".
Dywedodd hefyd fod yr amserlen fer yn "gwahaniaethu yn erbyn aelodau hŷn (gwahaniaethu ar sail oed)" oherwydd y broses sy'n cymryd mwy o amser o anfon pleidleisiau post a bod "pleidleiswyr wedi'u difreinio".
Roedd ei galwadau am adolygiad annibynnol, meddai, yn dilyn "ymdrechion dro ar ôl tro i drafod y broses gyda chynrychiolwyr Llafur Cymru cyn, yn ystod ac ers y broses".
Ychwanegodd: "Er gwaethaf hyn, mae yna gwestiynau difrifol heb eu hateb a phryderon heb eu hateb o hyd."
Dywedwyd wrth BBC Cymru na fyddai Llafur Cymru yn ymateb i alwadau diweddaraf Ms Winter, ond fe amddiffynnodd y broses yn flaenorol, gan ddweud "ei bod yn resynus bod yr arolwg ffiniau wedi golygu bod dau AS Llafur Cymreig presennol wedi cael eu gorfodi i sefyll yn erbyn ei gilydd".
"Cynlluniwyd y drefn ddethol i roi cyfle i bob aelod ar draws y sedd newydd gymryd rhan wrth ddewis eu hymgeisydd ac o ganlyniad gwelsom nifer uchel iawn yn pleidleisio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023
- Cyhoeddwyd8 Medi 2021