Staff Prifysgol Caerdydd i streicio a pheidio marcio

- Cyhoeddwyd
Mae staff ym Mhrifysgol Caerdydd wedi pleidleisio o blaid streicio a boicot marcio ac asesu yn ystod tymor yr haf.
Dywedodd yr Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) fod ei aelodau wedi ymateb i gynnig "creulon a diangen" y brifysgol i dorri swyddi.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y brifysgol gynigion i dorri 400 o staff a chael gwared ar rai adrannau, ond mae bellach wedi newid y ffigwr i 286 o rolau.
Dywedodd Dr Joey Whitfield, llywydd cangen UCU y brifysgol, fod eu neges i'r bwrdd gweithredol yn glir.
'Penderfyniadau anodd'
Dywedodd y brifysgol ddydd Iau fod cynlluniau i gau'r adran nyrsio wedi'u gohirio ac y byddai llai o swyddi'n diflannu ar draws y sefydliad.
Cefnogodd 83% o aelodau UCU Caerdydd streicio ac roedd 86% yn cefnogi gweithredu mewn ffordd arall.
Mae aelodau undeb wedi ystyried eu hopsiynau ac wedi pleidleisio dros streic undydd ar 1 Mai.
Os na chaiff y sefyllfa ei datrys, dywedodd UCU y bydd boicot asesu amhenodol yn dechrau ar 6 Mai, a saith diwrnod o streicio ym mis Mai a mis Mehefin yn dilyn hyn.
Mewn datganiad, dywedodd UCU mai'r gobaith yw y bydd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol yn cytuno i ofynion staff cyn i unrhyw gamau ddechrau.
Ychwanegodd mai dyma'r mandad mwyaf yn hanes y gangen.
Yn flaenorol, amddiffynnodd yr Is-ganghellor, yr Athro Wendy Larner, y penderfyniad i dorri swyddi, gan ddweud y byddai'r brifysgol wedi dod yn "anghynaladwy" heb ddiwygiadau llym.
Cynnig yn unig yw'r toriadau i swyddi, meddai, ond mynnodd fod angen i'r brifysgol "wneud penderfyniadau anodd" oherwydd y gostyngiad yn nifer y ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol a phwysau costau cynyddol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl