Vaughan Gething: Un her yn ormod i Brif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Vaughan Gething wedi goresgyn sawl her yn ei fywyd ond roedd ymddiswyddiadau rhai o aelodau blaenllaw ei gabinet yn un her yn ormod iddo.
Toc wedi 11:00 fore Mawrth fe gyhoeddodd y bydd yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog Cymru ar ôl 118 diwrnod yn y rôl.
Daw hyn yn dilyn wythnosau o helbul gwleidyddol i Mr Gething, a gollodd bleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth yn ddiweddar.
Pwy ydy Vaughan Gething?
Yn ne cyfandir Affrica mae stori Vaughan Gething yn cychwyn.
Cafodd ei eni yn Lusaka, prifddinas Zambia, ym 1974 ar ôl i'w dad - milfeddyg o Aberogwr - symud yno i weithio a chyfarfod â mam Mr Gething, oedd yn cadw ieir.
Fe symudon nhw i Brydain ddwy flynedd yn ddiweddarach ac fe gafodd tad Mr Gething gynnig swydd ger Y Fenni.
Ond ar ôl iddo gyrraedd gyda'i deulu du, mae'n debyg i'r cynnig hwnnw gael ei dynnu'n ôl.
Symudodd y teulu felly dros y ffin i Dorset ble magwyd Vaughan Gething.
Ond flynyddoedd yn ddiweddarach daeth i Gymru - daeth yn fyfyriwr i Aberystwyth ac i fyw yn neuadd Gymraeg Pantycelyn.
Mae rhai wedi sôn am "lot o hwyl a thynnu coes" rhwng y cefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru yn y neuadd, ond dywedodd Mr Gething bod ei gyfnod ger y lli yn "annymunol" oherwydd ei ddaliadau gwleidyddol.
"Roeddwn i wedi synnu gweld pa mor anghyfforddus â pha mor flin oedd y rhaniadau rhwng cefnogwyr Plaid Cymru a Llafur," meddai mewn cyfweliad yn 2018.
"Doedd yr awyrgylch ddim wastad yn un caredig a chroesawgar."
Yn ystod ei amser yn Aberystwyth y cafodd Vaughan Gething ddiagnosis o syndrom neffrotig, sef math o glefyd yr arennau.
Bu'n rhaid iddo ailddechrau ei flwyddyn gyntaf yn astudio'r gyfraith.
Ddechrau eleni dywedodd mai dim ond ar ôl i gyffur newydd gael ei dreialu yr oedd yn gallu "edrych i'r dyfodol gyda theimlad o optimistiaeth unwaith eto".
Cafodd Vaughan Gething ei ethol yn llywydd ar Undeb y Myfyrwyr yn Aberystwyth, ac yna ar Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
Gweithio fel cyfreithiwr wnaeth Vaughan Gething nesa', cyn troi at wleidyddiaeth.
Cafodd ei ethol i Gyngor Caerdydd fel cynrychiolydd Tre-biwt yn 2004, ar ôl trechu Betty Campbell - prifathrawes ddu gyntaf Cymru - o ddwy bleidlais.
Yn anfodlon ag ymddygiad Mr Gething ar ddiwrnod yr etholiad, fe gyflwynodd Mrs Campbell gŵyn swyddogol i herio'r canlyniad.
Mynnu na wnaeth unrhyw beth o'i le wnaeth Vaughan Gething, a dywed ei fod ef a Mrs Campbell wedi dod yn ffrindiau unwaith eto erbyn diwedd ei gyfnod fel cynghorydd.
O Dre-biwt i'r Bae, cafodd Vaughan Gething ei ethol i'r Cynulliad, fel ag yr oedd, yn 2011 ac yna ei benodi i'r llywodraeth yn 2013.
2018 oedd y tro cyntaf iddo gystadlu am yr arweinyddiaeth, ble daeth yn ail y tu ôl i Mark Drakeford, ond o flaen Eluned Morgan.
Wedi hynny cafodd ei wneud yn weinidog iechyd - rôl a fyddai'n ei wneud yn ffigwr amlwg yn ystod y pandemig Covid-19 wrth i sylw digynsail gael ei daflu ar Lywodraeth Cymru, a chynyddu ei broffil fel gwleidydd.
Wedi i Mark Drakeford gyhoeddi ar ddechrau 2024 y byddai'n ymddiswyddo, brwydr rhwng Vaughan Gething a Jeremy Miles oedd hi i ddod yn brif weinidog nesaf Cymru.
Enillodd Mr Gething o drwch blewyn, gan gael ei ethol yr arweinydd du cyntaf yng Nghymru.
Ond taflwyd cysgod dros ei ymgyrch yn sgil rhodd o £200,000 gan gwmni dyn a gafwyd yn euog ddwywaith o droseddau amgylcheddol.
Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder hefyd ddechrau Mehefin.
Roedd hefyd wedi gorfod amddiffyn neges a yrrodd yn ystod y pandemig, tra'n weinidog iechyd, yn dweud wrth gydweithwyr ei fod yn dileu negeseuon testun o grŵp tecstio.
Roedd ei benderfyniad i ddiswyddo gweinidog yn sgil hynny wedi ychwanegu at y ffraeo.
Gwadodd Hannah Blythyn mai hi oedd ffynhonnell y stori, ond dywedodd Mr Gething fod y dystiolaeth yn dangos fod y negeseuon wedi dod o'i ffôn.
Fore Mawrth, fe gyhoeddodd y Prif Weinidog y dystiolaeth honno.
Dywedodd "Er mwyn eglurder a chywirdeb y ddadl ynglŷn â'r mater hwn yn y Senedd, credaf ei bod bellach yn iawn i nodi'r dystiolaeth a arweiniodd at y penderfyniad a gymerais."
Ond er cyhoeddi'r lluniau, roedd y pwysau i ymddiswyddo yn ormod ar Vaughan Gething.
Fore Mawrth, cyhoeddodd tri o weinidogion, Jeremy Miles, Lesley Griffiths, Julie James, a'r Cwnsler Cyffredinol, eu bod yn ymddiswyddo yn sgil diffyg hyder yn arweinyddiaeth Vaughan Gething.
Yn ôl Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, roedd yr ymddiswyddiadau yn "arwydd o ba mor ddwfn yw'r hollt o fewn y blaid bod pedwar gweinidog wedi penderfynu datgan eu cwynion yn gyhoeddus."
"Deallaf fod y pedwar wedi cysylltu â'r Prif Weinidog ddoe gan ofyn iddo ymddiswyddo, ond mae'r ymddiswyddiadau heddiw yn awgrymu’n gryf bod Mr Gething wedi gwrthod."
Bu aelodau Llafur yna'n cyfarfod i drafod y sefyllfa.
Roedd galwadau hefyd wedi dod o'r blaid Geidwadol a Phaid Cymru.
Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd: “Mae cyfnod Vaughan Gething fel prif weinidog yn dod i ben, yn gwbl briodol.
“Ond ni all Llafur dwyllo pobl Cymru. Roedd y gweinidogion hyn, fel Jeremy Miles, yn eistedd yn ei gabinet, fe safasant wrth ei ochr, ac maent ar fai am fethiant llywodraethu yng Nghymru."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Mae Vaughan Gething wedi arwain llywodraeth o anhrefn a rhoi ei hunan-les ei hun o flaen buddiannau pobl Cymru."
Fore Mawrth fe ddaeth y cyhoeddiad bod Vaughan Gething yn ymddiswyddo fel prif Weinidog Cymru, cwta bedwar mis ers cael ei benodi.