Etholiad cyffredinol: Beth? Pam? Pryd?
- Cyhoeddwyd
Mae Rishi Sunak wedi cyhoeddi y bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024.
Ond beth mae hyn yn ei olygu a beth sydd i'w ddisgwyl yr wythnosau nesaf?
Sut mae'r Prif Weinidog yn galw etholiad?
Mae'r Prif Weinidog wedi gorfod gofyn yn ffurfiol i'r Brenin "ddiddymu'r Senedd" - y term swyddogol am gau'r Senedd cyn etholiad.
Fel arfer, mae'r bleidlais yn digwydd 25 diwrnod yn ddiweddarach.
Adeg diddymu'r Senedd, mae Aelodau Seneddol yn colli eu statws, ac yn gorfod ymgyrchu dros gael eu hail-ethol os ydyn nhw am barhau.
Mae rhai Aelodau Seneddol yn dewis rhoi'r gorau iddi.
Mae'r llywodraeth hefyd yn dechrau cyfnod cyn-etholiadol - a oedd yn cael ei alw'n "purdah" - sy'n cyfyngu ar weithgarwch gweinidogol ac adrannol yn ystod yr ymgyrch.
Beth sy'n digwydd mewn etholiad cyffredinol?
Mae'r DU wedi cael ei rhannu'n 650 o ardaloedd, sy'n cael eu galw'n etholaethau.
Mae pob un yn ethol Aelod Seneddol i gynrychioli ei thrigolion yn Nhŷ'r Cyffredin yn Llundain.
Ar ddiwrnod yr etholiad, mae pleidleiswyr cofrestredig ym mhob etholaeth yn pleidleisio dros ymgeisydd o'i dewis nhw yn eu gorsaf bleidleisio leol.
Mae rhai pobl yn pleidleisio drwy'r post ymlaen llaw.
Mae'r rhan fwyaf o ymgeiswyr yn cynrychioli plaid wleidyddol benodol, ond mae rhai yn sefyll fel ymgeiswyr annibynnol.
Mewn etholiad cyffredinol, mae gan bob person un bleidlais.
O dan y system "cyntaf i'r felin", yr ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n dod yn Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal honno.
Ar ôl i'r pleidleisiau gael eu cyfri, mae'r Brenin yn gofyn i arweinydd y blaid sydd â'r nifer fwyaf o Aelodau Seneddol ddod yn brif weinidog ac i ffurfio llywodraeth.
Arweinydd y blaid sydd â'r ail nifer uchaf o Aelodau Seneddol sy'n dod yn arweinydd yr wrthblaid.
Os nad oes unrhyw blaid â mwyafrif o Aelodau Seneddol yn y pen draw - sy'n golygu na all basio deddfwriaeth gyda dim ond ei Haelodau Seneddol ei hun - mae'r canlyniad yn cael ei galw'n Senedd grog.
Ar y pwynt yma, efallai y bydd y blaid fwyaf yn ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phlaid arall.
O dan y trefniant yma, mae Aelodau Seneddol o'r ddwy blaid yn gwasanaethu fel gweinidogion y llywodraeth.
Fel arall, gall ffurfio llywodraeth leiafrifol, gan lenwi'r holl swyddi gweinidogol gyda'i Haelodau Seneddol ei hun, ond bydd yn dibynnu ar bleidleisiau gan bleidiau eraill i basio unrhyw ddeddfau.
Beth sy'n wahanol eleni?
Yn yr Etholiad Cyffredinol yma, bydd Cymru yn anfon 32 Aelod i San Steffan, yn hytrach na'r 40 sydd wedi bod ym mhob etholiad ers 1997.
Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau mawr i rai ardaloedd o Gymru, yn enwedig efallai y rhannau mwyaf gwledig.
Bydd rhai etholaethau yn uno, ac eraill yn diflannu'n llwyr.
Pwy sy'n gallu pleidleisio?
Unrhyw un sydd ar y gofrestr etholiadol, sy'n 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod y bleidlais, cyn belled â'u bod:
yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad neu'n ddinesydd Gweriniaeth Iwerddon gyda chyfeiriad yn y DU;
gall holl ddinasyddion y DU sy'n byw dramor gofrestru i bleidleisio yn yr etholaeth lle roedden nhw'n ar y gofrestr etholiadol;
heb eu heithrio'n gyfreithiol rhag pleidleisio.
Gallwch gofrestru i bleidleisio unrhyw bryd os ydych yn 16 oed neu'n hŷn - neu'n 14 oed neu'n hŷn yn Yr Alban.
Beth oedd canlyniadau'r etholiad diwethaf?
Mae'n werth cadw mewn cof beth oedd y tirlun gwleidyddol yng Nghymru ar ôl yr etholiad diwethaf yn 2019, gyda thair plaid yn rhannu'r 40 sedd.
Llafur - 22 Sedd
632,035 o bleidleisiau (40.9%)
Ceidwadwyr - 14 Sedd
557,234 o bleidleisiau (36.1%)
Plaid Cymru - 4 Sedd
153,265 o bleidleisiau (9.9%)
Democratiaid Rhyddfrydol - 0 Sedd
92,171 o bleidleisiau (6.0%)
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai