Gŵyl i ddathlu 'cyfraniad cwbl unigryw' Aled Lloyd Davies

Aled Lloyd Davies Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  • Cyhoeddwyd

Bydd yr Ŵyl Cerdd Dant yn cael ei chynnal yn Yr Wyddgrug ddydd Sadwrn.

Mae'r ŵyl eleni yn cael ei hadnabod fel ‘Gŵyl Aled’ i gofio am un o hoelion wyth yr ardal - y diweddar Aled Lloyd Davies.

Bu'n brifathro ar Ysgol Maes Garmon, gan gyfrannu'n helaeth i fyd cerddoriaeth a cherdd dant sir y Fflint a Chymru gyfan.

Mae ei wyres, Catherine, wedi bod yn rhan o'r paratoadau, ac yn dweud ei bod yn "fraint" gweld cymaint o bobl yn talu teyrnged i'w thaid.

Y tro diwethaf i'r ŵyl gael ei chynnal yn y dref oedd yn 1998, ac Aled Lloyd Davies oedd cadeirydd y pwyllgor gwaith.

Yn ôl John Eifion, trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant, mae'r niferoedd sy'n cystadlu ar eu huchaf mewn sawl cystadleuaeth eleni.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Hywel Wyn Edwards (canol, rhes flaen) gydag aelodau eraill o'r pwyllgor gwaith

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Hywel Wyn Edwards, fod yr ŵyl yn rhoi teyrnged “i waith person cwbl arbennig”.

“Oedden ni’n teimlo yn yr ardal yma doedden ni ddim wedi cael cyfle i dalu teyrnged i Aled," meddai.

Ychwanegodd mai'r bwriad oedd “tynnu sylw unwaith eto at yr holl weithgarwch oedd Aled yn ei wneud yn yr ardal yma, yn Sir y Fflint, ac ar draws Cymru”.

“Roedd Aled yn mynd ati i gyfieithu a sgwennu sioeau cerdd a’r ysgol i gyd yn cymryd rhan, ac fe gawsom ni berfformiadau di-ri.

“Lle bynnag mae o, dwi’n siŵr ei fod yn meddwl amdanom ni, a dwi’n gwybod y byddai wrth ei fodd fod 'na gymaint o weithgarwch yn Yr Wyddgrug heddiw, a bod 'na gymaint o bobl wedi rhoi eu henwau fewn i gystadlu yn yr ŵyl i gofio amdano.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Wyres Aled Lloyd Davies, Catherine sydd wedi dylunio logo yr ŵyl

Bu Hywel yn cydweithio tipyn ag Aled ar hyd y blynyddoedd, ac fe ddisgrifiodd ei gyfraniad fel un "cwbl unigryw" gan ychwanegu ei fod yn medru troi ei law at sawl peth.

“Mi oedd o bob amser yn rhoi 100%. Pe bai Aled yn dal i fod efo ni, fo fyddai Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, nid fi!

“Dwi’n siŵr fe fydda fo’n gwenu fel giât pe bai’n gwybod faint o bobl fydd yn dod i’r Wyddgrug i gystadlu ac i fod yn y gynulleidfa yn Ysgol Bryn Coch.”

Wedi misoedd o baratoi, dywedodd Mr Edwards ei fod yn edrych ymlaen at y diwrnod.

Erbyn hyn mae tri thelynor yn cyfeilio i gystadleuaeth y côr cerdd dant agored, cystadleuaeth ola’r dydd, ac eleni, mae gan y tri gyswllt go arbennig.

Dywedodd mai Ceinwen Roberts fu'n dysgu Dafydd Huw i ganu’r delyn, ac mai Dafydd Huw ddysgodd Dylan Cernyw - y tri yna fydd wrthi’n cyfeilio i'r gystadleuaeth honno, meddai Mr Roberts.

Ffynhonnell y llun, llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Catherine, wyres Aled Lloyd Davies, fod y ffaith i’r ŵyl dalu teyrnged i’w thaid yn “rhywbeth rili sbesial i ni fel teulu"

Mae wyres Aled Lloyd Davies wedi bod ynghlwm â’r ŵyl eleni, er ei bod bellach yn gweithio fel dylunydd graffeg yng Nghaerdydd.

Catherine Davies, sydd wedi bod wrthi yn dylunio’r logo ar gyfer yr ŵyl a’r tystysgrifau a fydd yn cael eu dosbarthu i’r enillwyr.

Dywedodd fod y ffaith i’r ŵyl dalu teyrnged i’w thaid yn “rhywbeth rili sbesial i ni fel teulu.

“Roedd o’n ddyn rili clên, roedd o wastad yn barod i helpu unrhyw un,” meddai wrth sôn am ei thaid.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catherine bellach yn gweithio fel dylunydd graffeg yng Nghaerdydd

Wrth sôn am y broses o greu logo newydd i'r ŵyl, dywedodd ei bod "eisiau cyfuno lot o bethau oedd yn cynrychioli’r Wyddgrug, ond hefyd yn cadw at y thema o’r Ŵyl Cerdd Dant.

“'Nes i ddefnyddio’r Fantell Aur, a’r afon Alun a chyfuno nhw. Nes i ddefnyddio nodau o’r gainc Bedw Gwynion, sef enw tŷ nain a taid, fel manylion ar y fantell.

“Dwi’n credu bod o’n fraint, a dwi’n hapus bod ei waith yn cael ei edmygu yn y ffordd yma.

“Dwi’n gwybod sa fo’n caru hwn."

Dywedodd Trefnydd yr Ŵyl Cerdd Dant, John Eifion, fod niferoedd y cystadlu ar eu huchaf mewn sawl cystadleuaeth ers sawl blwyddyn.

"Mae na gystadlu brwd iawn mewn nifer o gystadlaethau, mae 'na nifer mewn sawl cystadleuaeth na sydd wedi bod ers sawl blwyddyn.

"Mae'n codi calon dyn fod y cystadlu mor gryf ac yn enwedig ymhlith yr ieuenctid.”

Pynciau cysylltiedig