Ymgyrch gweddw i gleifion ddewis beth sy'n digwydd i feinwe tiwmor

Ellie James a'i gŵr diweddar, OwainFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw gŵr Ellie James, Owain, y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae gweddw dyn a fu farw o diwmor ar yr ymennydd yn ymgyrchu dros gael yr hawl i gleifion benderfynu beth sy'n digwydd i'w meinwe.

Bu farw gŵr Ellie James, Owain, y llynedd, ac yr wythnos hon roedd hi yn y Senedd i glywed dadl ynghylch a ddylid newid y gyfraith.

Mae ei haelod lleol, Hefin David, yn galw am alw'r newid yn Gyfraith Owain er cof amdano.

Ond dywedodd yr ysgrifennydd iechyd nad oedd yn bwriadu cytuno, gan y gallai newid gael "canlyniadau anfwriadol".

Owain James
Disgrifiad o’r llun,

Dywedwyd wrth Owain James dair blynedd yn ôl fod ganddo diwmor malaen, cam 4 yn ei ymennydd

Dywedwyd wrth Owain James, a oedd yn 34 oed ac o Gaerffili, dair blynedd yn ôl fod ganddo diwmor malaen, cam 4 yn ei ymennydd.

Tynnwyd hanner y tiwmor hwnnw, a dywedodd meddygon mai'r gorau y gallen nhw ei wneud i Mr James, oedd yn cael ei adnabod fel Owen, fyddai rheoli gweddill y tiwmor dros dro.

Ond penderfynodd Owain a'i wraig Ellie roi cynnig ar frechlyn imiwnotherapi, nad yw'n cael ei gynnig gan y gwasanaeth iechyd.

Roedd y brechlyn yn seiliedig ar feinwe ei diwmor ef, a byddai'n addysgu ei system imiwnedd i adnabod y celloedd canseraidd.

Y broblem i'r teulu oedd mai dim ond ychydig bach o'r tiwmor a gadwyd, ond maen nhw'n dweud bod y brechlynnau a ddefnyddiwyd, a grëwyd o'i feinwe, wedi lleihau'r tiwmor oedd ar ôl yn sylweddol.

Fodd bynnag, roedd y canser wedi lledu i rywle arall a doedd dim modd ei drin, a bu farw Owain James fis Mehefin diwethaf.

Ellie James a Hefin David
Disgrifiad o’r llun,

Ellie yn y Senedd gyda'i AS lleol, Hefin David, yr wythnos hon

Yr wythnos hon daeth Ellie i'r Senedd i wylio ei AS lleol, Hefin David, yn gofyn i Lywodraeth Cymru newid y gyfraith i sicrhau bod holl feinwe tiwmor yn eiddo i'r claf, fel y gallan nhw benderfynu beth i'w wneud ag ef.

Dywedodd: "Mae'n rhywbeth y bydd pob claf tiwmor ar yr ymennydd yn ei wynebu… a dim ond un cyfle sydd i'w wneud yn iawn.

"Felly pan fyddwch chi'n cael eich tiwmor ar yr ymennydd wedi'i dynnu, cyn gynted ag y byddan nhw wedi'i roi mewn paraffin neu wedi'i halogi â rhywbeth, rydych chi'n colli pob cyfle i wneud rhywbeth arall ag ef.

"Felly mae'n rhaid i'r un penderfyniad hwnnw fod y penderfyniad cywir."

Dywedodd Hefin David: "Mae'r cleifion yn haeddu'r hawl i benderfynu beth sy'n digwydd i'w meinwe; a fyddai'n cael ei defnyddio ar gyfer ymchwil, ar gyfer brechlynnau, a bod y claf hwnnw'n haeddu'r dewis fel eu bod nhw'n penderfynu ble mae'r meinwe yma yn pennu lan yn y dyfodol."

Dr Helen Bulbeck o'r elusen tiwmor yr ymennydd Brainstrust
Disgrifiad o’r llun,

"Mae angen ymgyrch ar lawr gwlad," meddai Dr Helen Bulbeck

Mae ymgyrchwyr fel Dr Helen Bulbeck, o elusen tiwmor yr ymennydd Brainstrust, yn dweud bod angen i feddygon fod yn gliriach gyda chleifion ynghylch sut gellir defnyddio eu meinwe.

"Mae angen ymgyrch ar lawr gwlad gyda chleifion yn mynd i mewn ac yn siarad â llawfeddygon am yr hyn maen nhw eisiau i'w meinwe gael ei defnyddio ar ei gyfer," meddai.

"Felly mae'n bwysig iawn bod y cyhoedd yn cael eu haddysgu ac yn deall beth yw'r opsiynau, neu sut mae eu dewisiadau'n cael eu cyfyngu os dy'n nhw ddim yn cael eu gofyn am ganiatâd, ac os nad yw eu meinwe'n cael ei chadw yn y ffordd gywir."

Jeremy MilesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Jeremy Miles, gallai creu cyfraith o'r fath arwain at "ganlyniadau anfwriadol"

Roedd y ddadl a arweiniodd Hefin David yn y Senedd yn galw ar i weinidogion gyflwyno'r hyn y mae'n ei alw'n Gyfraith Owain, ond dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Miles wrth ASau nad oedd wedi'i argyhoeddi.

"Mae cyflwyno gofyniad statudol i rewi holl feinwe tiwmor yr ymennydd yn ffres, ym marn y llywodraeth, yn peryglu creu canlyniadau anfwriadol," meddai.

"Mae timau clinigol eisoes yn defnyddio eu barn arbenigol i gydbwyso anghenion diagnostig â'r potensial ar gyfer ymchwil a therapïau newydd.

"Gallai diystyru'r disgresiwn clinigol hwnnw trwy ddeddfwriaeth beryglu diagnosis amserol neu greu gwrthdaro lle mae cyfaint meinwe yn gyfyngedig, a dyna pam nad yw'r llywodraeth yn credu bod yr achos wedi'i wneud dros ddeddfwriaeth."

Ellie James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellie James yn dweud y bydd ei hymgyrch yn parhau

Er gwaethaf penderfyniad y gweinidog, mae Ellie James a Hefin David yn dweud y bydd eu hymgyrch yn parhau, ac maen nhw am gwrdd â Mr Miles i drafod hyn ymhellach.

Maen nhw'n dweud eu bod yn benderfynol o weld Cyfraith Owain yn dod i rym i helpu i wella'r opsiynau triniaeth ar gyfer cleifion canser.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig