Cyhuddo dyn, 51, o lofruddiaeth wedi ymosodiad honedig

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Brynmor am tua 20:15 nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 51 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn ymosodiad honedig yn Abertawe dros y penwythnos.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad y tu allan i dafarn The Mill ar Ffordd Brynmor yn ardal Brynmill y ddinas am tua 20:15 nos Wener.
Cafodd dyn 63 oed ei gludo i Ysbyty Treforys, a bu farw o'i anafiadau ddydd Sul.
Mae ei deulu bellach yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.
Mae Steven Vonk, 51 o Abertawe, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth, ac fe ymddangosodd o flaen Llys Ynadon Abertawe fore Llun.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo fynd o flaen Llys y Goron Abertawe ddydd Mawrth.
Mae'r heddlu yn galw ar unrhyw un oedd yn dyst i'r digwyddiad neu sydd â gwybodaeth all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.