O'r archif: Gorsedd beirdd Llydaw

Disgrifiad,

Aelodau o orsedd Llydaw

  • Cyhoeddwyd

Mae 19 Mai yn ddiwrnod rhyngwladol Llydaw, ble mae Llydäwyr yn dathlu eu nawddsant, Sant Erwan.

Mae sawl cysylltiad rhwng Llydaw a Chymru, gyda nifer o bentrefi a threfi'r ddwy wlad wedi'u gefeillio.

Mae'r rhain yn cynnwys Caerfyrddin (Lesneven), Aberystwyth (Saint-Brieuc), Dolgellau (Guérande) a Chaernarfon (Landerneau) i enwi ond rhai.

Sioni Winwns yn gysylltiad arall; dyma'r enw a roddwyd i werthwyr nionod fyddai'n dod i Brydain o Lydaw.

Roedd y gwerthwyr yn olygfa gyffredin mewn nifer o drefi yng Nghymru mor hwyr â'r 1970au.

Yn ogystal â'r cysylltiadau yma, mae'r Llydäwyr hefyd yn falch iawn o'u diwylliant barddol ac mae ganddyn nhw ei gorsedd eu hunain.

Dyma glip archif o un o'u seremonïau yn Llydaw yn 1980.

Yn y fideo mae Archdderwydd Gorsedd Cymru ar y pryd, Geraint Bowen, yn cyfarch y dorf a Catherine Latour yn cael ei hurddo.