Band roc o'r de yn cyrraedd rhif un yn y siart albymau

Fe ffurfiodd Those Damn Crows ym Mhen-y-bont yn 2014
- Cyhoeddwyd
Mae'r band roc o dde Cymru, Those Damn Crows, wedi cyrraedd rhif un yn siartiau albymau swyddogol y Deyrnas Unedig am y tro cyntaf.
Mae eu halbwm God Shaped Hole wedi cyrraedd y brig ar draul artistiaid fel Sabrina Carpenter a Sam Fender.
Mae'r siart yn seiliedig ar werthiant CDs, finyl ac yn ddigidol, a hefyd yn cynnwys ffrydio.
Fe ffurfiodd Those Damn Crows ym Mhen-y-bont yn 2014, gan adeiladu eu dilyniant drwy chwarae gigs ar draws de Cymru.
"Mae'n hollol hurt," meddai'r prif leisydd Shane Greenhall, gan ddiolch i'w cynulleidfaoedd am "aros gyda ni am 10 mlynedd".
Mae'r band wedi bod yn agos at frig y siartiau albymau o'r blaen, gyda'u halbwm Inhale/Exhale wedi cyrraedd y trydydd safle yn 2023.