Gwylnos ym Mangor i ddangos cefnogaeth i bobl Gaza

- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth tua 50 o bobl fynychu gwylnos tu allan i Ysbyty Gwynedd ym Mangor brynhawn Sadwrn.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan grŵp Heddwch a Chyfiawnder Bangor ac Ynys Môn er mwyn dangos cefnogaeth i bobl Gaza.
Fe gafodd y lleoliad tu allan i'r ysbyty ei ddewis er mwyn amlygu'r trafferthion sy'n wynebu staff a chleifion iechyd yn yr ardal.
Mae cadoediad dros dro yn yr ardal dros y penwythnos, wrth i bobl a gymrwyd yn wystlon gan Hamas, a Phalesteiniaid oedd eu cadw mewn carchardai yn Israel, gael eu rhyddhau.

Roedd gorymdaith a rali yng Nghaerdydd hefyd ddydd Sadwrn yn galw am gadoediad parhaol yn y Dwyrain Canol.
Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad yn Sgwâr Canolog y brifddinas oedd Charlotte Church, a Dr Ahmed Sabra - sydd wedi dychwelyd i Gymru yn ddiweddar ar ôl bod yn sownd yn Gaza.

Cafodd gorymdaith a rali eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn