Steffan Alun: Sut wyt ti'n ei 'gwneud hi' yn y byd comedi?
- Cyhoeddwyd
Mae'r comedïwr Steffan Alun newydd orffen mis llwyddiannus o berfformio yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, ac wedi ennill gwobr Pegasus am ei waith... felly ai dyma beth yw cyrraedd y brig o fewn comedi? Dyma Steffan i egluro:

Tair blynedd yn ôl, wrth i'r byd ail-agor yn dilyn y cyfnodau clo, trefnais noson gomedi mewn bwyty yn Abertawe. Dim ond 20 tocyn oedd ar gael - er mwyn i bawb eistedd yn ddigon pell oddi wrth ei gilydd.
Gofynnais i rai o'r digrifwyr gorau yn Ne Cymru berfformio. Cytunodd pob un, gan berfformio eu deunydd gorau, a gwerthwyd pob tocyn o fewn munudau.
Yn y gynulleidfa, roedd Gareth, un o fy ffrindiau gorau. Ar ddiwedd y gig, gofynnodd gwestiwn diddorol:
"Roedd pob un ohonyn nhw'n ffantastig," meddai. "Ond faint ohonyn nhw wnaiff ei 'gwneud hi'?"
Cwestiwn rhesymol - ond un oedd mor rhyfedd i fi. Roedd pob un o'r digrifwyr yn perfformio comedi, ac yn cael eu talu am wneud. I fi, am flynyddoedd, dyna oedd ystyr ei "gwneud hi"; ennill bywoliaeth am ddweud jôcs.
Felly beth yw ei "gwneud hi"?
Adeiladu cynulleidfa
Pan roedden ni'n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn mynd i noson gomedi Undeb y Myfyrwyr, gwelais i a Gareth lwyth o ddigrifwyr cylch comedi Prydain, dim un ohonynt yn enwog. Roedd y perfformwyr hyn yn cynnwys Michael McIntyre, Shaparak Khorsandi, Mark Watson, Russell Howard, Reginald D Hunter a Jason Manford.
Cyffrous, felly, oedd eu clywed ar y radio neu eu gweld ar y teledu. Weithiau mi wela'i wyneb cyfarwydd ar sgrîn enfawr Arena Abertawe, a meddwl, "Yn 2004, gwelais i hwn am £2.50".
Bryd hynny, y llwyddiant mwyaf fyddai gwaith ar y teledu - yn enwedig Mock the Week, Live at the Apollo neu 8 Out of 10 Cats. Byddai ymddangos ar raglen o'r fath yn helpu i werthu miloedd o docynnau i deithiau'r digrifwyr.
Bellach, mae pethau wedi newid, gyda llawer o berfformwyr yn rhannu eu gwaith ar y we - ar TikTok neu Instagram - ac yn marchnata eu teithiau i'w gwylwyr.
Rwy'n rhy draddodiadol i hynny. Perfformiadau byw sy'n fy ngwirioni, nid sgetsys wedi'u ffilmio i ffitio siâp ffôn. Felly, ers blynyddoedd, rydw i wedi bod yn perfformio sioeau 45 munud yng Ngŵyl Caeredin.
Mae fy nghynulleidfa wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn. Ond heb arian mawr i'w wario ar farchnata, a heb fyw yn Llundain i ennyn sylw'r diwydiant comedi, fy nghynulleidfaoedd yn unig sy'n gweld fy ngwaith. Dim adolygiadau proffesiynol, dim gwobrau - a dyna sy'n angenrheidiol ar gyfer y cam nesaf, sef datblygu enw er mwyn symud i fyd y cyfryngau.
Wrth gwrs, rwy'n cael gwaith ar S4C a Radio Cymru, ac roedd hynny'n hen ddigon i fi.
'Cymryd risg' ar Gaeredin
Ond braf iawn oedd gweld llwyddiant y digrifwr Ignacio Lopez. O dras Sbaenaidd a Chymreig, mae Ignacio wedi bod yn rhannu ei waith ar-lein, ac yn talu arian mawr i gynhyrchu ei sioeau ei hun yng Nghaeredin. Yna cafodd ei gynnwys yn Live at the Apollo, ac ers hynny popeth o Have I Got News For You i Pointless Celebrities.
Roedd Ignacio'n un o'r digrifwyr gytunodd i berfformio i 20 o bobl yn fy noson gomedi yn 2022. Felly dyna ti, Gareth - un ohonynt wedi ei gwneud hi!
Ym mis Rhagfyr, es i ac Ignacio am ddiod Nadoligaidd. Ac yna, gwnaeth gynnig i mi:
Roedd yn fodlon cynhyrchu fy sioe Caeredin nesaf, a chymryd y risg ariannol. Credodd y byddai fy sioe'n gwerthu'n ddigon da i dalu am gost rhentu'r ystafell, yn ogystal â chostau PR a deunyddiau marchnata. Miloedd ar filoedd o bunnoedd - mae hon yn ŵyl ddrud.

