Murlun yn nodi cysylltiad Edward H gydag ardal Eisteddfod yr Urdd 2025

Mae'r murlun yn dangos clawr ail albwm y band Y Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw, gafodd ei rhyddhau yn 1975
- Cyhoeddwyd
Mae murlun newydd wedi ei greu i ddathlu cysylltiad y grŵp eiconig Edward H Dafis gydag ardal Eisteddfod yr Urdd eleni.
Ac mae'r gwaith wedi ei gwblhau mewn pryd i fedru cael ei weld gan rai o'r miloedd fydd yn ymweld ag ardal Port Talbot a'r maes eisteddfod ym Mharc Margam.
Yn ôl Cleif Harpwood, lleisydd Edward H, mae'n fraint cael murlun sy'n cydnabod y cysylltiad.

Edward H. Dafis (o'r chwith i'r dde) - Charli Britton, Hefin Elis, Dewi Pws, John Griffiths a Cleif Harpwood
Mae'r gwaith celf, gan yr arlunydd Steve 'Jenks' Jenkins, wedi ei beintio ar ochr caffi The Surge ym mhentref Taibach, ger Margam, ar yr A48.
Mae tri o aelodau Edward H gyda chysylltiad ag ardal Port Talbot. Roedd Hefin Elis, Cleif Harpwood, a'r diweddar John Griffiths yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Pontrhydyfen ar yr un adeg ac yn byw yn y dref a Dyffryn Afan.
Aeth y tri i wahanol ysgolion uwchradd - Hefin i Ysgol Gyfun Sandfields, John i Ysgol Glanafan a Cleif i Ysgol Rhydfelen, cyn dod nôl at ei gilydd flynyddoedd wedyn fel aelodau o Edward H.
Y murlun 'yn fraint'
Wrth ddiolch i bawb am ariannu a chefnogi'r cynllun, meddai Cleif Harpwood wrth BBC Cymru Fyw: "Bu'r dre'n rhan bwysig iawn o lencyndod y tri â'i dylanwad yn fawr. Braint felly yw cael eu cydnabod fel hyn.
"Dwi'n siŵr y byddai'r ddau aelod arall, y diweddar Dewi a Charli'n teimlo'r un fath, yn enwedig Charli gan mai ei waith yntau, cynllun clawr ail albwm y grŵp, Y Ffordd Eingl-Americanaidd Grêt o Fyw, sy'n cael ei gynrychioli yn y murlun."
Ychwanegodd bod lleoliad y llun yn arwyddocaol iddo hefyd gan fod ei dad wedi treulio rhan o'i blentyndod ym mhentre' Taibach.
Mae gan yr ardal hanes cyfoes difyr gan mai yma hefyd treuliodd Richard Burton a Syr Anthony Hopkins eu llencyndod. Mae'r murlun dafliad carreg o Stryd Caradog, lle bu Burton yn byw gyda'i chwaer a siop fara y teulu Hopkins. Mae'r pentref hefyd yn gartref i'r artist lleol Bert Evans.

Murlun i nodi cysylltiad yr ardal gyda'r actor byd enwog Richard Burton
Mae'r murlun yn un o ddegau sydd yn ardal Port Talbot a'r cyffiniau, gyda nifer wedi eu creu yn sgil yr un gafodd ei beintio yno gan yr arlunydd Banksy yn 2018.
Fe gafodd y syniad o greu gwaith celf i nodi'r cysylltiad gydag Edward H. Dafis ei drafod gan grŵp cymunedol Calon Afan, sy'n codi ymwybyddiaeth o dreftadaeth yr ardal, a Chymdeithas Hanes Rich, sy'n dathlu'r cysylltiad Richard Burton.
Yn sgil derbyn nawdd gan gymdeithas tai Pobl a dod o hyd i adeilad addas, fe gwblhawyd y gwaith mewn pryd i groesawu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, fydd yn cael ei chynnal rhwng 26-31 Mai ym Mharc Margam.
Dywedodd Eirwen Hopkins, o Calon Afan: "Mae'n hollbwysig i gael y murlun yma - tydi nifer o bobl Port Talbot ddim yn ymwybodol o'u treftadaeth gyfoes. Roedd tri allan o bum aelod Edward H yn dod o'r ardal ond tydi pobl ddim yn ymwybodol o hyn.
"Gobeithio bydd y ffaith bod Eisteddfod yr Urdd yn dod yma yn ychwanegu at hyn ac rydyn ni'n cefnogi unrhyw beth sy'n ychwanegu at ddathlu'r dreftadaeth."
Mae disgwyl i'r murlun gael ei dadorchuddio yn swyddogol ar ddydd Mawrth wythnos yr eisteddfod am 1630.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2024