Carcharu dyn o Geredigion am achosi anaf drwy yrru'n beryglus

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Geredigion wedi cael ei garcharu am achosi anaf i berson arall drwy yrru yn beryglus.

Ar 1 Chwefror fe wnaeth Peter Gilmore, 51, yrru rownd cornel ar ochr anghywir y ffordd gan daro gyrrwr arall ar y B4337 i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan.

Fe blediodd yn euog mewn gwrandawiad blaenorol i gyhuddiadau o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus a pheidio â rhoi sampl gwaed i'w ddadansoddi.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau cafodd Gilmore ei ddedfrydu i ddwy flynedd a phedwar mis dan glo ac mae o wedi ei wahardd rhag gyrru am chwe blynedd a dau fis.

Gyrru yn beryglusFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Mae lluniau dashcam yn dangos un achlysur lle daeth Gilmore yn agos at achosi gwrthdrawiad, a'r foment darodd yn erbyn cerbyd arall

Roedd Gilmore, o Felin-fach yng Ngheredigion, wedi bod yn gyrru ar hyd yr A487 rhwng Aberystwyth a Llanrhystud ac roedd modurwyr eraill wedi ei weld yn taro'r palmant ac yn gwyro dros y llinell wen yng nghanol y ffordd.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron fod gyrru Gilmore wedi gwneud i bobl ffonio'r heddlu gan ei fod wedi dod yn agos at daro cerbydau eraill.

Trodd i fynd ar y B4337 tuag at Llanbedr Pont Steffan, ac yn ardal Talsarn fe aeth rownd cornel ar ochr anghywir y ffordd a tharo cerbyd arall, gan anafu'r gyrrwr yn ddifrifol.

Roedd anafiadau'r gyrrwr yn cynnwys torri dau fertebra, torri dwy asen a thorri sternwm ynghyd ag anafiadau i feinweoedd meddal.

Doedd Gilmore ddim yn siarad yn glir pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, ac er iddo basio prawf anadl am alcohol, fe wnaeth prawf poer ddangos fod canabis yn ei system.

Fe wnaeth o wrthod rhoi sampl gwaed i'w ddadansoddi tra'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Clywodd y llys hefyd fod Gilmore wedi cael ei stopio a'i gyhuddo o yrru dan ddylanwad cyffuriau yn Aberystwyth yn gynharach y diwrnod hwnnw.

'Diystyrwch llwyr o ddiogelwch eraill'

Dywedodd y barnwr mai "lwc pur" oedd hi na chafodd neb ei ladd o ganlyniad i'w ymddygiad.

Ychwanegodd Geraint Walters fod manylion yr achos yma "wir yn codi arswyd" a'i bod hi'n "rhyfeddol" fod Gilmore wedi dewis gyrru ar ôl cael ei stopio gan yr heddlu, ac yntau yn amlwg dan ddylanwad.

"Roeddet ti'n gwybod dy fod dan ddylanwad, does dim amheuaeth o gwbl am hynny," meddai.

Dywedodd David Elvey o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Roedd gyrru gwael Gilmore yn dangos ei ddiystyrwch llwyr o ddiogelwch modurwyr eraill.

"Roedd yn gyfrifol am wrthdrawiad penben lle cafodd gyrrwr arall ei anafu'n ddifrifol.

"Dylai'r achos hwn atgoffa pob modurwr o'u cyfrifoldeb wrth yrru ar y ffyrdd."