Y Brenin a'r Frenhines yn ymweld â Chymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r Brenin Charles a'r Frenhines Camilla yn ymweld â Chymru ddydd Iau i nodi 25 mlynedd ers sefydlu Senedd Cymru.
Dyma ymweliad cyntaf y Brenin â'r Senedd ers ei daith o amgylch y DU yn dilyn ei esgyniad.
Derbyniodd y pâr brenhinol osgordd gan y Cymry Brenhinol cyn iddyn nhw gael eu cyfarch gan blant ysgol gynradd o bob rhan o Gymru, a chwrdd â Phrif Weinidog Cymru Vaughan Gething ac arweinwyr pleidiau a seneddol eraill yng Nghymru.
Dywedodd y Llywydd Elin Jones: "Croeso arbennig i Ei Fawrhydi a’i Mawrhydi sydd wedi ymuno â ni i nodi sawl carreg filltir yn hanes y lle hwn dros y blynyddoedd.
"Mae’n arbennig o braf heddi i’ch gweld mewn iechyd da.
"Mae ein Senedd yn dra gwahanol i’r hyn yr oedd hi pan sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru nôl ym 1999."
Ychwanegodd y Llywydd: "Ymgyrchwyd yn hir gan nifer am y Senedd hon. Mae eu breuddwydion nhw a disgwyliadau pobol Cymru heddiw yn pwyso’n drwm ar ein ysgwyddau, a’n hysbrydoli bob dydd i weithio i wella bywydau y bobol a dyfodol ein cenedl."
"Braint yw rhannu eich cariad at y wlad hon," meddai'r Brenin yn Gymraeg yn Siambr y Senedd mewn araith i nodi pen-blwydd y Senedd yn 25 oed.
"Mae'n dda i weld bod y Senedd yn defnyddio'r iaith Gymraeg gymaint," meddai.
Gan droi i'r Saesneg, meddai, “Mae yna lawer o wahanol ffyrdd i garu a gwasanaethu eich gwlad - ac am wlad sydd gennych i'w gwasanaethu.
"Am glytwaith unigryw o leoedd, tirweddau a diwylliant sy'n cael eu hymddiried i'ch gofal."
Ychwanegodd fod y Senedd wedi rhoi "llais unigryw" i Gymru, wedi'i gyflwyno gydag "eglurder a phwrpas".
'Calon democratiaeth Cymru'
Siaradodd y Prif Weinidog Vaughan Gething am yr effaith y mae datganoli wedi’i chael ar y wlad a’r DU.
“Mae’n hanfodol i iechyd y Deyrnas Unedig a Chymru fod ein sefydliadau democrataidd yn ffynnu,” meddai.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies mai'r "Senedd hon yw lle mae calon democratiaeth Cymru yn curo."
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, "Ymhen dwy flynedd fe fydd hon yn dod yn Senedd gryfach fyth a hyd yn oed yn decach."
Clywodd y Brenin a’r Frenhines berfformiad gan Mared Pugh-Evans, telynores newydd y Brenin, yn ei pherfformiad cyntaf yn y swydd.
Cafwyd perfformiad hefyd gan gôr o ysgol gynradd leol, Ysgol Treganna, saf Safwn yn y Bwlch.
Mae'r Brenin a’r Frenhines hefyd wedi cwrdd â phobl o’r gymuned sydd wedi cyfrannu at waith y Senedd, gan gynnwys Neil Evans, y deisebydd a ddechreuodd ymgyrch lwyddiannus ar gyfer codi tâl am fagiau siopa plastig yn 2007.
Ymhlith y gwesteion hefyd yr oedd:
Sarra Ibrahim, sydd wedi rhoi tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd ar amryw faterion yn ymwneud â gofal plant, trais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol;
yr ymgyrchydd canser Claire O'Shea, a rannodd ei stori i fynnu gwell triniaethau a chanlyniadau canser gynaecolegol yng Nghymru;
ac Angel Ezeadum, cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, a ymgyrchodd yn llwyddiannus i wneud addysgu Hanes Pobl Dduon yn orfodol yn ysgolion Cymru.
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd16 Medi 2022
Cafodd tusw o flodau ei gyflwyno i’r Frenhines gan Celyn Matthews-Williams, sy’n 10 oed ac yn dod o Lanelli, un o Bencampwyr Cymunedol Covid y Senedd. Yn ystod y pandemig, cododd arian ar gyfer banciau bwyd ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Mae'r Brenin a’r Frenhines hefyd wedi cwrdd ag aelodau o’r gymuned ac aelodau o staff y Senedd sydd wedi gweithio yno ers 25 mlynedd.
Mae’r ymweliad yn cyd-daro â phasio cyfraith newydd i Gymru a fydd yn cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau ac yn cyflwyno system bleidleisio newydd yn etholiad 2026.
Yn ei ymweliad diwethaf â’r Senedd, rhoddodd y Brenin – Tywysog Cymru gynt am 64 mlynedd – ei anerchiad cyntaf yn Gymraeg fel Brenin.
Ynddo, dywedodd fod gan Gymru "le arbennig" yng nghalon ei fam, Elizabeth II.