Risg i fanylion plant bregus wedi tor diogelwch data

laptop
  • Cyhoeddwyd

Mae manylion plant bregus yng Nghaerdydd wedi cael eu peryglu oherwydd tor diogelwch data, yn ôl dogfennau'r cyngor.

Mae'r methiant seiberddiogelwch yn golygu "risg diogelu posib i blant" ac yn ymwneud â phobl ifanc y mae cyngor Caerdydd yn gofalu amdanyn nhw, yn ôl Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol.

Cafodd aelodau o bwyllgor llywodraethu ac archwilio cyngor Caerdydd wybod am y tor diogelwch data gan un o swyddogion y cyngor mewn cyfarfod ddydd Mawrth.

Mae cyngor Caerdydd a Data Cymru wedi cael cais am ymateb.

Roedd dogfen y cyngor yn nodi fod "methiant mewn seiberddiogelwch yn arwain at dor-data ac felly'n risg bosibl o ran diogelu plant" a nodwyd hefyd fod y sefyllfa wedi gwaethygu ym mis Ionawr eleni.

Fe wnaeth cyfarwyddwr gwasanaethau plant y cyngor, Deborah Driffield, sôn am y tor diogelwch data wrth gyflwyno diweddariad ar reoli risg i aelodau pwyllgor.

Dywedodd: [Mae yna] rai problemau ynghylch seiberddiogelwch.

"Rydym wedi cael toriad data yr ydym yn ei reoli ar hyn o bryd ac yn llunio trefniadau newydd ar gyfer byd lle mae pobl yn dwyn data a'i rannu ar y we dywyll ac ry'n yn ceisio deall sut y gallwn atal hynny."

'Hwn yn faes newydd'

"Mae hwn yn faes eithaf newydd i ni, ond rydym wedi rhannu'r risg ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Data Cymru a'r holl awdurdodau lleol ar hynny."

Fe wnaeth datganiad y cyngor hefyd nodi fod gwaith wedi cychwyn gyda thîm seiberddiogelwch arbenigol, bod asesiadau risg yn cael eu cymryd, a chynllun yn cael ei ddatblygu.

Fe wnaeth y methiant effeithio ar Data Cymru, cwmni llywodraeth leol yng Nghymru sy'n cefnogi cynghorau a'u partneriaid i gasglu data.

Mae bwrdd cyfarwyddwyr y cwmni wedi'i ethol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Pynciau cysylltiedig