Cyngor Ceredigion i ymgynghori ar gau pedair ysgol gynradd

Ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cau ysgolion yng Ngheredigion
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r ymgyrchwyr yn Aberaeron ddydd Mawrth wrth i gynghorwyr ystyried adroddiad ynghylch dyfodol pedair ysgol fach yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo dechrau proses cynnal ymgynghoriad statudol ar y posibilrwydd o gau pedair ysgol gynradd wledig.

Mae dyfodol pedair ysgol o dan ystyriaeth - ym mhentrefi'r Borth, Llangwyryfon, Llanfihangel-y-Creuddyn a Phonterwyd.

Bydd Ysgol Craig yr Wylfa, Borth, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Syr John Rhys a Llangwyryfon yn wynebu ymgynghoriad.

Niferoedd isel o ddisgyblion a dyletswydd i wneud arbedion sydd wrth wraidd y penderfyniadau "anodd", medd y cyngor, ond mae ymgyrchwyr yn teimlo bod yr ysgolion yn ganolog i'w cymunedau.

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn yw un o'r ysgolion sydd â'i dyfodol yn y fantol

Fe gafodd protest ei chynnal y tu allan i bencadlys y cyngor yn Aberaeron ddydd Mawrth cyn i aelodau'r cabinet drafod dyfodol y pedair ysgol gynradd.

Daeth dros 150 o gefnogwyr yr ysgolion i leisio'u hanfodlonrwydd cyn mynd i'r Siambr, lle dywedodd yr Aelod sy'n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Wyn Thomas, mai ffactorau megis "niferoedd, capasiti gwag, cyllideb yr ysgolion a chost y disgybl o ran addysg" oedd y prif heriau.

Gan ddechrau gydag Ysgol Craig yr Wylfa, pwysleisiodd nad penderfyniad i gau'r ysgol oedd pwrpas y cyfarfod.

"'Dw i wedi bod yn meddwl tynnu'r papur, ond bydden i'n osgoi'r cyfrifoldeb o drio ffeindio bod yr adran yn fwy cynaliadwy, bo ni'n gallu arbed arian, achos mae'n ofynnol bod pob adran yn edrych ar arbedion," meddai.

"Galla i fyth osgoi y cyfrifoldeb o beidio gwenud hynna. Dwi'n atebol i'r cyngor am chwilio [am] arbedion a mae'n ddyletswydd arna'i i fwrw 'mla'n â'r papurau hyn heddi, er mor anodd yw'r penderfyniadau."

Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd protest ei chynnal y tu allan i bencadlys y cyngor yn Aberaeron ddydd Mawrth

Yn ôl adroddiadau i'r cabinet, mae ffigyrau'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) yn awgrymu bod nifer y plant yn yr ysgolion wedi gostwng ers 2020:

  • o 30 i 19 yn Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn;

  • o 25 i 22 yn Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd;

  • o 42 i 29 yn Ysgol Craig yr Wylfa, Borth; ac

  • o 46 i 30 yn Ysgol Llangwyryfon.

Mae'r adroddiadau'n rhagweld cwymp pellach yn y dyfodol, ond mae ymgyrchwyr sy'n brwydro i gadw'r ysgolion ar agor yn dweud nad yw'r ystadegau'n adlewyrchiad cywir o'r sefyllfa.

Mewn dogfen ymateb fanwl, dywed ymgyrchwyr o Langwyryfon fod "nifer sylweddol o blant bach a babanod wedi eu geni yn nalgylch Llangwyryfon, a bod eu rhieni'n bwriadu eu hanfon i'r ysgol leol".

Maen nhw'n dweud hefyd eu bod wedi casglu tystiolaeth o'r "galw cynyddol fydd ar yr ysgol yn y dyfodol" gan ddadlau y bydd yna 36 o ddisgyblion erbyn 2028.

Mewn deiseb ar-lein, ysgrifennodd Ffion Fannell, sydd â mab yn yr ysgol yn Borth, fod Ysgol Craig yr Wylfa "wedi'i hintegreiddio'n llawn â'r gymuned leol".

Dywed bod "chwech o blant yn dechrau'n fuan, mae niferoedd y disgyblion ar gynnydd", a "gyda mwy o dai yn cael eu hadeiladu yn Borth… mae angen cadw'r ysgol ar agor".

