Defnydd Taylor Swift o'r Gymraeg yn 'meddwl lot'

Disgrifiad,

Yr ymateb i gyngerdd Taylor Swift

  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth un o sêr mwyaf y byd cerddorol, Taylor Swift, ganu yn Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd nos Fawrth.

Gyda thua 68,000 o bobl yn y dorf, roedd nifer o'i chefnogwyr yn falch iawn o ddefnydd y gantores o'r Gymraeg.

Wrth i'r Eras Tour ddod i Gymru, fe ddechreuodd yn gantores ei chyngerdd drwy ddweud wrth y dorf: "Shwmae!"

Wedi'r gyngerdd orffen, dywedodd un o'i chefnogwyr: "Roedd hi'n dweud cymaint o bethau yn Gymraeg fel 'Shwmae', '1234, 'Ych a Fi', o ni jyst yn sgrechain pob tro roedd hi'n siarad Cymraeg, roedd e jyst yn ffab".

Dywedodd un arall ei bod yn "rili licio bod hi wedi dod â'r Gymraeg i mewn, naeth hi ddeud 'diolch o galon', '123', jyst pethau bach ond meddwl lot."

Dyma'r unig noson yr oedd Taylor Swift yn perfformio yng Nghaerdydd fel rhan o'r Eras Tour.

Pynciau cysylltiedig