Ydy poen yn y cymalau wir yn gwaethygu dros y gaeaf?
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o bobl yn mwynhau bod allan yn yr awyr agored dros y gaeaf, ond mae hynny'n gallu arwain at boenau i rai.
Yn yr oerfel, mae nifer yn teimlo bod poenau yn eu cymalau a llefydd eraill yn eu cyrff yn dechrau gwaethygu.
Mae 'na hen syniad bod poenau yn y cymalau yn gallu bod yn arwydd o newid yn y tywydd.
Ond oes 'na unrhyw wirionedd i hynny?
Mae Sadé Asker, 30, o Gaerdydd yn byw gyda chrydcymalau gwynegol (rheumatoid arthritis), ac mae hi'n gyfarwydd iawn gyda theimlo'n waeth dros y gaeaf.
"Gaeaf y llynedd ges i flare-up gwael iawn. Roedd rhaid i fi fynd i'r ysbyty i gael pigiadau," meddai.
"Fi yn ffeindio bod y tywydd oer yn cael tipyn go lew o effaith arna i.
"Mae'n gwneud fi'n achy iawn, ond mae hefyd yn gwneud fi ddim eisiau mynd allan ac ymarfer corff, sydd ddim yn beth da i fi chwaith.
"Fi mewn cryn dipyn o boen. Fel arfer mae o gwmpas fy nwylo, a fi'n cael e'n eitha' aml pan yn torri bwyd neu'n agor pethau.
"Mae'r cymalau yn fy mysedd a fy nwrn yn mynd yn stiff, a fi yn ffeindio bod yr oerfel yn gwneud e hyd yn oed yn waeth."
Mae Sadé yn gweithio i'r National Rheumatoid Arthritis Society, sy'n cynghori pobl i geisio cadw'n gynnes yn y gaeaf er mwyn gofalu am eu cymalau.
'Dydyn ni ddim wir yn gwybod'
Yr Athro Will Dixon o Brifysgol Manceinion sydd wedi cynnal yr astudiaeth fwyaf o'i math i geisio darganfod pa dywydd sy'n cael yr effaith fwyaf ar boenau pobl.
"Dwi'n gweithio fel doctor mewn ysbyty, ac ym mhob clinig bron, mae cleifion yn dweud wrtha i bod eu cymalau yn well neu'n waeth oherwydd y tywydd," meddai.
"Ac eto, dydyn ni ddim wir yn gwybod beth ydy'r berthynas rhwng gwahanol elfennau'r tywydd a phoenau pobl."
Roedd astudiaeth Cloudy with a Chance of Pain yn cynnwys 13,000 o bobl ar draws y DU sy'n byw gyda chyflyrau sy'n golygu eu bod mewn poen yn aml - o broblemau cymalau i feigryn.
Roedd y bobl fu'n cymryd rhan yn defnyddio ap ar eu ffonau i nodi eu symptomau, ac roedd hynny'n cael ei gysylltu gyda'r amodau tywydd ble roedden nhw ar y pryd.
"Fe wnaethon ni ddarganfod bod dyddiau ble roedd cynnydd sylweddol mewn poen yn cyd-fynd â dyddiau oedd yn fwy humid, neu ble roedd pwysedd isel, a gwyntoedd cryfion hefyd," meddai'r Athro Dixon.
'Cynllunio o amgylch y tywydd'
Er nad oes modd y bobl newid y tywydd, dywed yr Athro Dixon bod rhagolygon yn golygu bod modd i bobl gynllunio ymlaen llaw.
"Dydyn ni ddim yn gallu newid y tywydd, ond mi ydyn ni'n gallu rhagweld y tywydd.
"Os 'da chi'n gwybod sut mae'r tywydd yn dylanwadu ar eich poen, gallai alluogi pobl i ddeall sut y bydd eu poen yn newid yn yr wythnos i ddod, a chynllunio o amgylch hynny."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl