Mwslemiaid ifanc yn teimlo'n 'anniogel' wedi protestiadau

Azaan ac Ibrahim
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Azaan ac Ibrahim bod yr anrhefn dros y penwythnos yn gwneud iddyn nhw boeni

  • Cyhoeddwyd

Mae Mwslemiaid ifanc yn ne Cymru yn dweud bod ymosodiadau treisgar diweddar mewn rhannau o’r DU wedi gwneud iddyn nhw deimlo’n “anniogel”.

Ym Mosg Sgeti yn Abertawe, dywedodd Jana, 14, ei bod fel arfer yn teimlo ei bod yn cael ei hamddiffyn yn ei dinas, ond mae'r wythnos ddiwethaf wedi gwneud iddi boeni.

“Mae’n ddinas amrywiol iawn ry’n ni’n byw ynddi, ond ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd, rwy’n teimlo na alla’ i fynd allan ar fy mhen fy hun,” meddai.

“Yn enwedig oherwydd fel menyw, rydw i'n gwisgo'r hijab. Mae’n hawdd iawn dweud fy mod i’n Fwslim.”

Fe ddechreuodd yr ymosodiadau mewn rhannau o Loegr a Gogledd Iwerddon ar ôl i dair merch gael eu lladd yn Southport yr wythnos ddiwethaf.

Mae Axel Rudakubana, 17 o Gaerdydd, wedi’i gyhuddo o’r ymosodiad ond fe ledaenodd gwybodaeth ffug ar-lein ei fod yn geisiwr lloches a oedd wedi cyrraedd Prydain ar gwch.

Dywedodd Nada, 17 o Abertawe, ei bod yn teimlo’n “drist ac yn bryderus” bod gwybodaeth anghywir wedi ei rhannu ar-lein yn dilyn ymosodiad Southport.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd gwesty yn Rotherham oedd yn gartref i geiswyr lloches ei dargedu ddydd Sul

Mae dinasoedd gan gynnwys Lerpwl, Bryste, Belfast a Hull wedi gweld terfysgoedd ar y strydoedd.

Mae Prif Weinidog y DU, Keir Starmer wedi beirniadu “ymddygiad asgell dde eithafol” a ddydd Llun, fe gyhoeddodd “fyddin sefydlog” o swyddogion heddlu arbenigol i fynd i’r afael â phrotestiadau treisgar.

Does dim golygfeydd treisgar wedi eu gweld mewn unrhyw ddinasoedd yng Nghymru. Cafodd gwrthdystiad gwrth-hiliaeth ei gynnal yng Nghaerdydd ddydd Sul.

'Beirniadu fy nghroen a fy nghrefydd'

Dywedodd Azaan, 13 o Abertawe, ei fod yn teimlo bod yn rhaid iddo amddiffyn ei hun pan fydd yn mynd allan.

“Ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd, dwi wir yn teimlo’n anniogel. Pan fyddaf yn mynd allan rwy'n ofalus iawn,” meddai.

“Efallai bod pobl yn beirniadu oherwydd fy nghroen a fy nghrefydd.”

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Azaan, 13, ei fod yn "ofalus iawn" pan yn gadael y tŷ

Mae gwestai sy'n cartrefu ceiswyr lloches a mosgiau wedi'u targedu mewn rhai dinasoedd.

Dywedodd Ibrahim, 14, fod hyn yn ei boeni: “Mae [y Mosg] yn lle diogel. Rydym yn cysylltu fel cymuned. Mae’n lle heddychlon.”

'Condemnio'n llwyr y trais'

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Hil Cymru, Uzo Iwobi, fod “ymosodiadau hiliol, terfysgoedd a chasineb hiliol llafar” yn “ofnadwy”.

“Ni all fod unrhyw gyfiawnhad dros beintio pob ceisiwr lloches a ffoadur, ac yn wir ymfudwyr yn gyffredinol, gyda’r un brwsh oherwydd gweithredoedd dirmygus un unigolyn, a fydd yn wynebu cyfiawnder ymhen amser.

“Yma yng Nghymru, mae’n rhaid i Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru fod yn ganolog os ydym am sicrhau cymdeithas gydlynol a chynhwysol.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hefyd anrhefn yn Sunderland dros y penwythnos

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fydd “fyth le i gasineb yng Nghymru, nac ar draws y DU”.

“Rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn y tu ôl i’r rhai sy’n ceisio uno, yn hytrach na rhannu, ein cenedl.

“Mae ein gwaith gyda phartneriaid sy’n hyrwyddo cymunedau cryf, cydlynol a gwrth-hiliol ym mhob rhan o’n gwlad yn parhau drwy Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, wrth i ni gondemnio’n llwyr y trais, y troseddoldeb a’r brawychu rydym wedi’i weld dros y dyddiau diwethaf.”

Pynciau cysylltiedig