Cofio'r athro poblogaidd Frank Letch sydd wedi marw yn 80 oed

Fe fyddai Frank Letch wastad yn dweud ei fod yn gallu "'neud pob dim"
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi'u rhoi i'r cyn-athro Frank Letch, sydd wedi marw yn 80 oed.
Wedi ei fagu yn ardal Peckham yn nwyrain Llundain, bu'n byw yn Llanuwchllyn ac roedd yn athro Ffrangeg yn Ysgol y Berwyn, Y Bala.
Roedd bellach yn gynghorydd sir yn Nyfnaint gan gynrychioli ardal Crediton a bu hefyd yn gynghorydd tref yno.
Yng Nghymru daeth i amlygrwydd am ei bositifrwydd yn byw gydag anabledd a bu sawl rhaglen deledu amdano.
Yn y rhaglen DRYCH: Byw Heb Freichiau, a gafodd ei darlledu yn 2021, siaradodd yn agored am yr effaith o gael ei eni heb freichiau.
Ar y pryd dywedodd: "Dwi'n gobeithio fydd o'n helpu pobl i gofio be' oeddwn i ac i bobl gael diddordeb mewn pobl sy' efo be' mae pawb yn galw yn 'anabledd'."
Yn 2015 cafodd MBE gan y frenhines am ei gyfraniad i lywodraeth leol.

Roedd Frank Letch yn gymeriad hynod o boblogaidd, meddai Eleri Llwyd, a fu'n dysgu gydag ef yn Ysgol y Berwyn
Yn y rhaglen hefyd bu Frank yn cofio am ei flynyddoedd hapus yn Llanuwchllyn ger y Bala yn magu pump o blant gyda'i wraig Helen.
Symudodd yno i weithio fel athro Ffrangeg yn Ysgol y Berwyn, lle bu'n dysgu am 20 mlynedd: "O'n i wrth fy modd yn yr ardal - a Helen hefyd," meddai.
"Dwi'n gorfod dweud dwi'n meddwl mod i'n hapusach oherwydd dysgu Cymraeg. Yn arbennig lle oedden ni'n byw - prifddinas Cymru yw Llanuwchllyn, nid Caerdydd!"
Gan ddefnyddio ei draed i yfed ei beint o gwrw roedd Frank i'w weld yn gyson yn nhafarn lleol yr Eagles yn Llanuwchllyn ac yn mwynhau gemau o ddartiau yno - byddai'n eu taflu gyda'i draed.
'Mynd yr ail filltir'
Brynhawn Mawrth dywedodd Elfyn Llwyd, cyn-Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd, ei fod yn drist iawn o glywed am farwolaeth Frank Letch.
Dywedodd ei fod yn falch bod Gideon ei fab yn gweithio yn ardal Llanuwchllyn fel garddwr.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd ei wraig Eleri Llwyd, a fu'n gweithio gyda Frank Letch yn Ysgol y Berwyn, ei fod yn "athro hynod o boblogaidd".
"Gan ei fod yn athro Ffrangeg roedd ieithoedd yn dod yn hawdd iddo ac roedd yn siarad Cymraeg yn gwbl rhugl mewn dim," meddai.
"Roedd ganddo feic arbennig wedi'i addasu iddo ac roedd o'n gallu mynd a dod i'w gartref oedd y tu allan i'r pentref o fewn dim wedi iddo symud yma ond ar ôl ychydig roedd hi'n cymryd llawer mwy o amser gan fod pawb isio sgwrs gyda Frank.
"Roedd Frank yn gallu goroesi ei anabledd yn llawen ac yn wir roedd o'n g'neud pob dim yn dda."
- Cyhoeddwyd23 Mai 2021
Ychwanegodd: "Fe gollodd ei wraig Helen pan oedd hi'n 41 - a fe fagodd y pum plentyn. Wrth 'neud bwyd, er enghraifft, ro'dd o'n mynd yr ail filltir bob tro. Doedd rywbeth rywbeth ddim yn 'neud y tro.
"Yn yr ysgol roedd y plant wrth eu boddau gydag o - roedd ganddo hiwmor da. Fyddai fo ddim yn cymryd dim lol - roedd o'n athro hynod o boblogaidd."
Symudodd Frank Letch o ardal Y Bala i'r Alban ac roedd bellach yn byw yn Crediton ers blynyddoedd gyda'i wraig Natalia.
Bu hefyd yn gadeirydd Cyngor Dosbarth Canolbarth Dyfnaint.
Mae'n gadael ei weddw Natalia, pump o blant a saith o wyrion.