'Dwi ddim yn deall pam mod i'n vapio, ond mae'n anodd stopio'

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc wedi dweud nad yw hi'n deall pam ei bod yn defnyddio vapes, ond ei bod yn "hynod normal" i bobl dan 18 wneud.

Dywedodd Seren Teleri Williams-Turner ei bod yn vapio ers blwyddyn, ac er ei bod "wedi trio" rhoi'r gorau, bod hynny'n "anodd".

Mae arolwg newydd gan elusen gwrth-ysmygu ASH Cymru'n dangos bod hanner plant ysgol uwchradd sy'n vapio yn fwy tebygol o fod yn defnyddio rhai anghyfreithlon.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn poeni am y cynnydd yn nifer y plant sy'n vapio a'u bod yn cydweithio gyda Llywodraeth y DU i geisio taclo'r broblem.

'Dwi erioed wedi smygu'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, dywedodd Seren, sy'n fyfyriwr yng Nghaerdydd, ei bod wedi mynd yn "syth i'r vapes, dwi erioed wedi 'smygu".

Er ei bod wedi bod yn vapio ers blwyddyn, a bod ei chyfeillion yn gwneud hefyd, dywedodd: "Dwi ddim yn dallt pam 'mod i'n vapio, dwi ddim yn gwybod pam bo' fi 'di cychwyn, bad habit ydi o i fi achos mae o just yna."

Ychwanegodd ei bod "wedi trio" rhoi'r gorau, ond "mae o mor anodd rhoi o fyny".

Mae'n credu mai un o'r rhesymau bod llawer yn dechrau defnyddio vapes yw pa mor apelgar ydyn nhw, gan ddweud bod angen newid eu delwedd.

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Seren yn astudio cwrs theatr cerdd yng Nghaerdydd

Yn y DU mae rheolau llym y mae'n rhaid i vapes eu dilyn, gan gynnwys peidio cynnwys mwy na 2ml o hylif gyda 20mg o nicotin.

Mae wedi dod i'r amlwg bod vapes anghyfreithlon yn cael eu gwerthu mewn siopau teganau, yn ôl Safonau Masnach.

Wrth ganolbwyntio ar ardal Abertawe, maen nhw wedi cael gafael ar 140,000 o vapes anghyfreithlon.

Er mai 18 oed yw'r oed cyfreithlon i brynu vapes, dywedodd Seren ei bod yn sylwi ar "bobl tua 15 oed yn smocio vape a dwi'm yn meddwl bod o'n iawn".

'Bydd effaith yn y pen draw'

Mae Seren yn astudio theatr cerdd yn y brifysgol yng Nghaerdydd, ac fel cantores dywedodd nad yw'r vapio yn gwneud lles iddi: "Dwi'n gwybod 'neith o effeithio fi yn y long run."

E hyn, mae o'r farn mai "habit ydi o yn fwy na dim achos mae o bob tro yn fy llaw i, a phan dwi'n teimlo rhyw fath o stress neu anxiety, fyddai just yn gael moment i'n hun a gael vape, a dyna ydi o yr habit o gael o.”

"Dwi ddim yn meddwl fod pobl wir yn deall y dangers o vapio i bobl ifanc."

Dywedodd mai un o'r prif resymau bod vapes mor boblogaidd ymysg pobl ifanc yw eu delwedd.

"Dwi'n meddwl just y flavours gwahanol allwch chi gael, dyna 'di'r broblem ydi bod nhw mor lliwgar ac maen nhw'n apelio at blant."

Dywedodd y byddai "newid o fatha pacedi smôcs" lle nad yw'r ddelwedd yn apelio at y genhedlaeth iau yn atal pobl rhag eu defnyddio.

Aeth ymlaen i ddweud: "Os 'sa nhw really isho taclo hyn, 'sa nhw wedi newid y pecynnu yn barod, achos dwi ddim yn meddwl bod vapio yn beth da at all er bo' fi fy hun yn 'neud o."

Pynciau cysylltiedig