'Dim cyfle' i bob person ifanc ddysgu am wleidyddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am "arfogi" pobl ifanc gyda rhagor o addysg am wleidyddiaeth a democratiaeth cyn iddyn nhw gyrraedd oed pleidleisio.
Mae Efa, Miri a Carys yn astudio Gwleidyddiaeth Safon Uwch yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth.
Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw gael astudio Gwleidyddiaeth fel pwnc yn yr ysgol ac mae hynny'n rhywbeth maen nhw am weld yn newid.
Yn ôl Miri: "'Dan ni’n cael ein gorfodi i ddysgu am unrhyw fath o atomau a cemegion does neb efo diddordeb ynddo.
"Dwi’n 'nabod digon o bobl ifanc sydd efo llawer o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth sydd just erioed 'di cael y cyfle i addysgu amdano fe."
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd5 Mehefin
Cyn i Efa ddechrau ei astudio fel pwnc doedd ganddi "ddim llawer o syniad amdano gwleidyddiaeth oni bai am beth ni'n trafod adre".
Ychwanegodd: "Os 'dan i'm yn deall gwleidyddiaeth wedyn bydd dim gwleidyddion yn y dyfodol sy'n gwneud penderfyniadau call."
Mae Carys, a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf yn yr etholiad cyffredinol, yn dweud bod astudio'r pwnc wedi ei gwneud "yn fwy sicr o bwy o'n i am bleidleisio am".
"Ni’n astudio ideoleg gwleidyddol yn Blwyddyn 13 a fi’n meddwl bod hwnna wedi gwneud i fi ddeall yn well polisïau pleidiau a be' maen nhw'n sôn am."
Yn ôl data o’r etholiad cyffredinol yn 2019, roedd 4.3 miliwn o bobl ifanc rhwng 18 a 24 mlwydd oed heb gofrestru i bleidleisio.
Mae Plaid Cymru eisiau gweld pob disgybl, ym mhob ysgol a choleg yng Nghymru, yn cael addysg gyson am wleidyddiaeth ac mae’r Senedd eisoes wedi pleidleisio o blaid cynnig Sioned Williams AS am fesur Addysg Wleidyddol.
Nod y mesur, medd Ms Williams, yw gwella’r cwricwlwm fel ei fod yn "darparu’n benodol ar gyfer addysg wleidyddol".
"Mae rhoi’r gallu i rywun i bleidleisio heb eu harfogi nhw gyda’r wybodaeth sydd angen arnyn nhw i 'neud y dewis, i ddeall yr opsiynau, i ddeall pwysigrwydd y bleidlais yna, i ddeall beth yn union maen nhw’n pleidleisio [boed mewn] etholiad cyngor lleol, y Senedd, neu ar gyfer San Steffan - yn hollbwysig," dywedodd.
"Dwi’n meddwl bydd hyn yn cyfrannu, dwi’n gobeithio, at sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn cymryd diddordeb ac yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd."
Ond yn ôl yr AS Ceidwadol Tom Giffard, wnaeth bleidleisio yn erbyn y cynnig, nid lle athrawon yw hi i addysgu disgyblion am wleidyddiaeth.
“Ma'r rhan fwyaf o athrawon dwi wedi siarad â yn glir bod nhw ddim yn mo'yn dod â gwleidyddiaeth mewn i’r dosbarth," dywedodd.
“Os ma'n nhw’n dweud rhywbeth i ddechre dadl mewn gwers a ma' hwnna yn cael ei ddeall gan rhywun mewn ffordd wahanol, pa sefyllfa ma' hwnna mynd i roi athrawon mewn? Ma' hwnna yn rhywbeth dwi’n poeni amdano."
Mewn dadl yn y Senedd, dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru Lynne Neagle ei bod eisiau gweld holl blant a phobl ifanc Cymru yn deall ac yn arfer "eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd".
Ond, gyda’r Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu eisoes yn "sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael addysg wleidyddol", dywedodd "nid ydym yn credu bod angen mesur pellach".
I Mali, sy’n aelod ifanc o’r Blaid Lafur mae gwneud gwneud dysgu am wleidyddiaeth yn orfodol ym mhob ysgol yn hanfodol.
"Ma' lot o bobl ifanc yn gweld stwff ar wleidyddiaeth ar TikTok a phethe felly, ond dwi'n credu bod hyn ddim y ffordd orau i ddysgu am wleidyddiaeth.
"Dylse ysgolion ga'l eu defnyddio er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn ca'l gwybodaeth ddibynadwy sydd yn gywir, er mwyn 'neud yn siŵr bod pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn bron."