Y delynores frenhinol sydd am 'roi ei stamp personol' ar y rôl

maredFfynhonnell y llun, Cat Arwel
  • Cyhoeddwyd

Yn y flwyddyn 2000 fe adfywiodd y Tywysog Charles, fel yr oedd ar y pryd, yr arferiad o gael telynor neu delynores Gymreig i'r teulu Brenhinol.

Cyn i hyn gael ei ailgyflwyno y telynor a chyfansoddwr John Thomas oedd y diwethaf i fod yn y rôl hon, a hynny i'r Frenhines Victoria yn 1871.

Ers 2000 mae saith menyw ifanc o Gymru wedi bod yn delynores frenhinol - yn gyntaf i'r Tywysog Charles, a bellach i'r Brenin Charles.

Y gyntaf oedd Catrin Finch (yn y rôl 2000-2004), ac fe aeth hi ymlaen i gael gyrfa hynod lwyddiannus yn rhyngwladol. Y diweddara' yn y rôl yw Mared Emyr Pugh-Evans o Borth yng Ngheredigion, a siaradodd am ei phrofiad gyda Cymru Fyw.

Teulu cerddorol

"Ddechreuais gael gwersi pan o'n i’n 6 oed," meddai Mared.

"Doeddwn i heb ddysgu sut i ddarllen cerddoriaeth, felly fe wnaeth fy athrawes, Eleri Turner, fy nysgu i chwarae ar y glust - fel Poli Parot - byddai Eleri yn canu neu chwarae brawddeg ac wedyn mi fyddwn i’n ei chopïo.

"Gan fy mod wedi fy ngeni i deulu cerddorol (Nain a Mam-gu yn chwarae’r organ yn y capel), mam a dad yn raddedigion cerddoriaeth o Brifysgol Aberystwyth a brawd mawr wrth ei fodd yn canu, roedd popeth cerddorol yn rhan annatod o fywyd wrth dyfu i fyny.

"Canu yn yr Ysgol Feithrin, cystadlu yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi'r Ysgol Gynradd, ac wedi ymaelodi a’r Urdd a cystadlu’n flynyddol fel unawdydd, gyda phartïon a chorau. Doedd hyn ddim yn 'orfodol' ond prin iawn oedd unrhyw un fyddai’n gwrthod bod yn rhan o’r hwyl."

Ffynhonnell y llun, Cat Arwel

Canolbwyntio ar y delyn

Pan oedd Mared yn ei harddegau fe sylweddolodd fod posib iddi wneud bywoliaeth gyda'r delyn.

"Pan oeddwn i’n 14 ac yn dewis pynciau TGAU fe wnes i’r penderfyniad mai dyma beth oeddwn i am ei wneud fel gyrfa ac felly dyna oedd fy ffocws o hynny ymlaen.

"A gan imi ganolbwyntio ar gystadlu mewn cystadlaethau a gwyliau i’r delyn yng Nghymru, trwy’r DU a thramor a chael hwyl arni – roeddwn yn gwybod ei bod yn bosibl i finnau ddilyn llwybr proffesiynol a chreu gyrfa o fod yn gerddor."

Astudiodd Mared yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd rhwng 2016 a 2020, gan ennill nifer o wobrau a ysgoloriaethau.

Yna daeth cyfnod yn Yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, cyn astudio yn yr Open Academy yno am flwyddyn.

Wedi cyfnod pellach fel telynores broffesiynol yn Llundain cafodd ei phenodi fel Telynores y Brenin.

"Rôl Telynores y Brenin yw perfformio mewn digwyddiadau ffurfiol gaiff eu trefnu gan Balas Buckingham. Bwriad pennaf y swydd yw cyflwyno’r delyn, cerddoriaeth Cymru a’n diwylliant i gynulleidfaoedd eang ac amrywiol."

Ysbrydoliaeth y telynorion blaenorol

"Roeddwn i’n fach iawn pan ddaeth Catrin Finch i’r swydd yn y lle cyntaf, ond dwi’n cofio mynd i un o’i chyngherddau yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth – rhywbeth dwi’n cofio hyd heddiw!

"Dwi’n credu bod pob telynores frenhinol ers hynny wedi llwyddo i roi ei stamp personol ar y swydd – a dwi’n gobeithio y gallaf finnau hefyd."

Ffynhonnell y llun, Cat Arwel

Gan edrych i'r dyfodol mae Mared yn dweud bod yna nodau penodol mae hi'n gobeithio ei gyflawni.

"Tynnu sylw i’r delyn, yr holl wahanol gerddoriaeth allwch chi ei berfformio â'r delyn, ei hyblygrwydd a’i lle mewn cerddoriaeth gyfoes.

"Tynnu sylw at gerddoriaeth o Gymru, o weithiau John Thomas i weithiau diweddarach gan fenywod o Gymru, fel Mared Emlyn a Rhian Samuel.

"Ond yn fwy na dim, perfformio – cynnal cyngherddau a gweithio yn y gymuned er mwyn i bawb gael cyfle i greu a mwynhau cerddoriaeth ym mha bynnag ffordd."

A beth am yr hir-dymor?

"I fod yn delynores broffesiynol brysur!

"Y term diweddaraf ydi - cerddor portffolio. Sef, gwneud tipyn o bopeth - gwaith unawdol, siambr, cerddorfaol wedi ei gyfuno a gwaith ymgysylltu/cymunedol ar draws y DU gobeithio.

"Dwi’n edrych ymlaen at weithio ar raglen o brosiectau ble y gallaf dreulio mwy o amser yn chwarae adre yng Nghymru ac efallai ehangu Music in Hospices i gwmpasu ardal ehangach."

Pynciau Cysylltiedig