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod niferoedd disgyblion yn debygol o godi yn Llangwyryfon

Mae adroddiadau'r cyngor hefyd yn dweud bod y gost fesul disgybl yn yr ysgolion yn uwch na'r cyfartaledd ar draws Ceredigion - mwy na £3,300 yn uwch yn achos Ysgol Craig yr Wylfa.

Dywed y cyngor hefyd bod angen gwerth £77,500 o waith cynnal a chadw yn Ysgol Syr John Rhys.

Pe bai'r ysgolion yn cau, byddai disgyblion o Langwyryfon a Llanfihangel-y-Creuddyn yn symud i Ysgol Llanilar - pellter o tua 5.5 milltir.

Byddai plant o'r Borth yn teithio tua phum milltir i Dal-y-bont, a disgyblion o Bonterwyd yn symud i'r ysgol ym Mhontarfynach tua pedair milltir i ffwrdd.

'Cymraeg yw iaith iard yr ysgol'

Yn ôl yr adroddiadau, byddai cau'r ysgolion yn golygu y byddai disgyblion yn "debygol... o gael mynediad at amrywiaeth ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol" ac y byddai "arbedion refeniw o gau yn cyfrannu at hyfywedd ariannol parhaus seilwaith ysgolion yn gyffredinol".

Mewn ymateb i hynny, dywed ymgyrchwyr o Langwyryfon bod y cyngor wedi methu "ag ystyried sgil effeithiau negyddol cynyddu pellter teithio i'r ysgol ar gyfer plant".

Mae cefnogwyr Ysgol Llangwyryfon hefyd yn dweud y byddai cau'r ysgol yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg, gan ddadlau: "Cymraeg yw iaith iard yr ysgol yn Llangwyryfon.

"Saesneg yw iaith iard yr ysgol yn Llanilar, a bydd y gwahaniaeth sylfaenol hyn yn natur y ddarpariaeth rhwng y ddwy ysgol yn cael sgil-effeithiau pellgyrhaeddol ar ddyfodol y plant, eu teuluoedd a'r gymuned lle maen nhw'n byw."

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd

Er gwaetha'r pryderon, fe wnaeth cabinet y cyngor gefnogi'r cynigion i gychwyn ymgynghoriad stadudol i gau pedair ysgol gynradd, sef Ysgol Craig yr Wylfa, Llanfihangel-y-Creuddyn, Llangwyrfon ac Ysgol Syr John Rhys ddydd Mawrth.

Fe fydd yr ymgynghori ffurfiol yn para chwech wythnos ac fe fydd y cyngor llawn yn pleidleisio ar y mater maes o law, a allai arwain at gau'r ysgolion ym mis Awst 2025.

'Does dim troi'n ôl'

Yn ddagreuol, dywedodd Barry Powell - llywodraethwr a rhiant i ddisgybl yn Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn: "Mae'r effaith yn mynd i fod yn anferthol - does dim troi'n ôl.

"Mae ymgynghoriad yn ffordd o roi pwyntiau cywir ymlaen, ond ni'n teimlo heddiw fod 'na stamp ar y penderfynaid yn barod."

Ategodd Lizzie Jones, llywodraethwr a rhiant i ddisgybl yn Ysgol Craig yr Wylfa: "'Dan ni'n siomedig iawn ond dan ni'n mynd i achub yr ysgol."

Bu'n rhaid atal y cyfarfod am bum munud wedi i Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith (CyIG) dorri ar draws y drafodaeth cyn gadael y siambr.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod bwriad i gyflwyno cwyn i'r Gweinidog Addysg.

Mae'r Gymdeithas yn honni nad yw'r Cyngor yn cyflawni eu dyletswyddau addysgol gan dorri'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a bod y "fethodoleg gyfan" y tu ôl i'r cynigion i gau'r ysgolion yn anghywir.

Dywed CyIG fod y cod yn gofyn am ystyriaeth fanwl o bob opsiwn heblaw cau, gan ychwanegu nad yw Cyngor Ceredigion wedi ystyried opsiynau fel trosglwyddo'r adeiladau i ymddiriedolaethau cymunedol, neu sefydlu ffederasiwn neu ysgol aml-safle.

Pynciau cysylltiedig