Datganoli: Pa faterion sy'n cael eu penderfynu yng Nghymru?

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Senedd Cymru gyfrifoldeb dros nifer o feysydd fel iechyd ac addysg

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na etholiad ar y gorwel, ond yn sgil datganoli, ni fydd yr enillydd yn cael gwneud penderfyniadau mewn sawl maes yma yng Nghymru.

Bydd yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf yn penderfynu pwy fydd yn ffurfio Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn San Steffan.

Ond mae gallu Llywodraeth y DU i basio deddfau ar draws y DU wedi'i gyfyngu gan ddatganoli.

Mae nifer o swyddogaethau wedi eu rhoi i Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd â'u cyrff etholedig eu hunain.

Yng Nghymru, mae gan Senedd Cymru gyfrifoldeb dros nifer o faterion pwysig.

Nid oes gan bob un o'r cyrff yr un lefel o awdurdod.

Sut y digwyddodd hyn?

Mae gwahaniaethau pwysig wedi bod yn y ffordd mae gwahanol rannau o'r DU yn gweithio ers peth amser - er enghraifft, y systemau cyfreithiol ac addysgiadol gwahanol yn Yr Alban.

Ond yn 1997, gwelwyd cyfnod newydd o ddatganoli - trosglwyddo rhai pwerau canolog i'r rhanbarthau.

Yn y flwyddyn honno, cafwyd refferendwm yng Nghymru a'r Alban, gydag Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn cynnal refferendwm yn 1998.

Yn dilyn hyn cafodd Senedd Yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon eu creu.

Pa bwerau sydd wedi eu datganoli i Gymru?

  • Amaethyddiaeth, coedwigoedd a physgota

  • Addysg

  • Amgylchedd

  • Iechyd a lles cymdeithasol

  • Tai

  • Llywodraeth leol

  • Gwasanaethau tân ac achub

  • Datblygu economaidd

  • Priffyrdd a thrafnidiaeth

  • Rheolaeth dros y dreth stamp a threth tirlenwi

  • Yr iaith Gymraeg

Pa bwerau sydd heb eu datganoli i Gymru?

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o bwerau allweddol wedi eu cadw yn San Steffan

Mae Llywodraeth y DU, wedi'i arwain gan y Prif Weinidog yn Downing Street, yn gyfrifol am bolisi cenedlaethol ar bob mater sydd heb ei ddatganoli - sy'n cael eu hadnabod fel "pwerau wedi eu cadw".

Y prif bwerau sydd wedi eu cadw yn San Steffan yw:

  • Y cyfansoddiad

  • Amddiffyn a diogelwch cenedlaethol

  • Polisi tramor

  • Mewnfudo a dinasyddiaeth

  • Ynni

  • Nawdd cymdeithasol (wedi'i ddatganoli yng Ngogledd Iwerddon)

  • Pensiynau

  • Y mwyafrif o drethi (ond nid yn Yr Alban)

Beth sy'n digwydd ym Mae Caerdydd?

Mae'r Senedd ym Mae Caerdydd yn cynnwys 60 o aelodau. Llywodraeth Cymru yw'r adran weithredol.

Ers 2011 roedd gan y Cynulliad (neu'r Senedd erbyn hyn) bwerau deddfu cynradd dros faterion wedi eu datganoli, ac yn 2014 derbyniodd bwerau i godi trethi, gan gynnwys y dreth stamp a threth tirlenwi.

Wedi Mesur Cymru 2017, roedd datganoli yng Nghymru ar lefel debycach i'r Alban.

Roedd y ddeddfwriaeth yn rhoi pwerau ychwanegol dros drafnidiaeth, ynni a threfniadau etholiadol, gan gynnwys newid yr oedran pleidleisio a nifer yr ASau.

Ers Ebrill 2019 mae gan Fae Caerdydd hefyd y gallu i osod lefelau treth incwm eu hunain - pŵer sydd heb ei ddefnyddio eto.

Mae hefyd yn cynnwys fframwaith "pwerau wedi eu cadw", gan olygu bod popeth yn cael ei ystyried wedi'i ddatganoli i Gymru, heblaw bod deddfwriaeth benodol yn dweud yn wahanol.

Yn ogystal, gall Senedd Cymru basio deddfau yn ymwneud â henebion ac adeiladau hanesyddol, gweinyddiaeth gyhoeddus, chwaraeon a hamdden, twristiaeth, cynllunio, amddiffynfeydd llifogydd, y Senedd ei hun a'r iaith Gymraeg.

Cynulliad neu Senedd?

Cafodd enw’r Cynulliad ei newid ar 6 Mai 2020 i Senedd Cymru, a hynny er mwyn adlewyrchu’n llawn ei statws cyfansoddiadol fel senedd sy’n deddfu ac yn pennu trethi.

Beth arall sydd wedi newid yn ddiweddar?

Rhoddodd yr un ddeddf yr hawl i bobl 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd hefyd. Dyna’r estyniad mwyaf i'r etholfraint ers 50 mlynedd.

Ar 8 Mai eleni, pleidleisiodd y Senedd o 43 i 16 i basio Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), fydd yn cynyddu nifer yr aelodau o 60 i 96 yn 2026.