'Brawychus' bod trais yn y cartref 'ym mhobman'

Person yn eistedd ar risiau gyda'u pen i lawrFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae angen i wasanaethau cyhoeddus gydweithio er mwyn cael “dull iechyd cyhoeddus” i fynd i’r afael â thrais yn y cartref, meddai ymgynghorydd Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Johanna Robinson fod angen i bobl sy'n gweithio o fewn gwasanaethau cyhoeddus fod yn fwy ymwybodol o arwyddion trais a cham-drin.

Ychwanegodd ei bod yn "frawychus" fod trais yn erbyn menywod "yn llythrennol ym mhobman".

Mae Johanna Robinson yn rhoi cyngor i'r llywodraeth ar y ffyrdd gorau o weithredu deddfwriaeth yn ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a cham-drin rhyw.

Wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast, dywedodd Johanna Robinson fod trais yn y cartref "ym mhobman, ond dyw pobl ddim eisiau meddwl am hynny achos mae e'n wirioneddol frawychus".

“Fel menyw ifanc, fe ges i brofiadau o ryw fath o gael fy aflonyddu neu fy nghyffwrdd, y math yna o beth, ac mae e'n dod yn normal," meddai.

“I rai pobl wedyn... yn enwedig mewn sefyllfaoedd o drais yn y cartref, ry'ch chi'n colli ymdeimlad o beth sy'n wir, a beth sy'n iawn."

Dywedodd Ms Robinson fod angen i staff proffesiynol gwasanaethau cyhoeddus "ar lawr gwlad ac ar lefel strategaethol" fod yn ymwybodol o arwyddion cam-drin a thrais.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd fod angen help, weithiau, ar bobl sy'n wynebu trais neu gamdriniaeth i sylweddoli fod hynny'n digwydd iddyn nhw.

“Sut ydych chi'n gwybod sut i gael cefnogaeth os na allwch chi wir ddadansoddi'r hyn ry'ch chi'n ei drafod?" meddai.

"Mae angen i ni greu amgylchedd lle all pobl gael y gefnogaeth honno ar y cyfle cynharaf posib, ond mae angen i ni hefyd sicrhau fod y gwasanaethau hynny ar gael.

"Felly er enghraifft, os ydw i'n fenyw dan 40 oed, a dwi wedi cael strôc, mae 'na siawns uchel fod hynny wedi digwydd... mewn sefyllfa o drais yn y cartref.

"Os nad yw aelod o staff proffesiynol sy'n gweithio mewn clinig strôc yn sylweddoli hynny fel rhan ohono, dy'n nhw ddim yn mynd i ofyn y cwestiynau hynny.

"Efallai na fydden i'n deall pam fod hynny wedi digwydd i mi o fewn y cyd-destun hwnnw.

"Felly mae angen i ni gael yr ymateb cywir yna yn y fan a'r lle."

'Gwael ar gyfer yr economi'

Dywedodd hefyd fod hynny'n cael effaith ehangach, gan gynnwys ar yr economi yn ei dro.

"Mae wir angen i ni gyd wneud rhywbeth am hyn," meddai.

"Mae'n wael iawn ar gyfer yr economi gan nad oes pobl yn gweithio, dy'n nhw ddim yn cyflawni eu potensial.

"Fydden i'n dadlau fod hyn o fudd i ni gyd ein bod ni'n gwneud rhywbeth am hyn cyn gynted ag sy'n bosib."

Yn ddiweddarach ddydd Llun fe fydd Johanna Robinson yn rhoi tystiolaeth i bwyllgor y Senedd fel rhan o ymchwiliad i “ddulliau iechyd y cyhoedd i atal trais ar sail rhywedd”.