Cymerodd Ignacio Lopez siawns ar sioe Caeredin Steffan
Ro'n i eisoes wedi bod yn gweithio ar fy sioe nesaf, ond rhoddais y gwaith i un ochr. Byddai angen sioe arbennig iawn i fanteisio ar gyfle fel hyn.
Treuliais y misoedd nesaf yn gweithio'n galed ar sioe fyddai'n rhannu pob elfen o fywyd sy'n bwysig i mi; fy Nghymreictod, fy nghymuned, fy neurywioldeb, fy mywyd priodasol, ac yn fwy na dim, fy nghariad at stand-yp.
Mae llawer o drafod ynghylch gwerth Gŵyl Caeredin. Gyda chostau'n cynyddu bob blwyddyn, a chostau llety mor ddrud, a gyda llai a llai o bobl byd teledu'n mynychu - oes diben?
Wel, i fi, does dim angen adolygiadau gwych a gwobrau i gael profiad gwych. Mae'n ŵyl arbennig iawn.
Ydy, mae hi'n annioddefol o ddrud. Ond i fi, i dreulio mis yng nghmwni eraill sydd wedi talu crocbris i ymgolli mewn comedi - dyna'r peth gorau yn y byd. Wedi'r cyfan, ry'n ni'n fodlon talu digon i fynd i'r Steddfod am yr un rheswm yn union; er mwyn gweld 'ein pobl ni'.
Wedi dweud hynny, roedd un ffordd gan Ignacio o leihau'r gost, sef gweithio gyda Hoots, lleoliad ddechreuodd yn 2023 sy'n credu y dylai digrifwyr ennill arian am eu gwaith, hyd yn oed yng Nghaeredin ym mis Awst.
Gwych! Y broblem yw, dyw adolygwyr ddim yn debygol o ddod i leoliad newydd, ac anodd iawn yw cael enwebiad am wobr, heb son am ennill un...
Mis caled a llwyddiannus
Perfformiais y sioe gyntaf i 16 o bobl, ac am y tro cyntaf yng Nghaeredin, roedd rhain wedi talu am docynnau i weld fy sioe. Pleser oedd perfformio i'r criw bach.
Yn ddiarwybod i mi, adolygydd oedd un o'r bobl yn y gynulleidfa gyntaf honno. Rhai diwrnodau'n ddiweddarach, cyhoeddwyd yr adolygiad. Pedair seren a hanner - oedd yn beth enfawr i sioe newydd gan ddigrifwr anadnabyddus fel fi.
A newidiodd popeth.
Yna, mwy o newyddion. Bob blwyddyn, mae'r Telegraph a'r Times yn cyhoeddi rhestr o jôcs gorau'r ŵyl. Roedd un o fy jôcs ar restr y Telegraph, ac un arall ar restr y Times.
Daeth mwy o adolygwyr wedyn. A mwy o gynulleidfa. Erbyn y diwedd, roedd yr ystafell yn llenwi, gan werthu pob tocyn.
Yn ogystal ag adolygiadau'r wasg, roedd adolygiadau gan y gynulleidfa'n cael eu cyhoeddi ar wefan y Ffrinj. Mwy o ddilynwyr ar Instagram bob dydd - arwydd fod pobl am gadw llygaid arna'i.
Mae'n anodd disgrifio sut roedd hyn yn teimlo. Mae'r mis yn hwyl, ond yn anodd. Ro'n i'n perfformio o leiaf pum sioe bob dydd - nid fy un i'n unig, ond sioeau eraill er mwyn ennill arian, ac er mwyn hyrwyddo fy sioe. Hyfryd oedd yr adolygiadau gwych, ond doedd dim amser i ddathlu, gyda sioe arall ar fin dechrau.

Ar y nos Sadwrn olaf mynychais noson wobrwyo Pegasus. Fy hoff noson o'r flwyddyn, mae'r sesiwn wobrwyo mor ddoniol ag unrhyw sioe gomedi, gyda digrifwyr yn cyflwyno'r gwobrau yn ffraeth a di-flewyn-ar-dafod.
Cyhoeddodd y digrifwr Alexander Bennett enillydd y wobr 'Best Newcomer':
Steffan Alun.
Y teimlad mwyaf rhyfedd. Rwy wedi clywed llwyth o bobl yn disgrifo'r teimlad hwn o'r blaen - clywed fy enw, a methu â chredu'r peth. Ai fy enw i oedd hwnna?
A dyma fi'n camu i'r llwyfan, a manteisio ar gyfle arall i dynnu coes: "Mae ennill gwobr Pegasus wedi bod yn freuddwyd i mi, ers i mi gofio eu bod yn bodoli 20 munud yn ôl."
Dwy sioe ar ôl - haws eu marchnata nag erioed o'r blaen, wedi i mi gael fy newis fel y Newydd-ddyfodiad Gorau... ar ôl 14 blynedd o berfformio!

Gwobr Steffan Alun, y newydd-ddyfodiad gorau!
Mis caled o berfformio. 125 o berfformiadau. Llwyddiant diffuant.
Ai dyma yw ei "gwneud hi"?
Pwy a ŵyr beth ddaw nesaf, wrth gwrs. Bydd angen cynlluniau newydd i fanteisio ar y cyfleoedd newydd sydd ar gael i mi, gyda fy llwyddiannau diweddar.
Wrth i mi edrych yn ôl, felly, ar ddegawd a hanner o berfformio, ac ar y sgwrs gyda Gareth mewn bwyty, ac ar flynyddoedd yng Nghaeredin, ac ar fis caletaf fy mywyd... a fyddaf yn ei "gwneud hi"?
Cawn weld. Rwy'n edrych ar sgrîn fawr Arena Abertawe.
Rho flwyddyn arall i fi. Mae'n amser dechrau ar yr ail albwm anodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
- Cyhoeddwyd19 Awst
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024