Prifysgol Caerdydd i dorri 286 o swyddi - nid 400 - a gohirio cau'r adran nyrsio

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn gohirio eu cynlluniau i gau'r adran nyrsio
- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n lleihau nifer y staff y maen nhw'n bwriadu ei dorri o 400 i 286.
Dywedodd is-ganghellor y brifysgol, Wendy Larner wrth staff ddydd Iau y byddai 81 aelod o staff yn derbyn diswyddiad gwirfoddol a bod hynny'n caniatáu i lai o swyddi gael eu colli.
Daw'r cyhoeddiad yn fuan wedi iddi ddod i'r amlwg bod cynlluniau i gau adran nyrsio'r brifysgol wedi cael eu gohirio.
Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y brifysgol gynigion i dorri 400 o staff ar draws y sefydliad a chael gwared ar rai adrannau, gan gynnwys nyrsio.
Dywedodd Ms Larner fod y cynnig newydd i gadw nyrsio yn y brifysgol yn amodol ar drafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru a chyrff y GIG ond ei bod yn "obeithiol".
Dywedodd fod staff yn yr Ysgol Cemeg a'r Ysgol Mathemateg wedi cael gwybod nad oedden nhw bellach mewn perygl o gael eu diswyddo.
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
Cafodd staff yr adran nyrsio wybod mewn e-bost fore Iau y byddai'r cynnig newydd yn golygu dysgu llai o israddedigion ond y byddai rhaglenni nyrsio oedolion, plant ac iechyd meddwl yn aros yn y brifysgol.
Dywedodd yr Athro Stephen Riley, Dirprwy Is-Ganghellor, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, yn yr e-bost: "Mae hyn yn newyddion da i'r cyhoedd, cleifion ac wrth gwrs gweithlu nyrsio'r dyfodol yng Nghymru."
Dywedodd fod "cynllun amgen credadwy" wedi ei gyflwyno fel rhan o drafodaethau gyda staff, myfyrwyr, undebau, cyrff iechyd a Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr e-bost: "Mae'r dewis arall yn cynnig y byddwn yn addysgu carfannau nyrsio israddedig llai nag ar hyn o bryd, gyda'r cyrsiau wedi'u hail-lunio i wella'r profiad addysgu i'n myfyrwyr yn sylweddol.
"Byddem yn parhau i gynnig rhaglenni nyrsio oedolion, plant ac iechyd meddwl i fyfyrwyr o Gymru a thu hwnt."

Roedd y cynnig i gau'r ysgol nyrsio yn destun protestiadau gan staff a myfyrwyr a phryderon gan undebau a gwleidyddion y gallai fygwth cyflenwad nyrsys i GIG Cymru.
Byddai ceisiadau am ddiswyddiadau gwirfoddol ar gyfer Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd nawr yn cael eu gohirio, meddai'r e-bost.
Byddai deialog gyda'r GIG, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru "ar y cynnig a'i oblygiadau i'r gweithlu iechyd yng Nghymru" yn parhau, meddai'r Athro Riley.
'Addysgu llai o fyfyrwyr'
"Byddai'r cynnig amgen yn golygu addysgu llai o fyfyrwyr israddedig bob blwyddyn, ond canolbwyntio'n helaeth ar brofiad myfyrwyr a'r cymorth sy'n cael ei ddarparu drwy gydol y radd," ychwanegodd.
"Dylai hyn olygu bod cyfran uwch o fyfyrwyr yn graddio'n llwyddiannus ac yn symud i'r GIG yng Nghymru.
"Byddwn hefyd yn ceisio ailddatblygu ein harlwy ôl-raddedig a chynnal sylfaen ymchwil ar gyfer y proffesiwn yng Nghymru.
"Rwy'n cydnabod bod hwn wedi bod yn ddeufis hynod o heriol i bawb. Mae wedi achosi llawer iawn o ansicrwydd a phryder.
"Er bod angen i ni ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol a pharhau i ymgynghori â'n Hundebau Llafur cyn derbyn y cynnig amgen, rwy'n gobeithio y bydd newyddion am yr ateb amgen a chynaliadwy hwn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i chi i gyd."

Fe fydd Prifysgol Caerdydd yn hyfforddi llai o nyrsys mewn cyfnod lle mae angen cynyddu'r gweithlu yng Nghymru, meddai Helen Whyley
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn croesawu'r cyhoeddiad ond yn rhybuddio bod llawer o waith i'w wneud os yw'r brifysgol am adennill hyder y sector nyrsio.
"Mae'r RCN fel nifer o fyfyrwyr a staff ym Mhrifysgol Caerdydd yn falch o glywed y bydd nyrsio yn parhau i gael ei addysgu, ond yn siomedig iawn gyda'r ffaith na ddaeth y cyhoeddiad yma yn lawer cynt," meddai'r corff mewn datganiad.
"Roedd y cynlluniau yn sarhad i'r proffesiwn a nawr mae angen i Brifysgol Caerdydd ddangos eu hymrwymiad i roi gwerth mewn nyrsio, drwy gefnogi myfyrwyr a staff wedi'r hyn sydd wedi bod yn gyfnod heriol iawn."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol yr RCN yng Nghymru, Helen Whyley: "Yn bendant dyma oedd y peth iawn i'r brifysgol ei wneud... ond mae'n siom gweld bod nifer o staff wedi mynd am ddiswyddiadau gwirfoddol, ac y byddai'r ddarpariaeth yn y dyfodol yn llai o ganlyniad.
"Yn y pendraw, mi fydd Prifysgol Caerdydd yn hyfforddi llai o nyrsys, a hynny mewn cyfnod lle mae gwir angen cynyddu'r gweithlu yng Nghymru."
Angen cynllun 'credadwy a chynaliadwy'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu ymgysylltiad parhaus Prifysgol Caerdydd ag AaGIC a rhanddeiliaid ehangach, a'u cynnig ar gyfer parhad addysg nyrsio.
"Mae'n bwysig bod cynllun yn parhau i gael ei ddatblygu, sy'n ystyried anghenion y sector ac yn darparu dewis amgen credadwy a chynaliadwy ar gyfer darpariaeth nyrsio yn y rhanbarth.
"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Phrifysgol Caerdydd ac AaGIC tra bod y cynllun hwn yn cael ei ddatblygu."
Wrth ymateb, mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu'r newyddion, ond wedi cwestiynu penderfyniad y brifysgol i symud ymlaen â chreu campws yn Kazakhstan, dolen allanol.
Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Natasha Asghar AS, y byddai'n "warth cenedlaethol petai toriadau i gyrsiau hanfodol wrth i'r brifysgol barhau gyda'i chynlluniau am gampws yn Kazakhstan".
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor AS: "Mae'r newyddion yma i'w groesawu ond y gwir amdani yw na ddylem fod wedi cyrraedd y pwynt yma'n y lle cyntaf, yn enwedig pan wyddom fod Cymru'n wynebu 2,000 o swyddi nyrsio gwag ar hyn o bryd."