'Rhwystredigaeth' teulu am driniaeth canser y GIG

  • Cyhoeddwyd
Owain James
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain wedi cael gwybod ei bod hi'n bosib mai ychydig fisoedd sydd ganddo i fyw heb driniaeth ychwanegol

Mae gwraig dyn sydd â thiwmor nad oes gwella arno yn dweud eu bod yn teimlo yn "rhwystredig" ac wedi eu "hesgeuluso", wrth iddyn nhw geisio casglu cannoedd o filoedd o bunnau i ariannu triniaeth sydd ddim ar gael ar y GIG.

Mae Owain James, 34, o Gaerffili, sydd â merch 18 mis oed, wedi cael gwybod ei bod hi'n bosib mai ychydig fisoedd sydd ganddo i fyw heb driniaeth ychwanegol.

Mae'r elusen Brain Tumour Research yn galw am fwy o arian tuag at ymchwil, gyda sefyllfa Owain yn "annerbyniol".

Dywed Llywodraeth Cymru fod gan ganolfannau canser ar draws Cymru brosesau ar waith i gyfeirio pobl i dreialon clinigol agored, ond fod triniaethau yn cael eu cynnig yn dilyn asesiad o'u heffeithiolrwydd clinigol a'u bod yn gost-effeithiol.

"Dal ddim wedi suddo i mewn"

Mae Owain, sy'n gweithio fel plymar, yn dweud iddo sylwi ar symptomau am y tro cyntaf fis Chwefror - yn sgil ambell gyfnod byr lle nad oedd yn teimlo'n hollol iawn.

Ond erbyn diwedd yr haf roedd ei symptomau wedi gwaethygu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellie yn teimlo bod y system yn "annheg" ac y dylai yna fod opsiynau i gleifion gael eu hystyried yn unigol ar gyfer triniaeth ar y GIG.

"Ar ddydd Llun Gŵyl y Banc Awst fe wnes i ddeffro gyda'r cur pen gwaethaf dwi erioed wedi ei gael", meddai Owain, oedd wedi bod yn chwarae pêl-droed a rhedeg 10K yn y misoedd cyn hynny.

"Allwn i ddim symud heb deimlo fel petai rhywun yn fy nhrywanu i."

Wedi profion dywedodd meddygon fod ganddo diwmor gradd 4, 14cm mewn diamedr ar ei ymennydd, allai fod wedi bod yno ers deng mlynedd.

Cafodd lawdriniaeth sydyn a chafodd 80% o'r tiwmor ei symud, ond fe ddywedwyd wrtho, gyda'r driniaeth oedd ar gael ar y GIG ei bod hi'n bosib mai ychydig fisoedd oedd ganddo i fyw.

"Wnaeth o ddim suddo i mewn yn syth, a tydi o dal ddim wedi suddo i mewn mewn gwirionedd, " meddai Owain.

"Dwi ddim ond yn 34, ddylwn i ddim bod yn meddwl am bethau fel hyn."

Fe wnaeth y cwpwl briodi yn gynharach fis yma, ac mae Owain bellach yn derbyn triniaeth cemotherapi a radiotherapi dwys, ond mae wedi cael gwybod gan ei feddyg y gallai dau fath o driniaeth ymestyn hyd ei fywyd, un o'r enw DCVax a'r llall o'r enw Optune.

Ffynhonnell y llun, Katie Alexandra photography
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Owain ac Ellie James briodi fis Hydref wrth iddo gael triniaeth cemotherapi a radiotherapi ar gyfer y tiwmor

Mae DCVax yn gweithio drwy gynhyrchu brechlyn sy'n defnyddio celloedd imiwnedd y corff i dargedu'r canser - mae ar hyn o bryd yn y trydydd cam o brofion clinigol, ond mae profion cychwynnol yn awgrymu y gallai helpu cleifion fel Owain.

Mae Optune yn ddyfais sy'n edrych fel cap penglog, sy'n creu maes trydan i darfu ar raniad celloedd tiwmor.

Yn 2018 fe wnaeth y corff sy'n cynghori ar ariannu triniaethau, NICE, ddweud nad oes digon o dystiolaeth o ran ei effeithiolrwydd clinigol, a'i allu i wella'r gobeithion o oroesi, i'r dechnoleg fod yn gost-effeithiol.

Ceisio codi £250,000

Mae'n gadael Owain a'i deulu yn ceisio codi £250,000 i gael mynediad at y triniaethau.

Mae ei wraig Ellie yn teimlo bod y system yn "annheg" ac y dylai yna fod opsiynau i gleifion gael eu hystyried yn unigol ar gyfer triniaeth ar y GIG.

Ffynhonnell y llun, Family photo
Disgrifiad o’r llun,

"Tydi o dal ddim wedi suddo i mewn mewn gwirionedd, " meddai Owain.

"Mae'n rhwystredig iawn," meddai. "Mae ganddyn nhw reolau, mae ganddyn nhw eu ffiniau a does yna ddim hyblygrwydd."

Yn ôl Hugh Adams o'r elusen Brain Tumour Research, mae nhw'n gweld "llawer o deuluoedd" mewn sefyllfa debyg

"Yn hanesyddol, dim ond un y cant o'r gwariant cenedlaethol ar ymchwil canser sydd wedi mynd tuag at diwmorau ar yr ymennydd, " meddai.

"Mae'n bryd i ni wneud rhywbeth yn wahanol. Mae angen i'r Llywodraeth ariannu rhagor o ymchwil, ond hefyd i deulu Owain ar hyn o bryd, mae'n annerbyniol mae'r unig opsiwn iddyn nhw ydi codi arian eu hunain ar gyfer cael triniaeth".

Ymchwil a budsoddi

Dywedodd Llywodraeth Cymru : "Rydym yn buddsoddi mewn ymchwil i driniaethau newydd ar gyfer sawl math o ganser, gan gynnwys tiwmorau ar yr ymennydd, drwy ein cynlluniau ein hunain a thrwy ymchwil ledled y DU.

"Mae hyn yn cynnwys £9.4m ar gyfer canolfan ymchwil delweddu'r ymennydd ym Prifysgol Caerdydd a fydd yn helpu i ariannu sganiwr MRI a datblygu'r campws.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Owain yn chwarae pêl-droed i Bentre'r Eglwys

"Mae'r ymchwil a wnaed yn y ganolfan yn helpu gwyddonwyr i ddeall achosion clefydau'r ymennydd."

Ychwanegodd y llefarydd fod gan ganolfannau canser ledled Cymru brosesau ar waith i gyfeirio pobl i dreialon clinigol agored,

"Mae'r GIG yn darparu triniaethau a argymhellir gan gyrff arbenigol sydd wedi asesu effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd y triniaethau hynny.

"Pan nad yw triniaeth ar gael fel mater o drefn, mae gan y clinigwyr sy'n trin y dewis o baratoi cais unigol am gyllid ar gyfer claf."

Er gwaetha'r ansicrwydd, mae Owain yn ceisio canolbwyntio ar y presennol.

"Rwy'n teimlo'n bositif ynglŷn â 'r cyfan. Rwy'n teimlo'n ok," meddai.

"Mae'n rhaid i fi edrych arni felly - fe wna i ddal i fynd".

Pynciau cysylltiedig