Ateb y Galw: Alun Ffred
- Cyhoeddwyd
![Alun Ffred yn seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B55D/production/_130792464_8835bde1-764c-4034-acdd-603835a446ff.jpg)
Alun Ffred yn seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
Alun Ffred, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd, cyn Aelod o'r Cynulliad a chyfarwyddwr cyfresi poblogaidd fel C'mon Midffild sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma.
![Linebreak](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/464/cpsprodpb/12D53/production/_130793177_mediaitem77300236.jpg)
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae gen i ryw atgof ohonof yn rhedeg ar y stryd - Bryn Avenue - y tu allan i'n cartref ym Mrynaman yn hanner noeth a chymydog i ni, John Bevan, yn pwyso allan o gab ei lori lo anferth yn gweiddi arnaf i fynd nôl i'r tŷ at fy mam. Anodd gwybod ai hunllef neu atgof ydi o.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Traeth Penllech, Pen Llŷn. Am ein bod wedi cael y lle i ni'n hunain un prynhawn cofiadwy pan oedd y teulu'n ifanc yn y dŵr ac yn syllu i byllau yn y creigiau a chwarae criced.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Cwestiwn peryglus. Felly mi af am brynhawn. Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd 1972 yn nhafarn y General Picton ger y Maes. Yn ddamweiniol fwriadol daeth criw at ei gilydd ac yn eu plith aelodau o grŵp Y Dyniadon Hirfelyn Tesog, cerddorion a lleiswyr da, a cafwyd prynhawn o ganu hwyliog ac amrywiol - nid emynau treuliedig.
![Y digrifwr Eirwyn Pontshan ar y poster enwog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/369/cpsprodpb/1037D/production/_130792466_87cee1b1-c6b2-412b-ac34-1466ed54107f.jpg)
Y digrifwr Eirwyn Pontshan ar y poster enwog
Ac fel yr oedd y lleisiau a'r nerth yn pallu pwy gerddodd i mewn ond y cymeriad ffraeth, Eirwyn Pontshan a'i gap gwyn. Roedd ganddo gynulleidfa berffaith ymlacedig ac fe aeth trwy ei berfformans o straeon a phenillion hurt a chrafog i gyfeiliant môr o chwerthin. Prynhawn i'w gofio a'i drysori.
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Dibynadwy. Annibynnol. Blêr.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Pan ganodd fy ffôn symudol yn ystod seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen ym Moduan. Dywedodd cyfaill wrtha i y dylwn fod wedi ei ateb a dweud "Gwranda, dw i'n brysur. Mi ffonia i di'n ôl." Mi fyddai'r hen Ddaniel wedi bod wrth ei fodd.
Sylwoch chi ar ffôn Alun Ffred yn canu yn seremoni'r Daniel Owen?
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gormod ohonyn nhw. Ond dw i'n cofio chwarae mewn gêm griced yn un o Eisteddfodau Cenedlaethol y Bala ac roedd y Dr Derec Llwyd Morgan wedi cael gwahoddiad i chwarae.
Rŵan, mae DLlM yn gricedwr go iawn ac mi ddaeth yn ei wisg wen a cherdded yn dalog i'r llain yn barod am fatiad go solet. Ond fi oedd yr ochr arall ac roedd gen i theori y gallech redeg unrhyw dro os oeddech wedi taro pêl gyda'r bat am fod y maeswyr braidd yn araf a musgrell. A dyna wnes i er nad oedd y bêl prin wedi gadael y sgwâr. Daeth hyn fel sioc i Derec a cafodd ei redeg allan heb wynebu pelen. Doedd o ddim yn ddyn hapus iawn a pwy all ei feio.
Felly bob tro dw i'n ei weld dw i'n cywilyddio ac yn dychmygu bod y cof am y Bala yn dal wedi ei serio ar ei gof.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Unrhyw angladd.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Oes, diolch. Mwy na digon. Un diniwed. Roedd gen i syniad nad oedd unrhyw emosiwn yn ymddangos ar fy wyneb mewn digwyddiadau cyhoeddus. Mod i fel Mona Lisa, yn inscrutable. Ond mae mhlant i yn dweud mod i'n llawn stumie sy'n embaras mawr i mi. Rhy hwyr, bellach.
![Alwyn Sion, Dilwyn Morgan, Irwyn Jones, Elfyn Llwyd ac Alun Ffred yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Siapan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/673D/production/_130792462_f39ba8b1-218f-44ad-a61a-0d15f727f240.jpg)
Alwyn Sion, Dilwyn Morgan, Irwyn Jones, Elfyn Llwyd ac Alun Ffred yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Siapan
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?
Nofel Joseph Heller, Catch-22. Am ei fod yn ddoniol, yn amharchus, yn wallgo ac yn dychanu ffolineb rhyfel i'r eithaf. Ar ôl darllen Catch-22 allwch chi ddim derbyn unrhyw Awdurdod ormod o ddifrif.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod a pham?
Fy hen gyfaill Ioan Roberts, y newyddiadurwr, y cynhyrchydd a'r deudwr straeon di ail.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod
Enillais y wobr gyntaf am siwtni betys yn Sioe Dyffryn Nantlle un flwyddyn gan ddefnyddio betys a nionod o'm gardd.
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Mynd am dro i ben Graig Goch ar Grib Nantlle i gael golwg ar y wlad gyfareddol ryden ni'n byw ynddi.
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Llun o mam a nhad (ar y dde) gyda'u ffrindiau, Ifor a Winnie Owen o Lanuwchllyn. Pobl ddylanwadol yn fy mywyd i a bywydau llawer o rai eraill.
![Ifor a Winnie Owen (chwith) gyda rhieni Alun Ffred, Elizabeth a Gerallt Jones (dde) ar draeth Llangrannog](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/191D/production/_130792460_9712c075-a932-4ca7-9ce4-5237db0bfb88.jpg)
Ifor a Winnie Owen (chwith) gyda rhieni Alun Ffred, Elizabeth a Gerallt Jones (dde) ar draeth Llangrannog
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Dewi Pws, er mwyn gweld beth sydd yn mynd mlaen yn y pen yna.
Hefyd o ddiddordeb: